Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymuno ag undeb llafur

Yma cewch wybod beth yw undebau llafur a beth yw'r buddiannau i chi wrth fod yn aelod o undeb llafur. Er enghraifft, bydd undebau llafur yn ceisio negodi gyda’ch cyflogwr ynghylch telerau ac amodau eich cyflogaeth.

Beth yw undeb llafur?

Sefydliad o aelodau yw undeb llafur (mudiad seiliedig ar aelodau) a rhaid i’r rhan fwyaf o’r aelodau fod yn weithwyr. Un o brif amcanion undeb llafur yw diogelu a hybu buddiannau’u haelodau yn y gweithle.
Mae’r rhan fwyaf o undebau llafur yn annibynnol i unrhyw gyflogwr. Fodd bynnag, bydd undebau llafur yn ceisio datblygu perthynas waith agos gyda chyflogwyr. Gall hyn weithiau fod ar ffurf cytundeb partneriaeth rhwng y cyflogwr a’r undeb llafur sy’n nodi’u diddordeb cyffredin a’u hamcanion.
Mae undebau llafur yn:

  • negodi cytundebau gyda chyflogwyr ynghylch cyflogau ac amodau
  • trafod newidiadau mawr i’r gweithle megis diswyddo ar raddfa fawr
  • trafod pryderon eu haelodau gyda chyflogwyr
  • mynd gyda’u haelodau i gyfarfodydd disgyblu a chwyno
  • darparu cyngor cyfreithiol ac ariannol ar gyfer eu haelodau
  • darparu cyfleusterau addysgol a buddiannau defnyddwyr penodol megis disgownt ar yswiriant

Aelodaeth o undebau llafur: eich hawl i ddewis

Yn ôl y gyfraith, ni all eich cyflogwyr eich cosbi os byddwch yn dewis ymuno ag undeb llafur neu’n dewis peidio ag ymuno. Yn yr un modd, os ydych yn aelod o undeb llafur eisoes, ni chaniateir i’ch cyflogwyr eich cosbi os byddwch yn dewis gadael yr undeb neu barhau i fod yn aelod.

Buddiannau o fod yn aelod o undeb llafur

Gall undebau llafur ddarparu nifer o fuddiannau ar gyfer eu cleientiaid. Bydd rhai gweithwyr yn ymuno ag undeb llafur oherwydd eu bod yn credu y gall undeb llafur:

  • negodi gwell tâl
  • negodi gwell amodau gweithio, megis mwy o wyliau neu well iechyd a diogelwch
  • darparu hyfforddiant ar gyfer sgiliau newydd
  • hybu dysgu gydol oes darparu cyngor cyfreithiol ac ariannol
  • darparu buddiannau defnyddwyr amrywiol (ee cynigion disgownt neu dalebau ar gyfer siopau a gwasanaethau)
  • darparu cymorth a chyngor ar gyfer problemau yn y gwaith

Gall undebau llafur hefyd gynrychioli buddiannau’u haelodau tu hwnt i’r gweithle. Er enghraifft, gall undebau llafur lobïo’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu eraill am bolisïau sy’n hybu eu hamcanion.
I gael gwybod am yr hyn y mae eich undeb llafur yn ei ddarparu, gallwch fynd at wefan eich undeb llafur neu lawlyfr aelodau, neu siarad gyda chynrychiolydd undeb llafur yn eich gweithle.

Sut mae ymuno ag undeb llafur

Pan fo undeb llafur wedi'i sefydlu mewn gweithle, gall rhai gweithwyr weithredu fel cynrychiolydd undeb llafur. Os ydych yn cael eich cyflogi mewn gweithle o'r fath ac y carech ymuno ag undeb llafur, gallech fynd at gynrychiolydd undeb llafur, megis stiward siop neu gynrychiolydd dysgu undeb llafur am ragor o wybodaeth.
Nid oes raid i chi fod yn aelod o undeb llafur sy’n cael ei gydnabod gan eich cyflogwr ar gyfer negodi cyflog ac amodau. Fodd bynnag, os byddwch yn ymuno ag undeb llafur ar wahân i’r un sy’n cael ei gydnabod gan eich cyflogwr, mae’n bosib y bydd gan eich undeb llafur llai o ddylanwad ar faterion sy’n effeithio arnoch yn y gweithle.
Ni all eich cyflogwr fynnu eich bod yn ymuno ag undeb llafur penodol, ac ni all eich disgyblu na’ch diswyddo am ymuno ag undeb llafur o’ch dewis, neu am ddewis peidio â bod yn aelod o undeb llafur.

Sut mae dod o hyd i undeb llafur

Mae sawl gwahanol ffordd y gallwch ddod o hyd i undebau llafur.

Yn eich gweithle

Mae’n bosib y gallwch gael gwybod pa undeb llafur sy’n cael ei gydnabod yn eich gweithle drwy chwilio am hysbysiadau undebau llafur ar hysbysfyrddau staff neu ar fewnrwyd eich gweithle, neu drwy ofyn i'ch cyflogwr.
Mae’n bosib na fydd rhai grwpiau sy’n cynrychioli’ch cyflogwr yn y gweithle, megis Ffederasiwn yr Heddlu, yn ymddangos ar restrau'r Swyddog Ardystio neu'r TUC gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn gyfreithiol fel undebau llafur.

Drwy Gyngres yr Undebau Llafur (TUC)

Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yw'r sefydliad ambarél mwyaf sy’n cynrychioli undebau llafur y DU. Mae ganddynt restr o’r undebau llafur sy’n aelodau iddynt.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan TUC workSMART, sydd â theclyn rhyngweithiol i’ch helpu i ddod o hyd i undeb llafur yn eich gweithle, neu un sy’n delio â’ch cyflogaeth benodol chi.

Drwy’r Swyddog Ardystio

Corff cyhoeddus yw’r Swyddog Ardystio sydd â rhestr manylion y mwyafrif o’r undebau llafur. Os ydych yn gwybod enw’r undeb llafur y carech ymuno â, gallwch ddod o hyd i'w manylion drwy wefan y Swyddog Ardystio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU