Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dylai cyflogwyr bob amser ymgynghori â chyflogeion cyn eu diswyddo ar sail dileu swydd. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd – drwy ymgynghoriad unigol, a drwy ymgynghoriad ar y cyd. Dylai'ch cyflogwr ymgynghori â chi’n unigol bob tro, ac efallai y bydd yn rhaid cynnal ymgynghoriad ar y cyd.
Mewn ymgynghoriad yn y gweithle, bydd eich cyflogwr yn trafod ei gynlluniau gyda chi neu’ch cynrychiolwyr ac yn gwrando ar eich syniadau.
Os yw'ch cyflogwr yn ystyried dileu swyddi, dylai ymgynghori ag unrhyw gyflogeion y gallai ei benderfyniad effeithio arnynt. Dylai’r broses ymgynghori geisio rhoi cyfle i gyflogeion ddylanwadu ar y broses dileu swyddi. Dylid cynnal yr ymgynghoriad mewn ysbryd cydweithredol gyda’r nod o ddod i gytundeb ynghylch y camau a gymerir.
Dylai eich cyflogwr bob amser ymgynghori â chi’n unigol. Gan amlaf, bydd hyn yn cynnwys:
Os na wneir hyn, efallai i chi gael eich diswyddo'n annheg.
Os yw’ch cyflogwr yn ystyried dileu swyddi 20 neu fwy o gyflogeion mewn un sefydliad o fewn cyfnod o 90 niwrnod, dylai ymgynghori â chynrychiolwyr y cyflogeion. Dim ond cyflogeion a gaiff eu cynnwys wrth gyfrif nifer y swyddi a gaiff eu dileu – nid yw ‘gweithwyr’ heb statws cyflogaeth yn cyfrif.
Bydd pwy y bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ymgynghori ag ef yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn cael eich cynrychioli gan undeb llafur ai peidio. Gelwir y broses hon yn ymgynghoriad ar y cyd.
Os ydych chi’n cael eich cynrychioli gan undeb llafur cydnabyddedig yn eich gweithle, dylai'ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd â chynrychiolwyr yr undeb llafur. Os bydd eich cyflogwr yn ymgynghori a’ch undeb llafur, ni fydd rhaid iddo ymgynghori ar y cyd â neb arall.
Os nad yw'ch cyflogwr yn cydnabod undeb llafur neu'ch bod yn gweithio i ran o'r cwmni na chynrychiolir gan undeb llafur cydnabyddedig, dylai'ch cyflogwr wneud trefniadau i chi allu ethol cynrychiolwyr. Bydd y cynrychiolwyr hyn yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar eich rhan.
Gallai'r cynrychiolwyr fod yn eich cynrychioli eisoes, er enghraifft, yn rhan o drefniadau parhaus ar gyfer ymgynghori a rhannu gwybodaeth, neu gallent gael eu hethol yn benodol ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Rhaid bod gan y cynrychiolwyr yr awdurdod i'ch cynrychioli, a rhaid iddynt fod yn addas i ymgymryd â'r dasg. Er enghraifft, ni fyddai'n briodol ymgynghori am ddileu swyddi sy'n effeithio ar staff yr adran gwerthu gyda phwyllgor a sefydlwyd yn arbennig i drafod y modd y gweithredir ffreutur y staff.
Rhaid i’r ymgynghoriad fod yn un ystyrlon. Rhaid iddo fod yn ddilys, a chael ei gynnal gyda’r bwriad o ddod i gytundeb. Rhaid iddo ymdrin â’r canlynol:
Efallai y ceir amgylchiadau arbennig lle na fydd yn rhesymol ymarferol i'ch cyflogwr ymgynghori’n llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau y bydd yn ymgynghori cymaint â phosib.
Er mwyn galluogi cynrychiolwyr i wneud cynigion adeiladol, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ddarparu digon o wybodaeth ysgrifenedig iddynt mewn da bryd, gan gynnwys:
Bydd rhybudd terfynu yn datgan ar ba ddyddiad y bydd eich cyflogaeth yn dod i ben, e.e. y dyddiad y caiff eich swydd ei dileu. Ni ellir cyhoeddi rhybudd terfynu nes bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, hyd yn oed os bydd angen i’r ymgynghoriad bara’n hirach na’r cyfnod lleiaf.
Os bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben yn llwyr o fewn y cyfnod lleiaf, mae’n bosib y cyflwynir rhybudd terfynu i chi. Ni all y rhybudd ddod i rym nes bydd y cyfnod lleiaf wedi dod i ben, oni bai y byddwch yn cytuno i adael yn gynnar, er enghraifft drwy gymryd tâl yn lle rhybudd.
Rhaid i ymgynghoriad ddechrau mewn da bryd, a phara cyhyd ag sydd angen. Dylid ei gynnal gyda’r nod o ddod i gytundeb, ond gall ddod i ben cyn dod i gytundeb. Dylai’ch cyflogwr roi cyfle teg i'ch cynrychiolwyr gyflwyno sylwadau am y cynigion a chynnig opsiynau eraill, a dylai'ch cyflogwr ystyried y rheini o ddifrif. Eich cyflogwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Does dim cyfyngiad amser ar hyd ymgynghoriad, ond ceir hyd cyfnod lleiaf rhwng dechrau’r ymgynghoriad a mynd ati i ddileu’r swyddi. Mae hyd y cyfnod lleiaf yn dibynnu ar nifer y swyddi y mae’ch cyflogwr yn bwriadu ei dileu. Os yw’n bwriadu:
Efallai y gallwch chi neu’ch cyflogwr wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am ‘ddyfarniad gwarchodol’ os bydd eich cyflogwr:
Gallai Tribiwnlys Cyflogaeth gyflwyno 'dyfarniad gwarchodol' o hyd at 90 diwrnod o gyflog ar gyfer pob cyflogai perthnasol. Y Tribiwnlys Cyflogaeth fydd yn penderfynu ar y swm, yn seiliedig ar fethiant eich cyflogwr a'r amgylchiadau.
Os bwriedir dileu 20 neu fwy o swyddi o fewn cyfnod o 90 diwrnod, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr roi gwybod i’r Swyddfa Taliadau Dileu Swydd briodol am ei fwriad cyn anfon unrhyw rybuddion terfynu at gyflogeion.
Rhaid cyflwyno’r rhybudd hwn 30 niwrnod o leiaf cyn dileu unrhyw swyddi, ac os bwriedir dileu 100 neu fwy o swyddi, rhaid eu cyflwyno 90 niwrnod o leiaf cyn dileu unrhyw swyddi.
Gwneir hyn er mwyn galluogi'r llywodraeth i baratoi cymorth ar gyfer y rheini y bydd eu swyddi'n cael eu dileu drwy roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith leol, er mwyn iddynt allu rhoi cyngor i’r cyflogeion perthnasol ar ailhyfforddi neu chwilio am swydd newydd
Mae rhoi gwybod yn rhan o'r broses ymgynghori. Rhaid i’ch cyflogwr ddarparu copi o’r rhybudd i'ch cynrychiolwyr hefyd. Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i’r llywodraeth yn briodol, gellir rhoi dirwy iddo.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda’ch hawliau cyflogaeth, mae gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) linell gymorth ddi-dâl gyfrinachol a diduedd. Neu, gallech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.