Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dewisiadau o ran dileu swyddi a chyfnodau rhybudd

Dylai'ch cyflogwr ddefnyddio dull teg a gwrthrychol wrth ddewis dileu swyddi pobl. Mae hyn yn golygu y dylai fod yn seiliedig ar rywfaint o dystiolaeth yn hytrach na phenderfyniad eich cyflogwr yn unig o ran pwy y mae am roi rhybudd iddo/iddi.

Dulliau dethol

Os penderfynwyd gydag undeb llafur ar ddull o ddewis pa swyddi i'w dileu, dylai'ch cyflogwr gydymffurfio. Fel arall, ceir rhai dulliau cyffredin y gallai eich cyflogwr eu defnyddio a'u cyfuno wrth ddewis cyflogeion y mae am ddileu eu swyddi.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd angen i'ch cyflogwr ddilyn proses ddethol gan y bydd y grŵp o gyflogeion a fydd yn colli eu swyddi yn amlwg. Er enghraifft, os bydd eich cyflogwr yn cau adran benodol mewn cwmni ac y bydd yn rhaid iddo ddileu swyddi pawb sy'n gweithio yn yr adran honno.

Cronfeydd dethol

Un dull y gallai eich cyflogwr ei ddefnyddio yw ystyried o ba grŵp neu adran o'r gweithlu y dewisir dileu swyddi. Gelwir hyn yn ‘gronfa ddethol'.

Ar ôl pennu'r gronfa ddethol, dylai'r cyflogwr wneud meini prawf dethol yn berthnasol i hyn, er mwyn lleihau nifer y cyflogeion. Dylai eich cyflogwr, cyn belled ag y bo modd, ddefnyddio meini prawf gwrthrychol y gellir eu rhoi ar waith yn gyfartal ac yn deg ar draws y gweithlu. Enghreifftiau o feini prawf dethol fyddai:

  • cofnodion disgyblu
  • profiad
  • gallu
  • sgiliau a gallu perthnasol

Ni chaiff eich cyflogwr ddethol dileu swyddi pobl ar sail y canlynol:

  • rhyw
  • statws priodasol
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hil
  • anabledd
  • crefydd neu gred
  • oed
  • aelodaeth o undebau llafur
  • gweithgareddau iechyd a diogelwch
  • patrwm gweithio (ee cyflogeion rhan-amser neu gyfnod penodol)

Os bydd eich cyflogwr yn dewis dileu eich swydd ar sail unrhyw un o'r uchod, yna bydd dileu eich swydd yn achos o ddiswyddo annheg yn awtomatig.

Olaf i mewn cyntaf allan

Gall eich cyflogwr ystyried hyd gwasanaeth pob cyflogai gyda'r cwmni, a dewis y rheini sydd wedi gwasanaethu'r cwmni am y cyfnod byrraf (y rhai olaf i ymuno). Gall hyn weithiau fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran os bydd yn effeithio ar un grŵp oedran yn fwy na'r llall, oni bai y gall eich cyflogwr gyfiawnhau hynny'n wrthrychol.

Dethol annheg

Ni chaiff eich cyflogwr ddefnyddio rhesymau personol dros ddewis dileu eich swydd chi. Os bydd yn defnyddio unrhyw un o'r rhesymau canlynol fel sail i'w benderfyniad dros ddileu eich swydd, yna bydd y broses ddileu swydd yn annheg yn awtomatig ac mae'n bosib y gallwch gyflwyno cais gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth am ddiswyddo annheg:

  • unrhyw reswm yng nghyswllt absenoldeb mamolaeth, genedigaeth neu feichiogrwydd neu unrhyw absenoldeb teuluol arall, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhieni neu ddibynyddion
  • os ydych chi'n anabl
  • eich bod wedi trosglwyddo cyflogwr ac yn cael eich gwarchod dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (TUPE)
  • yn aelod, neu heb fod yn aelod o undeb llafur
  • eich bod yn ymarfer eich hawliau statudol (er enghraifft, yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig am fanylion eich cyflogaeth)
  • chwythu'r chwiban (sef datgelu camweithredu ar ran y cyflogwr)
  • cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon sy'n para 12 wythnos neu lai
  • gweithredu ar sail iechyd a diogelwch
  • gwneud gwasanaeth rheithgor
  • eich bod yn ymddiriedolwr i gynllun pensiwn cwmni

Os teimlwch fod eich cyflogwr wedi'ch dewis chi yn annheg, dylech apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhowch eich apêl ar bapur, gan esbonio beth yr ydych am i'r cyflogwr ei wneud i unioni'r sefyllfa. Bydd y ffordd a ddefnyddiwyd eich dewis yn effeithio ar benderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth ynghylch a oedd dileu eich swydd chi'n deg ai peidio.

Yn sicr mae'n annheg os dewisir dileu eich swydd am resymau gwahaniaethol. Gall y rhain fod yn uniongyrchol (er enghraifft, oherwydd eich bod ar absenoldeb mamolaeth). Gallant hefyd fod yn anuniongyrchol (er enghraifft, mae mwy o ferched yn gweithio'n rhan-amser ac felly gallai'r cyflogwr fod yn gwahaniaethu yn erbyn merched os dewisir gweithwyr rhan-amser).

Eich cyflogwr fydd yn penderfynu pa resymau i'w defnyddio dros ddewis dileu swyddi cyflogeion, dim ond iddo allu dangos eu bod yn deg. Y rhesymau a ddefnyddir amlaf yw:

  • olaf i mewn, cyntaf allan (lle dewisir y gweithwyr sydd wedi gweithio leiaf i'r cwmni gyntaf)
  • gofyn am wirfoddolwyr (hunan ddewis)
  • cofnodion disgyblu
  • sgoriau gwerthusiadau staff a sgiliau, cymwysterau a phrofiad y staff

Weithiau gall cyflogwr ddefnyddio cyfuniad o feini prawf, gan ddefnyddio rhyw fath o system bwyntiau o bosibl i gael sgôr cyffredinol.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn dewis pobl drwy ofyn iddynt ailymgeisio am eu swyddi eu hunain. Dylech gofio mai dim ond ffordd yw hyn eto o alluogi cyflogwr i benderfynu pwy i'w ddewis ar gyfer dileu swydd. Os penderfynwch beidio â gwneud cais neu os byddwch yn aflwyddiannus, mae gennych swydd o hyd nes i'ch cyflogwr ddileu eich swydd.

Os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer y drefn dileu swydd, eich cyflogwr fydd yn penderfynu a fydd yn eich dewis ar gyfer hynny.

Cyfnodau rhybudd dileu swydd

Os yw eich cyflogwr wedi penderfynu dileu eich swydd chi, mae'n rhaid i chi gael cyfnod rhybudd cyn y daw eich cyflogaeth i ben. Mae'r cyfnodau rhybudd dileu swydd statudol fel a ganlyn:

  • o leiaf un wythnos o rybudd os ydych wedi'ch cyflogi rhwng un mis a dwy flynedd
  • rhybudd o wythnos am bob blwyddyn os cawsoch eich cyflogi rhwng dwy flynedd a 12 mlynedd
  • 12 wythnos os cawsoch eich cyflogi am 12 mlynedd neu fwy

Fodd bynnag, dylech hefyd ddarllen eich contract cyflogaeth gan y gallai eich cyflogwr fod wedi pennu cyfnodau rhybudd hwy.

Tâl yn lle rhybudd diswyddo

Mewn rhai achosion mae'n bosib y bydd eich cyflogwr wedi cynnwys taliad yn lle rhybudd diswyddo yn eich contract cyflogaeth. Mae hyn yn golygu y gall eich cyflogwr ddod â'ch contract cyflogaeth i ben heb roi dim rhybudd, fodd bynnag, mae'n rhaid iddo roi taliad o'r holl dâl y byddech wedi'i gael yn ystod y cyfnod rhybudd. Mae hyn yn cynnwys cyflog sylfaenol a gallai gynnwys materion eraill megis y swm cyfatebol o gyfraniadau pensiwn neu yswiriant gofal iechyd preifat.

Ble mae cael cymorth

Llinell gymorth Acas

08457 47 47 47

Os na chewch eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Mae Acas (Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor di-duedd, cyfrinachol am ddim ar holl faterion hawliau cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU