Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo eich tâl dileu swydd

Mae faint o dâl dileu swydd gewch chi'n dibynnu ar eich cyflog, ers faint yr ydych wedi gweithio i'r cwmni a'ch oed. Os ydych yn ceisio cyfrifo eich tâl dileu swydd, gallwch gael gwybod sut y cyfrifwyd neu defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein.

Tâl dileu swydd dan gontract

Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth i weld faint o dâl dileu swydd mae gennych hawl iddo. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig pecynnau mwy hael i'w cyflogeion na'r gofynion sylfaenol statudol fel rhan o'u buddion cyflogaeth.

Ni chaiff eich cyflogwr gynnig llai i chi na'r gofynion sylfaenol statudol a nodir yn eich contract cyflogaeth.

Tâl dileu swydd statudol

Mae’r cyfanswm y dylech ei gael yn seiliedig ar y canlynol:

  • ers faint rydych chi wedi'ch cyflogi'n ddi-dor
  • eich oedran
  • eich tâl wythnosol, hyd at derfyn penodol (£430 yw’r uchafswm ar hyn o bryd)

Cewch:

  • 0.5 o'ch tâl wythnosol am bob blwyddyn lawn o wasanaeth pan oeddech dan 22 oed
  • 1 wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn o wasanaeth pan oeddech yn 22 oed neu'n hŷn, ond yn iau na 41 oed
  • 1.5 wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn o wasanaeth pan oeddech yn 41 oed neu'n hŷn

20 mlynedd yw uchafswm y blynyddoedd y gellir eu hystyried. Ni ellir rhoi tâl dileu swydd statudol i chi am fwy na 20 mlynedd o gyflogaeth.

Enghraifft: Os ydych dan 45 oed, mae eich tâl wythnosol yn £430 yr wythnos ac rydych wedi gwasanaethu ers 15 mlynedd lawn, cewch £7,310 o dâl dileu swydd statudol.

Cam un: 1.5 wythnos x 4 blynedd o wasanaeth pan oeddech yn 41 oed neu'n hŷn = 6 wythnos

Cam dau: 1 wythnos x 11 mlynedd o wasanaeth pan oeddech yn iau na 41 oed = 11 wythnos

Cam tri: 6 wythnos + 11 wythnos = 17 wythnos x £430 (cyflog wythnosol mwyaf posib) = £7,310 o dâl dileu swydd

Mae’r cyfrifiannell ar-lein yn gallu helpu i gyfrifo'r swm tâl dileu swydd statudol y mae’n bosib y bod gennych hawl iddo.

Dyddiad gorffen perthnasol am flynyddoedd o wasanaeth

Cyfrifir yr wythnosau o dâl dileu swydd y dylech ei gael hyd at 'ddyddiad perthnasol' penodedig. Mae'n bwysig gwybod beth yw'r dyddiad hwn er mwyn i chi allu cyfrifo ers sawl mlynedd o wasanaeth yr ydych wedi'i roi.

Gall y ‘dyddiad perthnasol’ fod yn nifer o ddyddiadau. Yn y rhan fwyaf o achosion hwn yw'r dyddiad y daw eich cyflogaeth i ben (hy dyddiad olaf eich cyfnod rhybudd). Bydd hyn yn wahanol mewn ambell sefyllfa:

  • os rhoddodd eich cyflogwr gyfnod rhybudd statudol i chi hyd at ddyddiad penodol, cyn newid eich cyfnod rhybudd i ddyddiad cynharach - y dyddiad perthnasol yw'r dyddiad y dylai eich rhybudd fod wedi dod i ben cyn iddo gael ei newid
  • os ydych ar gyfnod prawf ar gyfer swydd arall yn y cwmni a bod eich cyflogwr yn penderfynu nad yw'r gwaith yn addas - y dyddiad perthnasol fyddai'r dyddiad y daeth eich contract gwreiddiol i ben cyn y cyfnod prawf
  • os na roddir cyfnod rhybudd statudol i chi (ee oherwydd trefniant tâl yn lle cyfnod rhybudd) - y dyddiad perthnasol fyddai pan fyddai eich contract cyflogaeth wedi dod i ben os rhoddwyd cyfnod rhybudd statudol i chi

Treth

Nid yw tâl dileu swydd sy’n is na £30,000 yn drethadwy. Mae mwy o wybodaeth ar ba un ai mae elfennau o’r taliad, fel tâl yn lle rhybudd (PILON), yn drethadwy ar gael gan Gyllid a Thollau EM. Arian a delir i chi gan eich cyflogwr yn lle eich rhybudd llawn yw tâl yn lle rhybudd.

Ble mae cael cymorth

Llinell gyngor Acas

08457 47 47 47

Os na chewch eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda dileu swydd, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Allweddumynediad llywodraeth y DU