Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, cewch wybod am yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i ymdopi â cholli swydd. Gallwch gael gwybod beth yw eich hawliau, chwilio am waith a chael help ymarferol wrth wneud cais am swyddi eraill. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cynghorydd budd-daliadau ar-lein i gael gwybod pa fudd-daliadau y gallai fod gennych chi neu eich teulu hawl iddynt.
Gall colli eich swydd fod yn amser pryderus, ond mae cefnogaeth ar gael. Os ydy eich swydd am gael ei dileu, dylai eich cyflogwr eich trin yn deg. Ceir rhai camau y disgwylir i'ch cyflogwr eu cymryd.
Fe allech chi hefyd fod â hawl i gael tâl dileu swydd. Gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo faint o arian dileu swydd mae gennych chi hawl iddo.
Ar eich diwrnod olaf yn y gwaith dylech chi gael yr holl dâl mae gennych chi hawl iddo, a thaliad am unrhyw gyfnod rhybudd sy'n ddyledus nad ydych chi wedi'i weithio. Dylech gael:
Y Ganolfan Byd Gwaith sydd â chronfa ddata fwyaf Prydain o swyddi gwag. Gallwch ddefnyddio'r offer chwilio am swyddi a sgiliau i ddod o hyd i swydd sy'n addas i chi. Gallwch hefyd gael awgrymiadau am sut mae llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau am swyddi drwy ddilyn y dolenni isod.
Fel rhan o'ch hawliad budd-daliadau, efallai y gofynnir i chi am unrhyw daliadau dileu swydd rydych chi wedi'u cael gan eich cyflogwr. Bydd eich cynghorydd Canolfan Byd Gwaith yn egluro a fydd y taliadau hyn yn effeithio ar eich hawliad ai peidio.
Efallai y byddwch chi neu eich partner yn cael taliad gan eich cyflogwr pan ddaw eich swydd i ben, ee tâl terfynol, tâl os ydych chi wedi gweithio wythnos mewn llaw, tâl gwyliau. Ni chaiff y taliadau hyn eu hystyried wrth ystyried eich hawliad am Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm.
Gallwch ddefnyddio'r cynghorydd budd-daliadau ar-lein i'ch helpu i ganfod pa fudd-daliadau mae gennych chi hawl iddynt.
Os ydych chi'n poeni neu os oes gennych chi gwestiynau ynghylch sut gallai colli eich swydd effeithio ar gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau. Mae'n fudiad di-elw annibynnol sy'n darparu gwybodaeth ac arweiniad am ddim. Gall y gwasanaeth hefyd eich helpu os oes gennych chi broblem, cwyn neu anghydfod gyda'ch darparwr pensiwn preifat neu alwedigaethol.
Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ddarparu cymorth a chyngor am ddim am beth yw eich hawliau os caiff eich swydd ei dileu.