Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw'ch cyflogwr yn ystyried dileu swyddi, dylai ymgynghori â'i gyflogeion. Os yw'n ystyried diswyddo 20 neu ragor o weithwyr, dylai ymgynghori ar y cyd â'ch cynrychiolydd undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd cyflogeion arall.
Os cewch eich cynrychioli gan undeb llafur gydnabyddedig yn eich gweithle, bydd rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori ag un o swyddogion awdurdodedig yr undeb honno. Gallai'r swyddog hwn fod yn un o'r canlynol:
Os nad yw'ch cyflogwr yn cydnabod undeb llafur, neu'ch bod yn gweithio i ran o'r cwmni na chaiff ei gynrychioli gan undeb llafur cydnabyddedig, dylai'ch cyflogwr wneud trefniadau fel bod modd i chi ethol cynrychiolwyr. Bydd y cynrychiolwyr hyn yn cymryd rhan yn yr ymgynghori ar eich rhan.
Gallai'r cynrychiolwyr fod yn eich cynrychioli eisoes (er enghraifft, maent yn rhan o drefniadau parhaus ar gyfer ymgynghori a rhannu gwybodaeth) neu gallent gael eu hethol yn benodol ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Rhaid bod gan y cynrychiolwyr yr awdurdod i'ch cynrychioli, a rhaid iddynt fod yn addas i ymgymryd â'r dasg. Er enghraifft, ni fyddai'n briodol ymgynghori am ddileu swyddi sy'n effeithio ar staff yr adran gwerthu gyda phwyllgor a sefydlwyd yn arbennig i drafod y modd y gweithredir ffreutur y staff.
Os byddwch angen ethol cynrychiolwyr ar gyfer yr ymgynghori, dylai'ch cyflogwr wneud y canlynol:
Gall unrhyw gyflogai y bydd y bwriad i ddileu swyddi yn effeithio arnynt sefyll i'w hethol fel cynrychiolydd cyflogeion. Caiff unrhyw gyflogeion yr effeithir arnynt bleidleisio yn yr etholiad ar gyfer cynrychiolwyr, a chânt bleidleisio dros faint bynnag o ymgeiswyr ag a fydd o gynrychiolwyr yn y pen draw.
Os na chewch eich cynrychioli gan undeb llafur cydnabyddedig, ac na fyddwch yn ethol cynrychiolwyr er mwyn ymgynghori â hwy, gall eich cyflogwr ymgynghori'n uniongyrchol â chi.
Mae gan gyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion hawliau penodol, a mesurau i'w hamddiffyn. Mae'r rhain yn gadael iddynt gymryd rhan yn y broses ymgynghori heb rwystr. Chaiff eich cyflogwr mo'ch diswyddo na pheri i chi fod ar eich colled (ee drwy beidio â rhoi codiad cyflog i chi neu leihau'ch oriau) os byddwch chi'n cymryd rhan mewn etholiad i fod yn gynrychiolydd, neu'n cyflawni'ch dyletswyddau fel cynrychiolydd.
Os ydych chi'n gynrychiolydd, mae disgwyl i'ch cyflogwr adael i chi gael cyswllt priodol â'r bobl yr ydych yn eu cynrychioli, a sicrhau bod cyfleusterau penodol, megis ffôn, ar gael at eich defnyddd, fel y gallwch eu cynrychioli mewn modd effeithiol. Mae gennych hefyd hawl i gael rhywfaint o amser gyda thâl, o fewn rheswm, i ffwrdd o'r gwaith er mwyn cyflawni'ch dyletswyddau. Mae beth sydd 'o fewn rheswm' yn amrywio ym mhob sefyllfa.
Os cewch eich diswyddo neu eich bod ar eich colled oherwydd i chi sefyll etholiad fel cynrychiolydd neu oherwydd i chi ymgymryd â dyletswyddau cynrychiolydd dros dro, efallai y gallech ddwyn achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda'ch hawliau cyflogaeth, ewch i dudalen cysylltiadau defnyddiol yr adran cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.