Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw eich swydd yn debygol o gael ei dileu, efallai y dowch o hyd i waith newydd gyda chyflogwr newydd neu efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd wahanol i chi. Yma, cewch wybod am y gwahanol brosesau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau, ac am sut y gallwch gael cymorth.
Os yw eich cyflogwr am ddileu eich swydd, dylai geisio cynnig ‘swydd arall addas’ i chi o fewn ei sefydliad neu gwmni cysylltiedig, lle bo'n bosib.
A yw swydd yn 'swydd arall addas' ai peidio? Mae hyn yn dibynnu ar nifer o bethau, gan gynnwys y canlynol:
Os yw’ch swydd yn cael ei dileu gan nad oes digon o waith, efallai y bydd mwy o waith yn dod i’r cwmni cyn i chi golli eich swydd. Yna, gall eich cyflogwr gynnig eich swydd yn ôl i chi fel ‘swydd arall addas’.
Dylid cynnig unrhyw swydd arall cyn i'ch hen swydd ddod i ben. Dylech gael digon o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y bydd y swydd newydd yn ei gynnwys er mwyn i chi wybod pa mor wahanol ydyw i'ch hen swydd.
Yn ystod cyfnod dileu eich swydd, dylech gael gwybod am swyddi gwag sydd ar gael yn y cwmni.
Os oes gan eich cyflogwr swydd arall addas ond nad yw’n ei gynnig i chi, gallai’r ffaith eich bod yn colli'ch swydd fod yn ddiswyddo annheg yn awtomatig.
Os yw eich cyflogwr yn cynnig swydd arall i chi, mae gennych chi’r hawl i gael cyfnod treial o bedair wythnos. Diben y cyfnod hwn yw eich helpu i benderfynu a yw’r swydd yn swydd arall addas, ac i helpu’ch cyflogwr i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer y swydd. Os oes arnoch angen hyfforddiant ar gyfer y swydd newydd, gall y cyfnod o bedair wythnos gael ei ymestyn drwy gytundeb ysgrifenedig.
Os byddwch yn penderfynu nad yw’r swydd newydd yn addas, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr yn ystod y cyfnod treial. Ni fydd hyn yn cael effaith ar eich hawliau cyflogaeth, gan gynnwys eich hawl i gael Tâl Dileu Swydd Statudol.
Oni fyddwch wedi rhoi rhybudd erbyn diwedd y cyfnod prawf, bydd eich hawl i gael Tâl Dileu Swydd Statudol yn dod i ben.
Os bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd arall addas i chi a chithau'n ei gwrthod yn afresymol, mae'n bosib y byddwch chi'n colli'ch hawl i gael Tâl Dileu Swydd Statudol.
Gall Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu ar anghydfodau ynghylch a yw swydd yn addas neu a ydych yn gwrthod yn afresymol. Gall Tribiwnlys benderfynu a oes gennych chi'r hawl i gael tâl dileu swydd.
Os ydych wedi'ch cyflogi'n barhaus am ddwy flynedd erbyn y dyddiad y daw eich rhybudd i ben, mae gennych hawl i gyfnod rhesymol o'r gwaith yn ystod y cyfnod rhybudd i wneud y canlynol:
Bydd faint o amser a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os byddwch yn mynd i gyfweliad neu ddau ac yn peidio â chymryd gormod o amser i deithio, mae’n debygol y bydd hyn yn rhesymol.
Faint bynnag o amser y byddwch yn ei gymryd i ffwrdd, dim ond hyd at ddwy ran o bump o'ch cyflog wythnosol y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi. Er enghraifft, os ydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, ac yn cymryd pedwar diwrnod o’r gwaith yn ystod y cyfnod rhybudd cyfan, dim ond am y ddau ddiwrnod cyntaf y byddai’n rhaid i'ch cyflogwr eich talu.
Os bydd eich swydd newydd yn dechrau cyn i’ch rhybudd dileu swydd ddod i ben, ceisiwch negodi â'ch cyflogwr i gael eich rhyddhau yn gynnar, heb golli eich tâl dileu swydd. Mae cyflogwyr yn aml yn fodlon gwneud y trefniadau hyn.
Os na fydd eich cyflogwr yn cytuno i’ch rhyddhau yn gynnar, dylech roi ‘gwrthrybudd ysgrifenedig’ iddo yn nodi pryd y byddech yn dymuno gorffen. Dylai'ch cyflogwr ysgrifennu'n ôl atoch i ddweud a gewch chi orffen yn gynnar ai peidio.
Os byddwch yn gadael yn gynnar heb ganiatâd eich cyflogwr, gallech golli rhywfaint neu'r cyfan o'ch tâl dileu swydd. Fel arfer, bydd hyn ond yn broblem os bydd eich cyflogwr yn rhoi cyfnod rhybudd dileu swydd hirach na'r isafswm statudol i chi.
Os oes gennych broblem, ceisiwch siarad â’ch cyflogwr yn gyntaf. Mae’n bosib y gall cynrychiolydd gweithwyr (e.e. swyddog undeb llafur) eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch pob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Gallwch siarad ag Acas os ydych chi’n ansicr ynglŷn â'ch hawliau.
Y Ganolfan Byd Gwaith sydd â chronfa ddata fwyaf Prydain o swyddi gwag. Gallwch ddefnyddio'r offer chwilio am swyddi a sgiliau i ddod o hyd i swydd sy'n addas i chi. Gallwch hefyd gael awgrymiadau am sut mae llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.