Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau os caiff eich swydd ei dileu

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldebau i'ch trin yn deg ac i ddilyn y prosesau cywir os yw'n ystyried dileu swyddi. Dylai ystyried pob opsiwn arall ar wahân i ddileu eich swydd. Yma cewch olwg gyffredinol ar eich hawliau os yw’n bosib y caiff eich swydd ei dileu.

Beth yw ystyr dileu swyddi?

Math ar ddiswyddo yw dileu swyddi, a achosir oherwydd bod angen i’ch cyflogwr leihau’r gweithlu. Gallai’r rhesymau dros ddileu swyddi gynnwys y canlynol:

  • mae technoleg newydd neu system newydd yn golygu nad yw'ch swydd chi yn angenrheidiol
  • nid yw'r swydd y cawsoch eich cyflogi i'w gwneud yn bodoli rhagor
  • mae'r angen am leihau costau yn golygu ei bod yn rhaid lleihau niferoedd staff
  • mae'r busnes yn dod i ben neu'n symud

Os yw’ch cyflogwr yn dileu swyddi llai nag 20 o gyflogeion mewn un sefydliad, gelwir hynny’n ymgynghoriad unigol.

Os yw’ch cyflogwr yn dileu swyddi 20 neu ragor o gyflogeion mewn un sefydliad o fewn cyfnod o 90 niwrnod, mae hyn yn achos o ddileu nifer o swyddi.

Yn gyffredinol caiff nifer o swyddi eu dileu:

  • pan fo’r busnes neu’r adeilad rydych yn gweithio ynddo’n cau, sy'n golygu nad oes angen cynifer o gyflogeion ar eich cyflogwr mwyach
  • pan fo’r gwaith yn cael ei aildrefnu neu ei ailddyrannu

Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i ymdopi â cholli swydd.

Eich hawl i ymgynghoriad

Dylai cyflogwyr ymgynghori â chi bob amser cyn dileu eich swydd. Dylai’r broses ymgynghori geisio rhoi cyfle i chi ddylanwadu ar y broses dileu swyddi. Fel arfer, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys:

  • siarad â chi'n uniongyrchol ynghylch pam yr ydych chi wedi cael eich dewis
  • ystyried unrhyw opsiynau eraill ar wahân i ddileu swyddi

Os na wneir hyn, efallai i chi gael eich diswyddo'n annheg.

Dileu nifer o swyddi

Os yw’ch cyflogwr yn ystyried dileu nifer o swyddi, mae ganddo ddyletswydd i ymgynghori â chynrychiolwyr y cyflogeion y gallai hyn effeithio arnynt.

Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori â'r cynrychiolwyr, efallai y gallwch wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddyfarniad gwarchodol. Mae’r dyfarniad hwn yn cynnwys hyd at 90 diwrnod o gyflog.

Dewisiadau o ran dileu swyddi a chyfnodau rhybudd

Dylai'ch cyflogwr ddefnyddio dull teg a gwrthrychol wrth ddewis pa swyddi y bydd yn eu dileu. Mae hyn yn golygu y dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na dim ond eich cyflogwr yn penderfynu swyddi pwy y mae am eu dileu.

Gan amlaf, mae'n rhaid i’ch swydd fod wedi dod i ben er mwyn i’ch cyflogwr ddileu eich swydd. Fodd bynnag, os bydd swydd unigolyn arall yn dod i ben a'r unigolyn hwnnw'n cael ei symud i wneud eich swydd chi, mae hyn hefyd yn achos dilys o ddileu swydd. Gall fod yn anodd i’ch cyflogwr gyfiawnhau bod hyn yn deg.

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu dileu eich swydd ar sail rheswm annheg, bydd y broses ddileu swydd yn annheg yn awtomatig, ac mae'n bosib y gallwch gyflwyno cais gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth am ddiswyddo annheg.

Adleoli gan eich cyflogwr

Os yw eich cyflogwr am ddileu eich swydd, dylai geisio cynnig swydd arall addas i chi o fewn ei sefydliad neu gwmni cysylltiedig. Dylai eich cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill ar wahân i ddileu eich swydd.

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael amser o'r gwaith i chwilio am swydd.

Tâl dileu swydd

Os oes gennych hawl i gael tâl dileu swydd statudol, mae’r cyfrifiad yn seiliedig ar y canlynol:

  • ers faint rydych chi wedi'ch cyflogi'n ddi-dor
  • eich oedran
  • eich tâl wythnosol, hyd at derfyn penodol (£400 yw’r uchafswm ar hyn o bryd, bydd hyn yn codi i £430 ar 1 Chwefror 2012)

Dylech ddarllen eich contract cyflogaeth i weld a yw’ch cyflogwr yn cynnig pecyn dileu swydd mwy hael.

Cymorth os caiff eich swydd ei dileu

Llinell gymorth Acas

08457 47 47 47

Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod eich hawliau, trafodwch y mater gydag ef. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr i wneud cwyn.

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch pob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallant hwythau gynnig cyngor neu gefnogaeth i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU