Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawl i dâl dileu swydd

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am ddwy flynedd o leiaf a bod eich swydd yn cael ei dileu, mae'n bosib y bydd gennych hawl i dâl dileu swydd statudol. Bydd faint mae gennych hawl iddo yn seiliedig ar eich cyflog wythnosol, eich oedran a'ch cyflogaeth ddi-dor gyda'ch cyflogwr.

Tâl dileu swydd statudol – y pethau pwysig

Mae gennych hawl i dâl dileu swydd statudol os ydych chi’n gyflogai sydd wedi gweithio'n ddi-dor i'ch cyflogwr am ddwy flynedd o leiaf a bod eich swydd yn cael ei dileu.

Caiff tâl dileu swydd statudol ei dalu hefyd pan fydd contract cyfnod penodol o ddwy flynedd neu fwy yn dod i ben ac nad yw'n cael ei adnewyddu gan fod swyddi’n cael eu dileu.

Does dim rhaid i chi hawlio tâl dileu swydd statudol gan eich cyflogwr – dylai eich cyflogwr ei dalu i chi'n awtomatig. Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi tâl dileu swydd statudol i chi a chithau â hawl iddo, dylech ysgrifennu ato yn gofyn am dâl. Os yw'ch cyflogwr yn dal i wrthod talu neu os na all wneud y taliad gallech wneud apêl i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Bydd faint o dâl dileu swydd statudol gewch chi yn dibynnu ar y canlynol:

  • ers faint rydych chi’n gweithio i’ch cyflogwr
  • eich oedran
  • eich cyflog

Tâl dileu swydd – cwmnïau

Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn cynnig tâl dileu swydd ychwanegol i chi dan eich contract cyflogaeth. Er enghraifft, efallai y bydd yn cynnig cyfradd uwch i chi, neu’n rhoi llai o feini prawf cymhwyso, gan olygu y byddai rhagor o bobl yn gymwys. Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth i weld manylion eich tâl dileu swydd cytundebol.

Ni chaiff eich cyflogwr gynnig llai i chi na'r hyn a nodir yn y cynllun dileu swyddi statudol sy’n dod dan eich contract cyflogaeth.

Gwaith arall

Nid oes gennych hawl i dâl dileu swydd statudol os yw’ch cyflogwr naill ai'n:

  • cynnig eich cadw mewn gwaith, neu’n
  • cynnig gwaith arall addas i chi, a’ch bod chithau’n ei wrthod heb reswm da

Os byddwch yn gadael eich swydd am un newydd cyn diwedd eich cyfnod rhybudd, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich tâl statudol hefyd.

Terfynu cyflogaeth dros dro ac yn y tymor byr

Gallwch hawlio tâl dileu swydd statudol gan eich cyflogwr os yw’ch swydd wedi cael ei therfynu dros dro am naill ai:

  • mwy na phedair wythnos yn olynol, neu
  • mwy na chwe wythnos heb fod yn olynol mewn cyfnod o 13 wythnos

Dylech ysgrifennu at eich cyflogwr yn dweud wrtho eich bod yn bwriadu hawlio tâl dileu swydd statudol. Rhaid gwneud hyn o fewn pedair wythnos i'r diwrnod diwethaf i chi beidio â gweithio yn y cyfnod pedair neu chwe wythnos.

O fewn saith diwrnod i gael eich llythyr, gallai eich cyflogwr anfon gwrth-rybudd atoch os yw'n credu bod eich gwaith arferol yn debygol o ddechrau o fewn pedair wythnos a pharhau am o leiaf 13 wythnos. Os nad yw'ch cyflogwr yn gwrthod eich cais o fewn saith niwrnod i'w gael, dylech ysgrifennu at eich cyflogwr eto yn rhoi eich rhybudd iddo.

Tâl rhybudd

Yn ogystal â sicrhau eich bod yn cael tâl dileu swydd statudol, dylai eich cyflogwr hefyd sicrhau eich bod yn cael tâl drwy gydol eich cyfnod rhybudd, neu daliad yn lle rhybudd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Arian a delir i chi gan eich cyflogwr yn lle eich rhybudd llawn yw tâl yn lle rhybudd. Bydd manylion y cyfnod rhybudd yn eich contract cyflogaeth.

Datganiad ysgrifenedig o dâl dileu swydd statudol

Pan delir tâl dileu swydd statudol i chi, rhaid i'ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi yn dangos sut mae'ch taliad wedi cael ei gyfrifo. Os nad yw'ch cyflogwr yn rhoi datganiad ysgrifenedig i chi dylech ysgrifennu ato i ofyn am un. Os nad yw'n darparu un ar ôl hynny, dylech geisio cyngor pellach gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas).

Cyflogwyr sy’n mynd yn fethdalwyr

Os caiff eich cyflogwr ei wneud yn ansolfent neu os na all dalu eich tâl dileu swydd statudol, gallwch wneud cais am daliad uniongyrchol gan y Gronfa Yswiriant Gwladol. I wneud hyn, yn gyntaf oll, rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogwr yn gofyn am eich tâl dileu swydd statudol. Os yw'n dal yn methu eich talu dylech lenwi ffurflen RP1 sydd ar gael gan y Gwasanaeth Ansolfedd.

Cyflogeion nad oes ganddynt hawl i daliadau dileu swydd statudol

Nid oes gan rai cyflogeion hawl i gael taliadau dileu swydd statudol. Mewn rhai sefyllfaoedd penodol gallai cyflogeion a ddylai fel arfer fod â hawl i dâl dileu swydd statudol golli'r hawl hon gyda'u cyflogwr.

Dod o hyd i swydd newydd

Os ydych chi'n wynebu colli eich swydd, efallai y dewch o hyd i swydd newydd yn rhywle arall cyn i'ch rhybudd dileu swydd ddod i ben. Os byddwch yn gadael y swydd sy'n cael ei dileu cyn i'ch cyfnod rhybudd ddod i ben, mae'n bosib y byddwch yn colli eich hawl i dâl dileu swydd statudol.

Diswyddo ar sail camymddwyn

Nid oes gennych hawl i dâl dileu swydd statudol os cewch eich diswyddo am gamymddwyn:

  • heb rybudd
  • heb fawr ddim rhybudd
  • gyda datganiad gan eich cyflogwr yn dweud y byddai wedi bod â hawl i'ch diswyddo heb rybudd

Fodd bynnag, mae'n dal yn ofynnol i'ch cyflogwr ddilyn trefniadau diswyddo teg, fel arall, efallai y gallech ddwyn achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Dim ond mewn achosion o gamymddwyn difrifol y mae'r sefyllfa hon yn debygol o godi.

Gweithredu diwydiannol yn ystod eich cyfnod rhybudd

Os byddwch yn mynd ar streic yn ystod y cyfnod dileu swyddi, mae eich hawliau colli swydd yn dal yn berthnasol i chi. Fodd bynnag, gallai eich cyflogwr roi 'rhybudd o estyniad', sef cais i chi weithio'r diwrnodau na wnaethoch eu gweithio yn ystod y streic pan ddaw eich rhybudd i ben.

Os nad ydych yn cytuno i weithio'r dyddiau a gollwyd, gallai eich cyflogwr wrthod talu eich tâl dileu swydd statudol i chi.

Cyflogeion nad oes ganddynt hawl i dâl dileu swydd

Os ydych chi'n dod dan un o'r categorïau canlynol nid oes gennych hawl i dâl dileu swydd statudol:

  • aelodau’r lluoedd arfog
  • staff Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin
  • rhai prentisiaid – dylech edrych ar eich contract
  • rhai cyflogeion â chontractau cyfnod penodol cyn 1 Hydref 2002 – dylech edrych ar eich contract cyflogaeth
  • gweision domestig sy'n gweithio mewn tai preifat ac sy'n aelodau o deulu agos y cyflogwr
  • pysgotwyr cyfran sydd ond yn cael cyfran o'r enillion a geir yn dilyn pob dalfa
  • gweision neu gyflogeion y Goron mewn swydd gyhoeddus
  • cyflogeion llywodraeth tiriogaeth dramor

Dylech edrych ar eich contract neu gael sgwrs â'ch cyflogwr i weld a oes gennych unrhyw hawliau cytundebol o safbwynt dileu swyddi.

Ble i gael cymorth

Llinell gymorth Acas
08457 47 47 47

Os na chewch eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwr. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr i wneud cwyn.

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch pob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU