Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Terfynu'ch cyflogaeth dros dro

Bydd terfynu cyflogaeth yn digwydd pan na fydd gan eich cyflogwr ddigon o waith, felly bydd yn gofyn i rai o'r gweithwyr aros adref. Gallech ddal gafael ar eich hawliau cyflogaeth yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys yr hawl i gael eich talu.

Beth yw terfynu cyflogaeth dros dro?

Os oes gan eich cyflogwr lai o alw am eich math chi o waith, efallai y bydd rhaid iddynt gymryd camau i arbed arian. Fel arfer, mae gan eich cyflogwr yr hawl i ddweud wrthych am beidio â dod i'r gwaith, ond mewn sawl achos bydd yn rhaid iddynt barhau i dalu eich cyflog llawn i chi.

Os nad ydych chi'n gyflogai, er enghraifft, os ydych chi'n gweithio yno dros dro, nid oes gennych hawl i gael gwaith cyflogedig ac felly allwch chi ddim cael terfynu'ch cyflogaeth dros dro.

Terfynu cyflogaeth dros dro a gweithio amser byr

Os nad oes gan eich cyflogwr ddigon o waith i chi, gallant ddweud wrthych am aros gartref. Os ydych i ffwrdd o'r gwaith am o leiaf un diwrnod gwaith llawn, dyma derfynu cyflogaeth dros dro.

Pan fydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio am rywfaint o'r wythnos ond eich bod yn cael diwrnod neu ragor i ffwrdd o'r gwaith, yna byddwch chi'n gweithio 'amser byr'. Mae hyn yn golygu bod eich oriau gwaith yn cael eu cwtogi.

Terfynau amser ar gyfer terfynu cyflogaeth dros dro

Does dim terfyn uchaf ar gyfer pa mor hir y gall eich cyflogwr derfynu'ch cyflogaeth dros dro neu ofyn i chi weithio amser byr. Efallai y gallwch hawlio tâl dileu swydd os terfynir eich cyflogaeth dros dro neu os cewch eich rhoi i weithio amser byr heb dâl am un ai:

  • pedair wythnos yn olynol
  • chwe wythnos o fewn cyfnod o 13 wythnos

Tâl yn ystod cyfnod o derfynu cyflogaeth dros dro

Os terfynir eich cyflogaeth dros dro, dylech gael eich talu'n llawn onid yw'n rhan o'ch contract y gall eich cyflogwr derfynu'ch cyflogaeth dros dro heb gyflog, neu ar gyflog llai.

Os nad yw'n rhan o'ch contract cyflogaeth, gallwch gytuno ar ei newid os dymunwch. Er enghraifft, gallai terfynu eich cyflogaeth dros dro fod yn well na chael eich diswyddo.

Os cytunwch ar newid eich contract er mwyn caniatáu terfynu cyflogaeth dros dro heb dâl, dylech ysgrifennu'r cytundeb ar bapur. Dylech bennu yn eglur am faint y bydd y cytundeb yn parhau, ac a allwch newid eich meddwl ai peidio.

Beth i'w wneud os terfynir eich cyflogaeth dros dro

Os terfynir eich cyflogaeth dros dro heb dâl, dylech edrych a yw hyn yn cael ei ganiatáu dan amodau'ch cyflogaeth. Os ydych yn cytuno i newid eich contract er mwyn caniatáu i'ch cyflogwr derfynu'ch cyflogaeth dros dro, gallwch wneud hynny. Fel dewis arall, gallech gytuno i gymryd rhywfaint o wyliau blynyddol yn hytrach na therfynu'ch cyflogaeth.

Os caniateir terfynu cyflogaeth dros dro heb dâl dan amodau'ch contract cyflogaeth, dylech sicrhau bod eich cyflogwr yn gwybod bod rhaid iddynt ddal i roi tâl gwarant statudol i chi.

Os na chaniateir terfynu cyflogaeth dros dro dan amodau'r contract cyflogaeth, dylech gael tâl llawn yn ystod cyfnod o derfynu cyflogaeth. Fodd bynnag, fe gewch gytuno i dderbyn llai.

Os yw'ch cyflogwr yn bod yn afresymol wrth derfynu'ch cyflogaeth (eich dewis chi'n benodol heb reswm, er enghraifft) yna gallech ystyried eich bod wedi'ch diswyddo'n ffurfiannol, ac felly gallech ddwyn achos diswyddo annheg.

Ni ddylai'ch cyflogwr eich diswyddo am ofyn am eich hawliau pan derfynir eich cyflogaeth dros dro. Os gwnân nhw hynny, mae'n bosib y gallech ddwyn achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.

Unwaith y bydd eich cyflogaeth wedi'i therfynu am dros bedair wythnos, neu am chwe wythnos mewn cyfnod o 13 wythnos, gallech ystyried gadael a hawlio tâl dileu swydd.

Terfynu cyflogaeth dros dro: cael gwybod mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU