Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Terfynu cyflogaeth dros dro: gwneud cais am dâl dileu swydd

Ni fwriedir i gynlluniau terfynu cyflogaeth dros dro a gweithio amser byr bara am byth. Os terfynir eich swydd dros dro a hynny am gyfnod digon hir, mae’n bosib y gallech wneud cais i'ch cyflogwr am dâl dileu swydd.

Gwneud cais am dâl dileu swydd pan derfynir eich cyflogaeth dros dro

Efallai y gallech wneud cais am dâl dileu swydd os yw un o'r canlynol wedi digwydd i chi:

  • terfynwyd eich cyflogaeth heb dâl
  • rydych wedi gweithio cyfnod o amser byr gan ennill llai na hanner eich cyflog wythnosol

Rhaid i'r cyfnod o derfynu cyflogaeth neu weithio amser byr fod wedi para un ai:

  • pedair wythnos neu ragor yn olynol, neu
  • gyfanswm o chwe wythnos lawn neu ragor o fewn cyfnod o 13 wythnos

Mae'r amserlen ar gyfer gwneud cais am dâl dileu swydd yn llym ac mae'n syniad da ceisio cyngor os ydych yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Gallech gysylltu â llinell gymorth Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) i geisio cyngor pellach.

Y broses ar gyfer gwneud cais

Os ydych chi eisiau gwneud cais am dâl dileu swydd ar ôl i'ch cyflogaeth gael ei therfynu, dylech ddilyn y broses gywir.

Eich rhybudd ysgrifenedig

Y cam cyntaf yw rhoi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr yn egluro eich bod yn bwriadu gwneud cais am dâl dileu swydd. Mae'n rhaid i chi ei roi iddo o fewn pedair wythnos i ddiwedd un o'r cyfnodau hyn:

  • cyfnod o bedair wythnos lawn neu ragor, yn olynol, o derfynu cyflogaeth dros dro neu weithio amser byr
  • cyfanswm o chwe wythnos lawn neu ragor o derfynu cyflogaeth dros dro neu weithio amser byr, o fewn cyfnod o 13 wythnos

Ymateb eich cyflogwr

Yna, bydd gan eich cyflogwr saith niwrnod un ai i dderbyn eich cais neu i roi 'gwrthrybudd' ysgrifenedig i chi. Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi gwrthrybudd i chi, gallwch gymryd yn ganiataol ei fod wedi derbyn eich cais.

Mae gwrthrybudd yn rhoi gwybod i chi nad yw'ch cyflogwr yn derbyn eich cais am dâl dileu swydd oherwydd y bydd gwaith ar gael yn y dyfodol agos. Mae’n rhaid i'r 'dyfodol agos' fod o fewn pedair wythnos, ac mae’n rhaid i'r gwaith bara o leiaf 13 wythnos yn ddi-dor.

Os bydd eich cyflogwr yn rhoi gwrthrybudd i chi ni chewch dâl dileu swydd oni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu o'ch plaid. Caiff eich cyflogwr benderfynu tynnu'r gwrthrybudd yn ôl drwy ddweud wrthych yn ysgrifenedig.

Ymddiswyddo

Er mwyn gallu cael tâl dileu swydd mae'n rhaid i chi ymddiswyddo drwy roi un o'r canlynol:

  • wythnos o rybudd
  • y cyfnod rhybudd sy'n ofynnol yn eich contract cyflogaeth (os yw hwnnw'n hwy nag wythnos)

Mae'n bwysig iawn eich bod yn amseru'ch rhybudd yn iawn, a gall ceisiadau am dâl dileu swydd fethu os na fyddwch chi'n rhoi'ch rhybudd yn y ffordd gywir. Os bydd saith niwrnod wedi mynd heibio ers i chi roi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr ac na fydd eich cyflogwr wedi rhoi gwrthrybudd i chi, dylech ymddiswyddo dair wythnos ar ôl i'r cyfnod o saith niwrnod ddod i ben.

Os yw'ch cyflogwr wedi rhoi gwrthrybudd i chi ond yna wedi'i dynnu'n ôl, rhaid i chi ymddiswyddo o fewn tair wythnos i’r dyddiad y cafodd ei dynnu’n ôl.

Os yw'ch cyflogwr wedi rhoi gwrthrybudd ac nad yw'n ei dynnu'n ôl, gallech fynd â'ch achos i Dribiwnlys Cyflogaeth. Ar ôl i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth, bydd gennych dair wythnos i ymddiswyddo. Golyga hyn na fydd angen i chi ymddiswyddo nes eich bod yn gwybod beth yw penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Os bydd eich cyflogwr yn apelio yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth, dim ond tair wythnos fydd gennych i ymddiswyddo bryd hynny hefyd. Felly, os yw'ch cyflogwr yn ennill ei apêl, gallech ganfod eich bod heb swydd a heb iawndal dileu swydd chwaith.

Os ydych yn ansicr ynghylch sut mae'r broses hon yn gweithio, dylech geisio cyngor.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, gallwch gysylltu ag Acas neu edrych ar yr adran cysylltiadau cyflogaeth defnyddiol. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cymorth, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU