Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Tâl gwarant

Os terfynir eich cyflogaeth dros dro, efallai y bydd gennych hawl i gael tâl gwarant. Yma, cewch wybod sut mae gweld a ydych yn gymwys i gael tâl gwarant ai peidio, a sut mae cyfrifo'r swm y dylech ei gael.

Tâl gwarant statudol

Y tâl gwarant statudol yw'r lleiafswm y dylid ei dalu i chi am unrhyw ddiwrnod cyfan pan derfynir eich cyflogaeth dros dro. Er mwyn bod yn gymwys i gael tâl gwarant statudol, rhaid i chi fodloni'r amodau canlynol:

  • rydych wedi'ch cyflogi'n ddi-dor am fis o leiaf (mae hyn yn cynnwys gweithwyr rhan amser)
  • rydych wedi sicrhau, o fewn rheswm, eich bod ar gael i weithio
  • nid ydych wedi gwrthod unrhyw waith rhesymol arall, gan gynnwys gwaith nad yw'n cael ei gynnwys yn eich contract
  • ni therfynwyd eich swydd dros dro oherwydd gweithredu diwydiannol

Gwneir taliadau gwarant statudol am uchafswm o bum niwrnod di-waith mewn unrhyw gyfnod o dri mis. Os ydych fel arfer yn gweithio llai na phum niwrnod yr wythnos, byddwch yn cael eich talu am y nifer o ddiwrnodau sydd yn eich wythnos waith arferol o fewn unrhyw gyfnod o dri mis.

Os gofynnir i chi wneud rhywfaint o waith, ond nid cymaint ag arfer, o fewn diwrnod penodol, chewch chi ddim hawlio tâl gwarant statudol am y diwrnod hwnnw.

Cyfradd taliadau gwarant statudol

Cyfrifir cyfradd ddyddiol eich taliadau gwarant drwy luosi nifer yr oriau y mae'ch contract cyflogaeth yn ei ddangos y dylech fod wedi'u gweithio y diwrnod hwnnw gyda chyfradd y taliadau gwarant fesul awr.

Dylech seilio'ch cyfrifiad ar yr oriau gwaith a gynhwysir yn eich contract cyflogaeth ar y diwrnod pan derfynir eich cyflogaeth. Os newidiwyd eich contract, neu y cawsoch un newydd, o ganlyniad i weithio amser byr, dylech ddefnyddio'ch contract cyflogaeth yn union cyn y newid hwn.

Ceir cyfyngiad o £23.50 y dydd ar gyfradd y tâl gwarant, sy'n golygu mai'r uchafswm y gellir ei dalu yw £117.50 am bum niwrnod di-waith.

Dylech geisio canfod hefyd pa fudd-daliadau eraill y gallech eu cael pan fydd y tâl gwarant statudol wedi dod i ben.

Tâl gwarant dan gontract

Os yw'ch contract presennol yn dal i gynnwys taliadau gwarant, yna dylai'ch cyflogwr dalu hwn i chi. Os yw'r tâl gwarant a gewch dan gontract yn uwch na'r tâl gwarant statudol, yna nid oes rhaid i'ch cyflogwr dalu tâl gwarant statudol yn ychwanegol i'r tâl gwarant a gewch dan gontract.

Tra bydd eich cyflogaeth wedi ei therfynu dros dro, mae gennych yr hawl i gael y swm uchaf o'r canlynol:

  • yr hyn y darperir ar ei gyfer yn eich contract cyflogaeth, a allai fod yn gyflog llawn neu'n gyflog llai
  • tâl gwarant statudol (os ydych chi'n gymwys)

Dim ond am uchafswm o bum niwrnod mewn unrhyw gyfnod o dri mis yr ydych chi'n gymwys i gael tâl gwarant statudol. Efallai bod eich contract cyflogaeth yn rhoi'r hawl i chi gael mwy na phum niwrnod o dâl gwarant dan gontract o fewn y cyfnod hwn.

Os cyfrifir eich tâl gwarant dan gontract ar sail wythnosol ond y terfynir eich cyflogaeth am lai nag wythnos gyfan, dylid addasu'r swm a gewch yn ôl y dyddiau pan nad ydych yn gweithio.

Yr effaith a gaiff tâl gwarant ar y Lwfans Ceisio Gwaith

I ddibenion y Lwfans Ceisio Gwaith, cyfrifir taliadau gwarant fel enillion os ydynt:

  • yn daliadau gwarant statudol
  • yn rhan o gytundeb a wnaethpwyd ar y cyd sy'n eithrio tâl gwarant (gweler yr adran Eithriadau rhag cael tâl gwarant, isod)
  • yn rhan o unrhyw gytundeb a wnaethpwyd ar y cyd am dâl gwarant sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi fod ar gael i weithio ar y diwrnod hwnnw

Eithriadau rhag cael tâl gwarant

Mewn rhai amgylchiadau, gellir dod i gytundeb ar y cyd pan fydd y cyflogwr a'r gweithlu'n penderfynu nad ydynt eisiau i ran o'r broses tâl gwarant statudol fod yn berthnasol iddynt. Er enghraifft, gallech chi a'ch cyflogwr benderfynu eich bod eisiau defnyddio'ch gweithdrefn gwyno eich hun, yn hytrach na dilyn proses Tribiwnlys Cyflogaeth.

Yn ymarferol, rhaid i'r cytundeb a wneir ar y cyd gynnwys darpariaethau tâl gwarant sydd gystal os nad gwell i'r cyflogeion, ar y cyfan, na thâl gwarant statudol.

Mewn rhai sefyllfaoedd anghyffredin fe allech fod yn rhan o gytundeb ar y cyd â'ch cyflogwr sy'n dweud na fydd gennych hawl i ddilyn rhai rhannau o'r broses tâl gwarant. Er mwyn i hyn fod yn gyfreithlon, rhaid i chi a'ch cyflogwr gael sêl bendith yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes.

Beth i'w wneud nesaf

Os bydd eich cyflogwr yn terfynu'ch cyflogaeth dros dro heb dâl, a chithau o'r farn nad oes ganddo hawl i wneud hynny, neu os na fydd yn rhoi tâl gwarant ichi, gallwch ddwyn y mater gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Gall peidio â thalu arian sy'n ddyledus i chi fod yn enghraifft o ddidyniad anghyfreithlon o gyflog.

Unwaith y bydd eich cyflogaeth wedi'i therfynu am gyfnod, dylech ystyried a ydych am adael a hawlio tâl dileu swydd.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawl i gael tâl gwarant, ewch i dudalen cysylltiadau defnyddiol yr adran cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU