Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Didyniadau o'ch tâl

Mae cyflogeion, gweithwyr a rhai grwpiau eraill wedi'u gwarchod rhag didyniadau o'u tâl a'u cyflog heb awdurdod. Dim ond mewn sefyllfaoedd penodol y caiff cyflogwyr wneud didyniadau a rhaid iddynt ddilyn telerau eich contract cyflogaeth. Cewch wybod yma pryd y gall eich cyflogwyr ddidynnu arian o’ch cyflog a pha warchodaeth sydd gennych.

Pwy sydd wedi'u gwarchod rhag didyniadau anawdurdodedig o'u tâl?

Yn ogystal â chyflogeion a gweithwyr, rhoddir gwarchodaeth i'r canlynol hefyd:

  • prentisiaid
  • pobl sy'n gweithio dan gontract ar gyfer gwasanaethau
  • gweision y Goron
  • unrhyw un sy'n gweithio ar long a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig - oni bai eich bod yn gweithio'n bennaf y tu allan i Brydain Fawr, ddim yn preswylio fel arfer ym Mhrydain Fawr neu wedi'ch cyflogi dan ddeddfwriaeth llongau masnach

Tâl a chyflog

Mae eich cyflog ychydig yn wahanol i'ch tâl. Eich cyflog yw'r swm a delir i chi gan eich cyflogwr mewn cysylltiad â'ch swydd. Eich tâl yw'r swm sylfaenol y dylid ei dalu i chi (er enghraifft, cyfradd eich cyflog fesul mis neu fesul awr). Gallai eich cyflog gynnwys:

  • unrhyw ffioedd, bonysau, comisiwn, tâl gwyliau neu daliadau eraill sy'n gysylltiedig â'ch swydd
  • taliadau statudol (megis Tâl Salwch Statudol neu Dâl Mamolaeth Statudol)
  • talebau bwyd, tocynnau anrheg neu dalebau eraill o werth penodol y gellir eu newid am arian, nwyddau neu wasanaethau

Ni fydd eich cyflog yn cynnwys:

  • benthyciadau na blaensymiau cyflog
  • taliadau ar gyfer treuliau cyflogaeth
  • taliadau pensiwn a dileu swydd
  • cyfandaliadau wrth ymddeol neu fel iawndal am golli swydd
  • taliadau ymarferol (heblaw talebau neu docynnau y gellir eu newid neu sydd â gwerth sefydlog)
  • tipiau a rhoddion eraill

Rydych wedi eich gwarchod rhag didyniadau o'ch tâl neu'ch cyflog. Os yw eich cyflogwr yn didynnu rhywbeth nad yw'n cyfrif fel tâl neu gyflog (er enghraifft o'ch tâl dileu swydd), nid ydych wedi'ch gwarchod. Fodd bynnag, efallai y gallwch wneud hawliad am dorri contract os oes gennych hawl i'r taliad dan eich contract cyflogaeth.

Cyn gwneud dim didyniadau, rhaid i'ch cyflogwr roi gwybod i chi ar bapur faint sy'n ddyledus gennych a rhaid iddo ofyn am y taliad. Rhaid i hyn fod ar bapur hefyd.

Rheolau ar gyfer gwneud didyniadau o'ch tâl

Ni chaiff eich cyflogwyr ddidynnu o'ch tâl na'ch cyflog oni bai fod y canlynol yn berthnasol:

  • mae hynny'n ofynnol neu wedi'i ganiatáu gan y gyfraith, er enghraifft Yswiriant Gwladol, treth incwm neu ad-daliadau benthyciad myfyrwyr
  • rydych yn cytuno'n ysgrifenedig i ddidyniad
  • mae eich contract cyflogaeth yn dweud ei fod yn cael
  • mae'n dilyn unrhyw gamau disgyblu statudol
  • mae angen gwneud taliad statudol i awdurdod cyhoeddus
  • nid ydych wedi gweithio oherwydd i chi gymryd rhan mewn streic neu weithredu diwydiannol
  • ei ddiben yw cael gordaliad blaenorol o gyflogau neu dreuliau yn ôl
  • mae'n dilyn gorchymyn llys neu benderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth

Ni ddylai didyniad leihau eich cyflog dan gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ac eithrio swm cyfyngedig ar gyfer llety). Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi rhoi eich caniatâd.

Os talwyd gormod i chi mewn camgymeriad, yn hytrach na didynnu o'ch cyflog, efallai y bydd eich cyflogwr yn ceisio cael y gordaliad yn ôl drwy wneud cais am orchymyn llys. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut a phryd y byddwch o bosib yn gallu atal eich cyflogwr rhag cymryd gordaliad yn ôl, dylech siarad ag un o'r canlynol:

  • twrnai
  • cynghorwr Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu)
  • cynghorwr mewn Canolfan Cyngor Ar Bopeth

Cytuno i ddidyniad

Os ydych chi wedi cytuno'n ysgrifenedig i ddidyniad rhaid i chi wneud hyn cyn yr adeg y mae'ch cyflogwr yn dymuno gwneud y didyniad.

Er enghraifft, os ydych yn gweithio mewn tŷ bwyta a bod cwsmer yn gadael heb dalu, rhaid bod gennych gytundeb sefydlog ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr cyn y gellir didynnu arian o'ch tâl.

Gallai eich cyflogwr ofyn i chi lofnodi cytundeb didyniadau ar ôl y digwyddiad hwnnw, ond ni fyddai'n gallu didynnu dim arian oni bai y byddai'n digwydd eto. Os yw'ch contract yn caniatáu i'ch cyflogwr ddidynnu arian o'ch cyflog, rhaid eich bod wedi cael un o’r canlynol:

  • copi ysgrifenedig o'r rhan honno o'r contract
  • eglurhad ysgrifenedig cyn y gall eich cyflogwr wneud dim didyniadau

Gwaith manwerthu: gwarchodaeth ychwanegol rhag didyniadau

Os ydych yn gweithio yn y diwydiant manwerthu (mewn siop neu dŷ bwyta er enghraifft) mae gennych warchodaeth ychwanegol rhag didyniadau o'ch cyflog. Os ceir diffyg yn y til neu brinder stoc, nid oes gan eich cyflogwr hawl i gymryd mwy na 10 y cant o'ch cyflog gros am gyfnod tâl. Os nad yw'r 10 y cant yn ddigon, gall eich cyflogwyr barhau i dynnu arian o'ch cyflog ar ddiwrnodau cyflog. Fodd bynnag ni chaiff dynnu mwy na 10 y cant ar y tro byth.

Enghraifft

Ceir diffyg o £50 yn y til. Mae eich cyflogwr yn dymuno didynnu hyn o'ch enillion. Telir £250 yr wythnos i chi cyn unrhyw ddidyniadau at ddibenion treth neu Yswiriant Gwladol ac ati (£250 o dâl gros).

Caiff eich cyflogwr dynnu deg y cant o'ch enillion gros. Dim ond £25 y caiff ei gymryd un wythnos ac yna didynnu £25 o'ch siec cyflog nesaf.

Os byddwch yn gadael eich swydd, gall eich cyflogwr dynnu'r swm llawn sy'n ddyledus o'ch cyflog terfynol.

Beth i'w wneud os nad ydych chi wedi cael eich talu'n llawn

Os na chawsoch eich tâl llawn dylech edrych ar eich slip talu ac ar eich contract cyflogaeth i weld a oes eglurhad dros hynny.

Os nad oes rheswm amlwg, neu os nad yw'ch cyflogwr, i bob golwg, wedi dilyn y rheolau ar gyfer gwneud didyniadau o'ch tâl, siaradwch â'ch cyflogwr i weld a allwch ddatrys y broblem yn anffurfiol. Os oes gennych gynrychiolydd gweithwyr yn y gwaith, neu os ydych yn aelod o undeb llafur, fe allwch ofyn iddyn nhw am help.

Os nad yw hyn yn gweithio, mae gennych hawl i fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth i gael eich arian. Drwy wneud hawliad torri contract gallwch hefyd geisio adhawlio unrhyw arian yr ydych wedi'i golli (megis taliadau banc) oherwydd na chawsoch yr arian yn brydlon.

Allweddumynediad llywodraeth y DU