Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau os yw eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr

Os yw eich cyflogwr wedi mynd yn ansolfent, bydd gennych sawl dewis. Yma cewch wybod beth i'w ansolfedd, beth i’w wneud os oes ar gyflogwr ansolfent arian i chi a sut mae ansolfedd yn effeithio ar eich statws cyflogaeth.

Beth yw ansolfedd?

Pan fo cyflogwr yn ansolfent, nid oes ganddo arian i dalu'i ddyledion yn llawn i bobl ac mae'n rhaid iddo wneud trefniadau arbennig i geisio talu'r dyledion hyn.

Mathau o ansolfedd

Mae gwahanol enwau ar wahanol fathau o ansolfedd, ac ar gyfer y bobl sy'n ymdrin â'r rheini.

Os mai cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yw'ch cyflogwr, mae ansolfedd yn golygu un o’r canlynol:

  • gweinyddiad
  • diddymiad
  • mynd i law'r derbynnydd
  • trefniant gwirfoddol gyda chredydwyr

Os mai unigolyn sy'n eich cyflogi, mae ansolfedd yn golygu un o’r canlynol:

  • methdaliad (secwestru yn yr Alban)
  • trefniant gwirfoddol gyda chredydwyr

Nid yw’n ansolfedd os yw’ch cyflogwr yn gorffen masnachu heb i un o’r uchod ddigwydd, neu os yw cwmni yn cael ei ddileu o gofrestr cwmnïau (diddymu).

Trosglwyddo busnes ansolfent

Hyd yn oed os na all eich cyflogwr eich talu, efallai y bydd yn dymuno i chi barhau i weithio iddo tra'i fod yn ceisio gwerthu'r busnes. Os byddwch yn parhau i weithio, a busnes eich cyflogwr yn cael ei drosglwyddo, bydd eich hawliau cyflogaeth wedi’u diogelu, gan gynnwys unrhyw dâl sy'n ddyledus i chi.

Terfynu cyflogaeth dros dro (lay off)

Mae'n bosibl nad yw eich cyflogwr yn ansolfent yn swyddogol ond na all eich talu serch hynny. Mewn achos o'r fath, efallai y bydd yn gorfod eich anfon adref neu eich rhoi ar wythnos waith fer.

Gweithio i weinyddwr, derbynnydd neu ddiddymwr

Weithiau mae'n bosibl y bydd busnes yn dal ati os bod siawns y gellir cael rhywfaint neu'r cyfan o'r busnes yn ôl ar ei draed, neu ei werthu i berchennog newydd.

Os digwydd hyn, efallai y gofynnir ichi barhau i weithio. Nid effeithir ar eich hawliau i dâl ansolfedd os bydd y cwmni'n cau'n ddiweddarach.

Ymarferydd ansolfedd

Fel arfer caiff rhywun a elwir yn ‘ymarferydd ansolfedd’ neu ‘dderbynnydd swyddogol’ ei benodi i ddelio â’r ansolfedd. Byddant yn gyfrifol am yr achos a gallant fod un o’r canlynol:

  • gweinyddwr
  • diddymwr
  • derbynnydd
  • goruchwyliwr (trefniant gwirfoddol)
  • ymddiriedolwr (mewn methdaliad)

Beth y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio am eich holl gyflog o’r ymarferydd ansolfedd. Does dim sicrwydd y bydd y cyfanswm llawn sy’n ddyledus yn cael eu talu i chi oherwydd y mae hyn yn dibynnu os sicrheir digon o gronfeydd arian ar ôl gwerthiant asedau eich cyflogwr.

Bydd rhai dyledion, gan gynnwys cyflogau a thâl gwyliau, yn cael eu hystyried yn ‘ddyledion blaenoriaethol’ pan fydd asedau’ch cyflogwr yn cael eu rhannu. Golyga hyn bod rhaid talu’r rhain cyn mathau eraill o ddyledion.

Gan na ellir sicrhau taliadau llawn, mae trefniadau arbennig ar gael ar gyfer cyflogwyr i hawlio’r isafswm sylfaenol o ddyledion sy’n ddyledus iddynt o’r Gronfa Yswiriant Gwladol. Yr hawliau hyn yw:

  • dileu swydd
  • cyflog - hyd at uchafswm o wyth wythnos
  • tâl gwyliau - hyd at uchafswm o chwe wythnos
  • tâl rhybudd i ddigolledu - wythnos ar ôl gwasanaeth o un mis calendr yn codi i wythnos am bob blwyddyn o wasanaeth hyd at uchafswm o 12 wythnos (bydd enillion newydd yn cael eu hystyried)

Mae'r holl daliadau'n rhwym wrth uchafswm o £400 am wythnos o gyflog (£430 yr wythnos o 1 Chwefror 2011 ymlaen).

Beth i'w wneud nesaf

Os yw'r busnes yr ydych yn gweithio iddo wedi cau, bydd angen i chi ganfod a yw eich cyflogwr yn ansolfent neu mewn trafferthion yn unig. Mae Tŷ'r Cwmnïau yn cadw manylion masnachu ar ei gofrestr cwmnïau, a gallwch gael gwybodaeth am bobl sydd wedi'u dyfarnu'n fethdalwyr gan y Gwasanaeth Ansolfedd

Os yw'r cwmni'n dal i fasnachu ond nad ydych chi'n cael eich talu, efallai y gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth fod didyniad anghyfreithlon wedi'i wneud o'ch tâl.

Ble mae cael cymorth

I wneud ymholiadau cyffredinol ynghylch ansolfedd, ffoniwch Linell Gymorth y Gwasanaeth Ansolfedd neu gallwch lenwi ffurflen ymholiad ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd.

I wneud ymholiadau am ddileu swyddi o gyflogwyr ansolfent, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd.

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae’r drefn sy’n berthnasol i chi yn wahanol. Gallwch ymweld â nidirect am gyfarwyddyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU