Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio taliad ansolfedd

Os yw'ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr, mae’n bosib bod gennych hawl i wneud cais am daliadau penodol. Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosib i chi hawlio'r holl arian sy'n ddyledus i chi. Yma, cewch wybod pa drefniadau sydd ar gael i wneud yn siŵr eich bod yn cael isafswm.

Hawlio taliad ansolfedd

Fel arfer, bydd yr ymarferydd ansolfedd yn anfon y ffurflenni angenrheidiol atoch er mwyn i chi allu hawlio unrhyw arian sy'n ddyledus i chi. Os na fydd hyn yn digwydd, dylech ysgrifennu at yr ymarferydd ansolfedd gan nodi eich hawliadau. Dylent ddweud wrthych sut mae hawlio’r taliadau gan y Swyddfa Taliadau Dileu Swydd a Chyllid a Thollau EM.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw'ch ymarferydd ansolfedd, gallwch gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau. Dylai fod ganddyn nhw fanylion yr ymarferydd ansolfedd a gallant gynnig cymorth pellach i chi.

Pwy fydd yn eich talu?

Does dim sicrwydd y bydd eich holl ddyledion a hawliadau yn cael eu talu i chi'n llawn. Mae trefniadau arbennig ar waith i sicrhau y bydd y Gronfa Yswiriant Cenedlaethol yn talu isafswm sylfaenol y dyledion sy’n ddyledus i chi.

Swyddfeydd Taliadau Dileu Swydd y Gwasanaeth Ansolfedd sy'n gyfrifol am dalu'r hawliadau canlynol:

  • tâl dileu swydd
  • cyflogau (gan gynnwys dyfarniadau gwarchodol)
  • tâl gwyliau
  • tâl rhybudd
  • taliad sylfaenol am ddiswyddo annheg
  • cyfraniadau pensiwn sydd heb eu talu

Cyllid a Thollau EM sy’n gyfrifol am barhau i dalu'r taliadau canlynol y gallech fod â hawl iddynt adeg yr ansolfedd neu ar ôl hynny:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol

Beth mae tâl yn ei gynnwys

Mae tâl yn cynnwys:

  • taliadau wedi’u gwarantu
  • taliadau statudol ar gyfer amser o’r gwaith neu waharddiad o’r gwaith am resymau meddygol neu resymau yn ymwneud â beichiogrwydd
  • goramser a chomisiwm

Fodd bynnag, nid yw pob taliad comisiwn neu fonws yn daladwy gan y Gronfa Yswiriant Gwladol. Dim ond tâl comisiwn neu fonws yn seiliedig ar faint o waith yr ydych wedi’i wneud yn yr wythnosau yr ydych yn hawlio o’r Gronfa y gellir ei ystyried.

Cyfrifo'r taliadau

Cyfrifir tâl gwyliau a chyflogau hyd at ddyddiad yr ansolfedd.

Cyfrifir tâl dileu swydd a thâl rhybudd naill ai o'r dyddiad pan aeth eich cyflogwr yn fethdalwr yn swyddogol neu pan ddaeth eich cyflogaeth i ben - pa un bynnag oedd olaf.

Pensiynau

Os ydych chi a chyflogeion eraill wedi bod yn talu i gynllun pensiwn yn y gwaith, gall ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol fod rhywfaint o gyfraniadau eich cyflogwr nad ydynt wedi'u talu yn cael eu talu i'r cynllun.

Dileu swyddi

Os yw'ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr a’i fod yn dileu eich swydd, efallai y gallwch hawlio tâl dileu swydd statudol.

I fod yn gymwys ar gyfer y taliad, rhaid i chi fodloni'r amodau hyn:

  • rydych wedi'ch cyflogi gan y cyflogwr ers cyfnod di-dor o ddwy flynedd neu ragor
  • rydych wedi gwneud cais ysgrifenedig i'ch cyflogwr neu rydych wedi gwneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddyfarniad o fewn 6 mis i'ch swydd ddod i ben

Gallwch archebu copi o’r RP1 Ffurflen hawlio taliadau dileu swydd gan wefan yr Adran Busnes neu drwy ffonio 0845 015 0010 a rhoi’r rhif cyfeirnod URN 10/708.

Beth i'w wneud nesaf

Os nad ydych chi'n fodlon â'r swm a dalwyd gan y Gronfa Yswiriant Gwladol, mae'n bosib y gallwch gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble mae cael cymorth

I wneud ymholiadau cyffredinol ynghylch ansolfedd, ffoniwch y Gwasanaeth Ansolfedd, neu gallwch lenwi ffurflen ymholiadau ar eu gwefan.

I wneud ymholiadau am daliadau dileu swydd gan gyflogwyr sydd wedi mynd yn fethdalwyr, ffoniwch y llinell gymorth Taliadau Dileu Swydd.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae proses wahanol yn berthnasol i chi. Dylech fynd i wefan nidirect i gael arweiniad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU