Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo eich cyflog: cyfrifiadau mwy cymhleth

Os yw'ch tâl neu'ch oriau gwaith yn amrywio o wythnos i wythnos bydd cyfrifo eich tâl wythnosol ychydig yn anoddach. Bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd yr oriau yr ydych wedi'u gweithio a'ch tâl dros gyfnod o 12 wythnos.


Beth i'w wneud gyntaf

Dylech ddarllen yr erthygl hon pan fyddwch wedi darllen a deall yr erthygl flaenorol gan Cross & Stitch, 'Cyfrifo eich cyflog: y pethau pwysig'. Mae'r erthygl gyntaf yn egluro'r cefndir i gyfrifo eich tâl ac mae'n cynnwys ffeithiau hanfodol.

Cyfrifo cyfraddau fesul tasg, bonysau amrywiol neu gomisiwn

Weithiau, bydd eich tâl yn amrywio gan ddibynnu ar faint o waith yr ydych yn ei wneud, efallai oherwydd:

  • bonysau amrywiol
  • comisiwn
  • gwaith fesul tasg - gan eich bod yn cael eich talu yn ôl faint o waith yr ydych yn ei wneud, yn hytrach na fesul awr

Os felly, bydd angen i chi gyfrifo eich cyfradd gyfartalog fesul awr dros 12 wythnos cyn cyfrifo eich tâl wythnosol.

I gyfrifo eich tâl wythnosol dim ond eich oriau gwaith y cewch eu defnyddio. Nid yw hyn yn cynnwys oriau goramser, er y bydd yn rhaid addasu eich tâl i ystyried gwaith a wnaed y tu allan i oriau gwaith arferol. Os ydych wedi gwasanaethu am lai na 12 wythnos, gellid ystyried ffactorau eraill, megis eich patrwm gweithio.

Bonysau chwarterol

Os ydych chi'n cael bonws chwarterol gallwch gynnwys cyfran o'r bonws hwnnw yn eich tâl wythnosol cyfartalog ar gyfer y cyfnod 12 wythnos. Mae angen i chi rannu'r swm gyda 13 (nifer yr wythnosau mewn chwarter blwyddyn) a'i luosi gyda 12 (nifer yr wythnosau a ddefnyddir i ganfod cyfartaledd eich cyflog). Er enghraifft, rydych yn cael bonws chwarterol o £260:

  • rhannwch £260 gyda 13 wythnos = £20
  • lluoswch £20 gyda 12 wythnos = £240

Gallwch gynnwys bonws o £240 fel rhan o'ch tâl wythnosol cyfartalog dros 12 wythnos.

Bonysau blynyddol

Os ydych yn cael bonws blynyddol dylech rannu'r swm gyda 52 (nifer yr wythnosau mewn blwyddyn) ac yna'i luosi gyda 12. Er enghraifft, rydych yn cael bonws blynyddol o £5,200:

  • rhannwch £5,200 gyda 52 wythnos = £100 yr wythnos
  • lluoswch £100 gyda 12 wythnos = £1,200

Gallwch gynnwys bonws o £1,200 fel rhan o'ch tâl wythnosol cyfartalog dros 12 wythnos.

Pan fyddwch wedi adio'r swm a dalwyd i chi am weithio dros y cyfnod 12 wythnos ac wedi cynnwys unrhyw fonysau, mae angen i chi rannu'r ffigur gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio yn y cyfnod 12 wythnos. Bydd hynny'n rhoi'r gyfradd fesul awr i chi, a ddylai fod yn uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. I gyfrifo eich cyflog wythnosol dylech wedyn luosi eich cyfradd fesul awr gyda'r oriau cyfartalog y gwnaethoch eu gweithio yn y cyfnod 12 wythnos.

Gwaith sifft neu rota

Os ydych yn gwneud gwaith sifft neu rota lle mae'r adeg o'r dydd neu'r oriau yr ydych yn eu gweithio yn amrywio, eich tâl wythnosol fydd nifer gyfartalog yr oriau yr ydych yn eu gweithio ar gyfradd tâl cyfartalog dros 12 wythnos.

Er enghraifft, eich tâl arferol yw £6 yr awr ac rydych yn gweithio tair sifft naw awr ac yna'n cael tri diwrnod i ffwrdd. Pan fyddwch yn gweithio ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, telir £9 yr awr i chi. Ar ddechrau'r cyfnod 12 wythnos, dydd Llun yw'ch diwrnod cyntaf yn y gwaith.

Cam 1: cyfrifwch sawl awr y gwnaethoch weithio dros 12 wythnos (42 sifft naw awr = 378 awr).

Cam 2: rhannwch nifer yr oriau y gwnaethoch weithio gyda 12 i gyfrifo eich oriau wythnosol cyfartalog: 378 wedi'i rannu gyda 12 = 31.5 awr.

Cam 3: cyfrifwch eich cyflog wythnosol cyfartalog, yn gyntaf oll drwy gyfrifo eich enillion dyddiol cyfartalog. Byddech wedi gweithio 30 sifft naw awr yn ystod dyddiau'r wythnos, gyda thâl o £6 yr awr. 30 sifft x 9 awr = 270 awr x £6 = £1620 wedi'i rannu gyda 12 wythnos = £135.

Cam 4: yna cyfrifwch eich penwythnos cyfartalog. Byddech wedi gweithio 12 sifft naw awr yn ystod y penwythnosau, gyda thâl o £9 yr awr. 12 sifft x 9 awr = 108 awr x £9 = £972 wedi'i rannu gyda 12 wythnos = £81 yr wythnos.

Cam 5: adiwch eich cyflog wythnosol cyfartalog ar gyfer sifftiau yn ystod dyddiau'r wythnos ac ar benwythnosau £135 + £81 = £216 o gyflog bob wythnos ar gyfartaledd.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth arnoch i gyfrifo eich tâl wythnosol, dylech gysylltu ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU