Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bwysig gwybod sut mae cyfrifo tâl wythnosol gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint ddylech chi ei gael pan rydych yn hawlio hawliau cyflogaeth, megis tâl dileu swydd. Nid yw bob amser yr un fath â'ch tâl cyfartalog, na'r tâl a gewch mewn wythnos arferol.
Gall y tâl sy'n ddyledus i chi bob wythnos dan eich contract cyflogaeth fod yn wahanol i'ch tâl cyfartalog dros fis neu'ch tâl mewn wythnos arferol. Mae'r swm y byddwch yn ei ennill bob wythnos dan eich contract cyflogaeth yn gysylltiedig ag amryw o'ch hawliau cyflogaeth unigol. Y rhain yw:
Pan fyddwch yn cyfrifo eich tâl wythnosol, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrifo cyfartaledd eich tâl a'ch oriau dros gyfnod 12 wythnos. Mae'n ofynnol mai'r 12 wythnos hyn yw'r 12 wythnos lawn sy'n arwain at y rheswm dros gyfrifo eich tâl, er enghraifft:
Os na chawsoch dâl am weithio yn ystod y cyfnod 12 wythnos (er enghraifft, eich bod wedi cael gwyliau), dylech ddefnyddio'r wythnos flaenorol yn eich cyfrifiad. Er enghraifft, os na chawsoch dâl am dair wythnos yn ystod y cyfnod 12 wythnos, dylech edrych ar gyfnod 15 wythnos a chynnwys dim ond yr wythnosau hynny y cawsoch dâl am weithio
Os byddwch yn cael yr un tâl bob wythnos neu bob mis, eich tâl wythnosol fydd eich tâl ar gyfer eich oriau contract sylfaenol. Gall unrhyw fonysau neu lwfansau (heblaw lwfans treuliau) nad ydynt yn amrywio yn ôl faint o waith a wnewch hefyd gael eu cynnwys wrth gyfrifo eich tâl wythnosol.
Os ydych yn cael eich talu bob wythnos, rydych yn cael tâl wythnosol.
Ni allwch gynnwys oriau goramser wrth gyfrifo eich tâl wythnosol oni bai ei bod yn rhaid i'ch cyflogwr ei dalu i chi yn unol â'ch contract cyflogaeth.
Os ydych yn gwneud rhywfaint o waith y tu allan i'r oriau yr ydych yn arfer eu gweithio, er enghraifft, goramser gwirfoddol, gellir cynnwys hyn wrth gyfrifo eich tâl wythnosol cyfartalog. Fodd bynnag os telir goramser i chi ar gyfradd uwch am waith y gellid ei wneud yn ystod oriau arferol, ni ellir defnyddio'r tâl ar gyfradd uwch wrth gyfrifo eich tâl wythnosol.
Os nad oes gennych oriau gweithio arferol, eich tâl wythnosol yw'ch tâl cyfartalog dros y cyfnod 12 wythnos sy'n arwain at yr adeg y mae arnoch angen gwneud y cyfrifiad ar ei gyfer. Er enghraifft, os ydych yn gwneud gwaith gwerthu ac yn cael eich talu drwy gomisiwn,
Er enghraifft, os ydych yn cael eich diswyddo, dylech ddefnyddio'r 12 wythnos lawn ddiwethaf i chi eu gweithio cyn y diwrnod y rhoddwyd rhybudd i chi am y diswyddiad.
Os nad ydych yn cael tâl un wythnos, dylech edrych ar yr wythnos gynt. Er enghraifft, os ydych yn edrych ar gyfnod 12 wythnos, ond na chawsoch ddim tâl am dair wythnos o'r cyfnod hwnnw, dylech fynd yn ôl 15 wythnos.
Gellir cynnwys amser yr ydych wedi'i weithio i gyflogwr blaenorol wrth gyfrifo eich tâl wythnosol cyfartalog, os na wnaeth newid cyflogwr dorri ar eich cyflogaeth.
Gall cyfrifo tâl wythnosol fod yn eithaf cymhleth a bydd cyfrifo taliadau dileu swydd neu daliadau gwarant yn dibynnu ar eich sefyllfa. Os oes angen cymorth pellach arnoch i gyfrifo tâl wythnosol cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol am gyngor.