Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyflog wedi'i seilio ar berfformiad

Mae'n bosib y bydd cwmni'n cyflwyno cynllun cyflog wedi'i seilio ar berfformiad i annog perfformiad uwch. Gorau y byddwch chi - neu'ch tîm - yn gwneud eich gwaith, mwyaf y bydd eich cyflogwyr yn ei dalu i chi. Cael gwybod mwy ynghylch y gwahanol fathau o gynlluniau cyflog wedi’i seilio ar berfformiad a beth i’w wneud os oes gennych broblemau.

Beth yw cyflog wedi'i seilio ar berfformiad?

Ffordd o wobrwyo gweithwyr am well perfformiad yw cyflog wedi'i seilio ar berfformiad.

Mae nifer o resymau pam y byddai'ch cyflogwyr yn awyddus i gyflwyno'r math hwn o gynllun cyflog. Efallai eu bod:

  • yn awyddus i gadw'u staff cyfredol
  • yn awyddus i gystadlu am dalent newydd
  • yn chwilio am ffordd decach o ddosbarthu cyflogau

Er mwyn i gynlluniau sy'n seiliedig ar berfformiad weithio, dylid eu seilio ar dargedau clir, mesuradwy y mae'r cyflogwyr a'r gweithwyr yn cytuno iddynt. Fel arfer cewch wybod am y targedau hyn yn eich contract cyflogaeth a chyfarfodydd gwerthuso perfformiad gyda'ch rheolwr/wraig.

Cynlluniau cyfnod byr

Fel arfer, taliadau bonws neu gomisiwn ar werthiannau a gynigir mewn cynlluniau cyfnod byr. Bydd y taliadau'n amrywio ac, fel arfer, defnyddir y cynlluniau hyn i annog y staff i wella'u perfformiad nhw'u hunain.

Cynlluniau tymor hir

Mae cynlluniau tymor hir yn cynnig buddiannau megis cyfle i gael cyfranddaliadau yn y cwmni, ac fe all hynny annog pobl i fod yn driw i'r sefydliad a'i amcanion.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os na fyddwch chi'n derbyn taliadau bonws neu gomisiwn a chithau'n credu eu bod yn ddyledus i chi, edrychwch ar eich contract cyflogaeth, eich datganiad ysgrifenedig o brif delerau eich cyflogaeth, neu eich llawlyfr staff i weld sut y telir eich bonws. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, holwch eich cyflogwyr.

Weithiau, cytunir y telir bonysau os bydd eich cyflogwyr yn gweld yn dda. Mewn geiriau eraill, eich cyflogwyr fydd yn penderfynu pwy gaiff ei dalu a faint. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i'r cyflogwyr allu cyfiawnhau eu penderfyniad.

Os tybiwch fod camgymeriad wedi'i wneud:

  • mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i weld a oes camddealltwriaeth wedi bod
  • gofynnwch i'ch cyflogwyr ddangos ar bapur sut maen nhw wedi cyfrifo'ch cyflog
  • cadwch gopïau o unrhyw lythyrau a nodyn o unrhyw gyfarfodydd

Mae'r gyfraith yn delio â bonysau sydd heb eu talu mewn tair ffordd:

  • torri contract
  • didyniadau anghyfreithlon o gyflogau
  • gwahaniaethu anghyfreithlon

Didyniadau o gyflog / torri contract

Fel arfer, bydd unrhyw hawl i fonws yn cael ei gynnwys yn eich contract cyflogaeth. Ni fydd hyn bob amser ar ffurf ysgrifenedig. Gellir cytuno iddo ar lafar neu gall fod yn ddealledig oherwydd y ffordd y bydd y busnes fel arfer yn gweithio.

Os oes sôn am fonws neu gomisiwn yn eich contract, torrir y contract wrth beidio â'i dalu oni bai fod amod arall yn nodi'n wahanol.

Gellir ystyried methu â thalu bonws neu gomisiwn y mae gennych yr hawl iddo hefyd yn ddidyniad anghyfreithlon o gyflog.

Mae gennych yr hawl i ddwyn achos torcontract a didynnu anghyfreithlon o gyflog, ond chewch chi ddim mwy o arian yn ôl nag y collasoch chi. Yn aml iawn, mae'n haws hawlio am ddidynnu o gyflog.

Gwahaniaethu

Ni chaiff eich cyflogwyr wahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o bobl - er enghraifft drwy roi bonysau llai i fenywod. Yn ddelfrydol, dylai fod gan eich cyflogwyr ganllawiau sy'n nodi hyd a lled arferol y bonws.

Beth os byddwch chi'n rhoi'r gorau i'ch swydd?

Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth yn ofalus iawn i weld pa bryd y mae gan eich cyflogwyr yr hawl i ddal eich cyflog yn ôl. Mae gennych hawl i gael eich talu am bopeth y gwnaethoch ei ennill hyd nes i chi roi'r gorau iddi.

Os ydych chi wedi gadael eich swydd gan fod eich cyflogwyr yn gwrthod eich talu, mae'n bosib y gallwch chi ddwyn achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr.

Oni allwch chi brofi eich bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'ch swydd oherwydd ymddygiad eich cyflogwyr, chewch chi mo'ch talu am unrhyw gyfnod o rybudd pan na fyddwch chi'n gweithio. Bydd eich taliadau comisiwn yn y dyfodol yn dibynnu ar delerau eich contract.

Ble i gael cymorth

Am ragor o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU