Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tâl rhybudd

Os ydych chi'n gadael eich swydd, dylech gael tâl a buddion yn ystod eich cyfnod rhybudd. Os na all eich cyflogwr eich talu, mae camau y gallwch eu cymryd er mwyn hawlio’ch taliad.

Eich hawliau yn ystod eich cyfnod rhybudd

Yn ystod eich cyfnod rhybudd bydd gennych, fel rheol, hawl i gael eich tâl a’ch buddiannau arferol (e.e. car cwmni), fel y nodir yn eich contract cyflogaeth.

Hawl i'r isafswm cyflog yn ystod eich cyfnod rhybudd

Os yw’ch contract cyflogaeth yn pennu nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio fel rheol (e.e. 39 awr yr wythnos), efallai bod gennych hawl hefyd i gael y gyfradd fesul awr sylfaenol yn ystod eich cyfnod rhybudd ar gyfer unrhyw adeg pan fyddwch:

  • yn absennol oherwydd salwch
  • ar wyliau
  • yn absennol am fod eich swydd wedi'i therfynu dros dro
  • ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu
  • yn fodlon gweithio ac yn barod i wneud hynny, ond nad yw’ch cyflogwr yn rhoi gwaith i chi

Os nad yw eich contract cyflogaeth yn pennu faint o oriau rydych chi’n eu gweithio, mae gennych dal hawl i gael cyflog ar y gyfradd fesul awr sylfaenol yn ystod eich cyfnod rhybudd ar gyfer unrhyw adeg pan fyddwch:

  • yn absennol oherwydd salwch
  • ar wyliau
  • yn absennol am fod eich swydd wedi'i therfynu dros dro
  • ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu
  • yn fodlon gwneud swm rhesymol o waith i ennill wythnos o gyflog ac yn barod i wneud hynny, ond nad yw'ch cyflogwr yn rhoi gwaith i chi

Cyfrifo faint y dylech ei gael

Cyfrifir eich cyflog yn ystod y cyfnodau hyn drwy rannu eich tâl wythnos cyfartalog gyda nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio fel arfer.

Eithriadau i’r hawl i gael isafswm cyflog

Ni fydd gennych hawl i’r gyfradd isafswm cyflog yn ystod eich cyfnod rhybudd:

  • os ydych yn gweithio cyfnod rhybudd sydd wythnos neu fwy yn hirach na'r cyfnod rhybudd sylfaenol
  • os byddwch yn cymryd rhan mewn streic ar ôl cyflwyno'ch rhybudd

Ni fydd gennych hawl i'r gyfradd isafswm cyflog ar gyfer unrhyw amser i ffwrdd y byddwch yn gwneud cais amdano yn ystod eich cyfnod rhybudd. Fodd bynnag, gellid gwarchod yr hawl hon ar wahân os, er enghraifft, y bydd arnoch angen amser i ffwrdd ar gyfer y canlynol:

  • chwilio am waith neu drefnu hyfforddiant os yw’ch swydd yn debygol o gael ei dileu
  • dyletswyddau undeb
  • gofal cyn-geni

Cyflogwyr sy’n mynd yn fethdalwyr

Bydd cyflogwr yn mynd yn fethdalwr pan nad oes ganddo arian i dalu ei ddyledion yn llawn a bydd yn rhaid iddo wneud trefniadau arbennig i geisio talu'r dyledion hyn.

Efallai fod eich cyflogwr am roi terfyn ar eich cyflogaeth, ond nad yw'n gallu rhoi iawndal i chi oherwydd ei fod yn fethdalwr. Yn y sefyllfa hon, efallai y gallech hawlio'r arian sy'n ddyledus i chi gan yr Ymarferydd Ansolfedd.

Beth i'w wneud os oes gennych broblem

Os yw eich tâl rhybudd yn achosi anghydfod rhyngoch chi â'ch cyflogwr, dylech geisio datrys y broblem yn anffurfiol gydag ef. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, gallwch ddilyn trefniadau cwyno eich cwmni.

Os ydych chi â’ch cyflogwr yn dal i fethu datrys y broblem, efallai y gallech gyflwyno cwyn am dor-amod i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU