Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ystyr hyn yw bod gweithiwr yn cael ei orfodi i adael ei swydd yn erbyn ei ewyllys oherwydd ymddygiad ei gyflogwr. Cewch wybod yma beth y gallwch ei wneud os teimlwch fod rhaid i chi adael eich swydd.
Os cewch eich gorfodi i adael eich swydd oherwydd y modd yr ydych wedi'ch trin, fe'i gelwir yn ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr (constructive dismissal). Er nad yw'r cyflogwr yn eich diswyddo fel y cyfryw, mae'r hyn sy'n digwydd yr un fath â phetaech wedi'ch diswyddo. Yn aml, mae'n anodd iawn profi bod ymddygiad eich cyflogwyr cynddrwg ac achosi i chi adael, felly dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gadael eich swydd.
Mae'r rhaid i'r rheswm dros adael eich swydd fod yn ddifrifol - rhaid i'ch contract fod wedi'i dorri'n sylfaenol. Rhai enghreifftiau yw:
Gall y toriad contract gan y cyflogwr fod yn un ddigwyddiad neu’r olaf mewn cyfres o ddigwyddiadau llai pwysig sy’n ddifrifol gyda’i gilydd.
Gall diswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr fod yn ddiswyddo 'annheg' ac 'anghyfreithlon'. Gyda diswyddo annheg mae'r cyflogwr yn eich diswyddo (neu'n eich gorfodi i adael) heb reswm da neu oherwydd nad yw wedi dilyn y drefn gywir. Gyda diswyddo anghyfreithlon, mae'ch cyflogwr yn torri'ch contract drwy eich diswyddo (neu eich gorfodi i adael).
Gallwch ddwyn achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr ac o ddiswyddo anghyfreithlon oherwydd ymddygiad cyflogwr cyn belled â'ch bod yn gymwys i wneud hynny. Fel arfer byddwch wedi gorfod gweithio am o leiaf blwyddyn i'r cyflogwr cyn y gallwch hawlio eich bod wedi'ch diswyddo'n annheg.
Gellir dwyn achos o ddiswyddo anghyfreithlon yn yr un ffordd â dwyn achos o dorri contract. Ymdrinir ag achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr yn yr un modd ag unrhyw achos o ddiswyddo annheg arall ond bod anghydfod ynghylch a oedd diswyddo (neu ymddygiad a orfodwyd i chi adael) ai peidio yn fwy tebygol.
Pwrpas yr iawndal o ddiswyddo annheg yw eich rhoi yn yr un sefyllfa ariannol â phetaech heb orfod ymddiswyddo. Bydd yr iawndal am ddiswyddo anghyfreithlon fel arfer ond yn talu'ch cyflog am y cyfnod rhybudd a fethwyd. Chewch chi ddim iawndal am deimladau sydd wedi'u brifo.
Dim ond fel cam eithaf y dylech adael eich swydd. Yn gyntaf, mynnwch sgwrs gyda'ch rheolwr i weld os allwch ddatrys y broblem felly. Os mai gyda'ch rheolwr y mae'r broblem, siaradwch ag un o'r canlynol:
Ceisiwch ddatrys y broblem gyda'ch cyflogwr drwy drefn gwyno safonol eich cwmni. Mewn sawl achos bydd disgwyl i chi fod wedi codi'r mater drwy'r drefn gwyno cyn cymryd camau cyfreithiol.
Os nad yw hyn yn gweithio, ac os yw'ch cyflogwr yn cytuno i hynny, gallech roi cynnig ar gyfryngu trwy Acas, lle bydd arbenigwr yn ceisio'ch helpu chi a'ch cyflogwr i ddatrys y broblem.
Os nad yw siarad â'ch cyflogwr na chyfryngu'n gweithio, ac os ydych yn teimlo y bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i'ch swydd, dylech gael cyngor cyfreithiol i ddechrau i weld a fydd gennych achos dros ddiswyddiad oherwydd ymddygiad y cyflogwr. Yn ddelfrydol, dylech adael yn syth neu gall y cyflogwr ddadlau eich bod, trwy aros, wedi derbyn yr ymddygiad neu'r driniaeth.
Hefyd, dylid osgoi ymddiswyddo cyn i'r tor-contract ddigwydd mewn gwirionedd, gan y gallai'r cyflogwr wedyn hawlio nad oes unrhyw ddiswyddo wedi bod.
Os gadewch eich swydd, gall y Ganolfan Byd Gwaith atal eich Lwfans Ceisio Gwaith am hyd at 26 wythnos. Sicrhewch eu bod yn deall beth ddigwyddodd a pham y bu rhaid i chi adael. Os ydych yn mynd â'ch achos i Dribiwnlys, mae'n syniad da rhoi copïau iddynt o'ch ffurflenni cais Tribiwnlys wedi'u llenwi.
Oni allwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y gallwch hawlio taliad caledi (cyfran lai o'r Lwfans Ceisio Gwaith).
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Mynnwch gyngor cyfreithiol gan dwrnai neu asiantaeth gynghori.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.