Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wastad ddewis gadael eich swydd drwy ymddiswyddo. Cael gwybod am y pethau y dylech feddwl amdanynt cyn ymddiswyddo, beth i’w wneud pan fyddwch yn ymddiswyddo a’ch hawliau a'ch dyletswyddau i'ch cyflogwr.
Os byddwch yn cyflwyno'ch ymddiswyddiad, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, bydd hyn yn ddatganiad clir gennych chi eich bod yn gadael eich swydd.
Nid yw bygwth gadael, neu ddweud eich bod yn chwilio am swydd arall, yr un fath ag ymddiswyddo'n ffurfiol. Gallai dweud ‘Rydw i'n rhoi'r gorau iddi!’ yng nghanol dadl gyda'ch cyflogwr gael ei ystyried yn ymddiswyddiad go iawn, felly byddwch yn ofalus beth yr ydych yn ei ddweud. Os byddwch yn ymddiswyddo yng ngwres y funud, ond heb feddwl gwneud hynny, dywedwch yn syth wrth eich cyflogwr.
Cyn cyflwyno'ch ymddiswyddiad, meddyliwch yn ofalus pam eich bod yn gwneud hynny ac a yw'n beth iawn i'w wneud.
Os ydych yn gadael oherwydd problemau yn y gwaith neu anghytundeb gyda'ch pennaeth, a fyddai modd datrys y problemau hyn trwy drefn gwyno eich cwmni? Meddyliwch sut y byddwch yn ymdopi heb eich cyflog, a pha mor rhwydd fydd dod o hyd i swydd arall.
Dylech ddweud yn bendant wrth eich cyflogwr eich bod yn ymddiswyddo'n ffurfiol. Gallwch ymddiswyddo ar lafar, onid yw'ch contract cyflogaeth yn dweud fel arall. Ond mae wastad yn syniad da ei roi ar bapur, gan ddweud:
Os ydych am esbonio eich rhesymau dros ymddiswyddo, bydd rhoi hynny ar bapur yn ei gwneud yn haws ichi gael trefn ar eich meddyliau.
Rhowch y cyfnod rhybudd cywir i'ch cyflogwr. Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi wythnos o rybudd os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fis neu fwy. Efallai y bydd eich contract yn mynnu mwy na hynny.
Cofiwch:
Os teimlwch eich bod yn gorfod ymddiswyddo (e.e. oherwydd amodau gweithio peryglus neu ymddygiad eich cyflogwr), efallai y gallwch ddwyn achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr (constructive dismissal).
Os ydych yn ystyried hyn, dylech godi'r problem fel cwyn cyn ichi ymddiswyddo. Oni wnewch hynny, gall Tribiwnlys Cyflogaeth wrthod clywed eich cais am ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr neu ostwng faint o iawndal y byddwch yn ei dderbyn.
Ond byddwch yn ofalus, oherwydd nid yw diswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr bob amser yn hawdd ei brofi.
Os ydych chi wedi rhoi’r gorau i’ch swydd yn wirfoddol heb reswm da, gall eich Canolfan Byd Gwaith oedi eich Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych yn cael eich gorfodi i ymddiswyddo oherwydd ymddygiad eich cyflogwr, sicrhewch eu bod yn gwybod hynny. Oni allwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y gallwch hawlio taliad caledi, sef cyfran lai o'r Lwfans Ceisio Gwaith.
Os oes gennych chi gynllun pensiwn personol, gallwch fynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn newid swyddi. Os oeddech yn talu i mewn i gynllun cwmni, dylech allu cael datganiad o werth cyfredol eich cronfa bensiwn. Efallai y gallwch drosglwyddo hwn i gynllun arall, neu i gynllun pensiwn personol.
Pan fyddwch yn gadael eich swydd, dylech gael eich talu am unrhyw lwfans gwyliau cyfreithiol nad ydych wedi'i ddefnyddio, er y gall eich contract ddweud y byddwch yn colli unrhyw wyliau i gontract nad ydych wedi'u cymryd. Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau nag yr ydych wedi'u hennill, all eich cyflogwr fel arfer ddim tynnu'r arian o'ch cyflog terfynol, onid yw hynny wedi'i gytuno arno o flaen llaw.
Pan fyddwch yn stopio gweithio i gyflogwr, byddwch fel arfer yn cael ffurflen P45 ganddynt. Dyma gofnod o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i dynnu ohono yn ystod y flwyddyn dreth. Byddwch angen ffurflen P45 i'w rhoi i'ch cyflogwr newydd.
Os ydych yn ystyried gadael, meddyliwch pam eich bod yn gwneud hynny - a oes modd datrys y problemau hynny? Os teimlwch eich bod yn cael eich gorfodi i adael eich swydd, darllenwch yr erthygl ar ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr.
Edrychwch yn eich contract neu yn llawlyfr y cwmni i ganfod faint o rybudd y mae'n rhaid i chi ei roi ac a oes angen iddo fod yn ysgrifenedig.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy am undebau llafur.