Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi’n cymryd eich gwyliau bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi rhoi'r rhybudd cywir i’ch cyflogwr, a dylai'ch cyflogwr sicrhau ei fod yn eich talu chi'n gywir. Yma, cewch wybod pa rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi ymlaen llaw, a sut cyfrifir tâl gwyliau.
Os ydych chi am gymryd gwyliau, rhaid i chi roi rhybudd ymlaen llaw i'ch cyflogwr. Dylai’r rhybudd hwn fod o leiaf ddwywaith mor hir â’r gwyliau rydych am ei gymryd. Er enghraifft, dylech roi pythefnos o rybudd ar gyfer wythnos o wyliau.
Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am wyliau cyn belled ag y bydd yn rhoi rhybudd sydd o leiaf yr un mor hir â'r gwyliau a ofynnwyd amdano. Felly, i wrthod cais am wythnos o wyliau, bydd yn rhaid iddo roi gwybod i chi wythnos ymlaen llaw.
Gall eich contract bennu rheolau eraill ynghylch pryd y cewch gymryd eich gwyliau. Caniateir hyn ar yr amod nad yw'r rheolau'n eich atal rhag cymryd gwyliau o gwbl.
Gall eich cyflogwr benderfynu pryd y cewch gymryd peth neu'r cyfan o'ch gwyliau. Er enghraifft, mae'n bosib y bydd yn gofyn i chi gymryd rhywfaint o'ch gwyliau dros wyliau banc, neu efallai y bydd yn gofyn i'r cwmni cyfan gymryd gwyliau dros y Nadolig.
Gall hyn fod yn eich contract cyflogaeth, neu'n arferiad sydd wedi datblygu dros amser. Bydd rhaid i gyflogwr roi'r un faint o rybudd â chi.
Gallai eich hawl gwyliau blynyddol gynnwys rhannau o ddyddiau (er enghraifft, 11.2 diwrnod i rywun sy'n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos). Mae angen i chi ofyn i'ch cyflogwr sut mae am i chi drin y rhannau o ddyddiau. Ni ellir eu talgrynnu i lawr, ac nid oes angen eu talgrynnu i'r diwrnod llawn agosaf, ond gall eich cyflogwr ddewis gwneud hynny os dymuna.
Neu, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn awgrymu eich bod yn cymryd diwrnod cyfan o wyliau, ac yn cael eich talu am y rhan o ddiwrnod sy’n ddyledus i chi yn unig. Er enghraifft:
Mae gennych hawl i gael eich talu yn ystod eich gwyliau blynyddol statudol ac yn ystod eich gwyliau blynyddol dan gontract. Bydd eich tâl gwyliau yr un fath â'ch cyflog wythnosol (heb gynnwys goramser anwarantedig). Os yw eich tâl yn amrywio o wythnos i wythnos, dylai eich tâl gwyliau ddibynnu ar eich cyflog wythnosol cyfartalog dros y 12 wythnos flaenorol.
Dylid talu tâl gwyliau ar gyfer yr amser pan fyddwch yn cymryd eich gwyliau. Ni all eich cyflogwr gynnwys eich tâl gwyliau yn eich cyfradd fesul awr (a elwir yn ‘dâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr’). Os yw'ch contract presennol yn dal yn cynnwys tâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr, dylech chi a'ch cyflogwr ei drafod.
Yng ngoleuni dyfarniad diweddar gan Lys Cyfiawnder Ewrop, mae’r canlynol yn berthnasol os byddwch yn sâl yn ystod eich gwyliau neu cyn i chi gymryd gwyliau. Gallwch ofyn am newid y cyfnod o wyliau dan sylw yn absenoldeb salwch a gofyn am gael cymryd y gwyliau blynyddol a gollwyd yn nes ymlaen.
Dylech ddilyn y drefn arferol ar gyfer dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl (e.e. rhoi gwybod iddo cyn gynted ag y medrwch neu ddarparu tystysgrifau meddygol). Os nad ydych yn siŵr beth yw’ch proses arferol, edrychwch yn eich contract cyflogaeth, llawlyfr y staff, neu ar y fewnrwyd.
Efallai na fyddwch yn gallu cymryd eich hawl gwyliau i gyd o fewn eich blwyddyn wyliau oherwydd salwch. Yn yr achos hwn, mae dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop hefyd yn golygu y gallech fod â’r hawl i drosglwyddo’r hawl y byddech yn ei golli fel arall i'r flwyddyn nesaf.
Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch ar y mater hwn cysylltwch, ag Acas am gyngor.
Pan fyddwch yn gadael swydd, bydd modd i chi gymryd yr hawl gwyliau statudol y byddwch wedi'i chronni hyd at yr amser y byddwch yn gadael yn ystod eich cyfnod rhybudd, cyn belled â’ch bod yn rhoi’r rhybudd cywir a bod eich cyflogwr yn cytuno.
Hefyd, bydd gennych yr hawl i gael eich talu am unrhyw hawl gwyliau statudol yr ydych wedi'i chronni ond nas cymerwyd.
Os byddwch wedi cymryd mwy o wyliau na'r hawl rydych wedi'i chronni, ni ddylai eich cyflogwr gymryd arian o'ch tâl olaf oni bai eich bod wedi cytuno ar hyn o flaen llaw. Edrychwch yn eich contract i weld a oes cytundeb o’r fath ynddo.
Os byddwch wedi bod yn sâl drwy gydol y flwyddyn wyliau, nid oes hawl gyfreithiol i dderbyn unrhyw dâl gwyliau pan fyddwch yn gadael.
Mae gwyliau'n hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ei rhoi i chi. Os bydd gennych broblemau yna darllenwch y wybodaeth am eich hawliau sylfaenol i wyliau.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu ewch i chwilio am wybodaeth ynglŷn ag undebau llafur.