Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio byddwch yn dechrau cronni eich gwyliau. Faint bynnag o wyliau y mae gennych hawl iddo, rhaid i chi gymryd o leiaf pedair wythnos o wyliau bob blwyddyn, a bydd eich cyflogwr yn penderfynu a gewch chi drosglwyddo unrhyw ddyddiau nad ydych wedi'u cymryd i'r flwyddyn wyliau nesaf.
Ceir dwy ffordd y bydd eich cyflogwr yn rheoli eich hawl gwyliau, naill ai drwy ‘flwyddyn gwyliau’ neu drwy system ‘gronni gwyliau’ (sydd ond yn gallu gweithredu yn y flwyddyn gyntaf o’ch cyflogaeth).
Blynyddoedd gwyliau
Defnyddir y term 'gwyliau' i ddisgrifio'r cyfnod y bydd eich cyflogwr yn disgwyl i chi gymryd eich gwyliau blynyddol ynddo.
Yn eich contract cyflogaeth mae'n bosib bod gennych drefniant gyda'ch cyflogwr ynghylch pryd y bydd eich blwyddyn wyliau'n rhedeg (er enghraifft 1 Ionawr hyd at 31 Rhagfyr). Os nad oes gennych drefniant yna bydd eich blwyddyn yn dechrau:
Os byddwch yn dechrau swydd newydd ar ôl i'r flwyddyn wyliau ddechrau, bydd gennych hawl i gyfran o'ch gwyliau, yn dibynnu ar faint o wyliau sydd ar ôl yn y flwyddyn wyliau.
Er enghraifft, os byddwch yn dechrau gweithio hanner ffordd drwy'r flwyddyn wyliau, bydd gennych hawl i hanner eich gwyliau. Bydd hyn wedyn yn ailddechrau ar ddechrau'r flwyddyn wyliau newydd.
Yn yr un modd, os byddwch yn gadael eich swydd ran o'r ffordd drwy flwyddyn wyliau bydd gennych hawl i gyfran o'ch gwyliau.
Efallai y bydd y cyfrifiannell hawl gwyliau statudol sydd ar wefan Business Link yn ddefnyddiol i chi. Mae’n eich galluogi i gyfrifo'r hawl gwyliau statudol ar gyfer blynyddoedd llawn neu rannol yn seiliedig ar y dyddiau neu oriau penodol yr ydych chi’n gweithio.
Cronni gwyliau
Mae rhai cyflogwyr yn rhedeg system ‘cronni gwyliau’, ble y mae gwyliau yn cael ei gronni dros y flwyddyn gyntaf o gyflogaeth. Mae hwn yn golygu am bob fis yr ydych chi’n gweithio, yr ydych yn gymwys i un rhan o ddeuddeg o’ch gwyliau. Felly, ar ôl chwe mis, byddwch yn gymwys am hanner o’ch hawl flynyddol.
Mae’r cronni gwyliau fel arfer yn parhau yn ystod absenoldebau statudol fel absenoldeb mamolaeth.
Nid oes gennych hawl awtomatig i i drosglwyddo gwyliau o un flwyddyn i'r un nesaf. O’ch 5.6 wythnos y mae gennych hawl iddo, mae’n rhaid i chi gymryd y pedair wythnos gyntaf o wyliau, yn y flwyddyn y mae wedi’u dyrannu iddo. Gallwch ond â throsglwyddo 1.6 wythnos o absenoldeb ychwanegol sydd heb eu cymryd, a hynny'n unig os cewch ganiatâd gan eich cyflogwr neu os yw'ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.
Os yw’ch hawl gwyliau’n fwy hael na’r isafswm statudol, efallai y gwnaiff eich cyflogwr ganiatáu i chi drosglwyddo'r hawl ychwanegol os nad yw’n cael eu cymryd. Fodd bynnag, dylai hwn fod yn eich contract cyflogaeth.
Nid ydych yn cael cyfnewid unrhyw hawl gwyliau sylfaenol am dâl. Mae’n rhaid i chi gymryd eich holl hawl gwyliau sylfaenol bob blwyddyn.