Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel arfer, bydd faint o wyliau gewch chi wedi ei nodi yn eich contract cyflogaeth. Yr isafswm statudol yw 5.6 wythnos, sy’n gallu cynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus. Cael gwybod sut i gyfrifo eich hawl, gan gynnwys cyfrifiadau ar gyfer gwaith rhan-amser a phatrymau gweithio eraill.
I gyfrifo'ch lwfans gwyliau sylfaenol lluoswch nifer y dyddiau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos â 5.6. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio pum niwrnod yr wythnos byddai gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn.
5 diwrnod x 5.6 wythnos = 28 diwrnod
Yn ddifater o’ch patrwm gweithio, mae’r hawl gwyliau isafswm yn cael ei chapio ar 28 diwrnod. Felly, os ydych chi’n gweithio am chwe diwrnod o’r wythnos, bydd yr hawl statudol o 5.6 wythnos yn parhau i fod yn 28 diwrnod.
Efallai y bydd y cyfrifiannell hawl gwyliau sylfaenol sydd ar wefan Business Link yn ddefnyddiol i chi. Mae’n eich galluogi i gyfrifo'r hawl gwyliau statudol ar gyfer blynyddoedd llawn neu rannol yn seiliedig ar y dyddiau neu oriau penodol yr ydych chi’n gweithio.
Gall gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus cael eu cynnwys fel rhan o’ch hawl gwyliau 5.6 wythnos isafswm.
Os ydych yn weithiwr rhan-amser, bydd gennych chithau'r hawl i 5.6 wythnos o wyliau - 5.6 o'ch wythnos waith arferol. Er enghraifft, os ydych yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos mae gennych hawl i o leiaf 11.2 diwrnod o wyliau:
2 diwrnod x 5.6 wythnos = 11.2 diwrnod
Os ydych chi'n weithiwr rhan-amser, ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr amser llawn cyfatebol. Golyga hyn bod gofyn i gyflogwyr sy'n rhoi dyddiau ychwanegol o wyliau i weithwyr amser llawn roi dyddiau ychwanegol i weithwyr rhan-amser hefyd.
Os ydych yn weithiwr asiantaeth, mae'n rhaid i'ch asiantaeth adael i chi gymryd eich gwyliau gyda thâl.
Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth, yr ydych yn gymwys am yr hawl gwyliau isafswm statudol o 5.6 wythnos. Mae’n rhaid i’ch asiantaeth eich gadael chi i gymryd eich gwyliau â thâl.
Os ydych chi'n gweithio'n achlysurol neu'n gweithio oriau afreolaidd, efallai mai'r peth hawddaf i'w wneud yw cyfrifo'r hawl gwyliau sy'n cronni yn ôl nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio. Mae'r hawl gwyliau o 5.6 wythnos yn cyfateb i weithio 12.07 y cant o’r oriau yr ydych wedi gweithio. Y ffigwr 12.07 y cant yw:
5.6 wythnos o wyliau, wedi’i rhannu â 46.4 wythnos (sef 52 wythnos – 5.6 wythnos) a’i lluosi â 100 = 12.07 y cant
Rhaid tynnu'r 5.6 wythnos o'r cyfrifiad oherwydd ni fyddech yn bresennol yn ystod y 5.6 wythnos i gronni'r gwyliau blynyddol. Felly petaech wedi gweithio 10 awr, byddai gennych hawl i 72.6 munud o wyliau â thâl:
12.07 y cant x 10 awr = 1.21 awr = 72.6 munud
Mae'r hawl gwyliau ychydig dros saith munud ar gyfer pob awr a weithiwyd.
Os ydych chi'n weithiwr sifft cyfrifir eich gwyliau drwy ddefnyddio cyfartaledd eich sifftiau dros gyfnod o 12 wythnos.
Er enghraifft, os ydych bob amser yn gweithio pedair sifft 12 awr ac yn cael pedwar diwrnod i ffwrdd ar ôl gweithio hynny (y patrwm sifftiau 'cyfandirol') mae'r wythnos waith arferol ar gyfartaledd yn tair a hanner o sifftiau 12 awr.
Byddai gennych chi’r hawl i 19.6 sifft o 12 awr o wyliau â thâl y flwyddyn:
5.6 wythnos x 3.5 sifft = 19.6 sifft 12 awr
Ar gyfer patrymau sifft eraill, efallai mai'r peth hawsaf i'w wneud yw cyfrifo yn ôl y patrwm ailadrodd sy'n cael ei ddefnyddio.
Mae’r canllaw ar gyfer gweithwyr amser tymor o dan adolygiad ar hyn o bryd.