Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan bob gweithiwr hawl i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ond fe allech gael mwy na hynny. Gall eich cyflogwr reoli rhai pethau'n ymwneud â'ch gwyliau, gan gynnwys pryd y dylech ei gymryd ac a yw gwyliau banc wedi'i gynnwys yn eich hawl gwyliau.
Mae gennych hawl sylfaenol i wyliau â thâl, ond mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn cynnig mwy na hyn i chi. Dyma'r prif bethau y dylech ei wybod am yr hawl i wyliau:
Er mwyn bod yn gymwys i hawlio gwyliau blynyddol bydd angen i chi fod yn weithiwr. Os ydych yn hunangyflogedig, nid oes gennych hawl statudol i wyliau blynyddol â thâl.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn rhoi mwy na'r 5.6 wythnos sylfaenol o wyliau i chi fel rhan o delerau eich cyflogaeth. Gallwch weld yn eich contract neu yn llawlyfr y cwmni faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt.
Nid oes gennych hawl i gael gwyliau ychwanegol, hyd yn oed heb dâl, oni bai fod eich contract yn ei ddarparu. Gall eich cyflogwr bennu ei reolau ei hun ynghylch unrhyw wyliau a roddir yn ychwanegol i'r gwyliau sylfaenol y mae gennych hawl iddynt yn ôl y gyfraith. Ni chaiff eich cyflogwyr roi llai na'r isafswm cyfreithiol i chi.
Nid oes gennych hawl statudol i wyliau â thâl ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus. Os bydd eich cyflogwr yn rhoi gwyliau â thâl i chi ar wyliau banc neu wyliau cyhoeddus, gall hyn gyfri tuag at eich hawl gwyliau sylfaenol. Ceir wyth o ddyddiau gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc parhaol yng Nghymru a Lloegr (ceir naw yn yr Alban a deg yng Ngogledd Iwerddon).
Os byddwch yn gweithio ar wyliau cyhoeddus neu ar ŵyl banc, nid oes hawl awtomatig i gael mwy o gyflog. Bydd faint a delir i chi'n dibynnu ar eich contract cyflogaeth.
Os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser a bod eich cyflogwr yn rhoi amser ychwanegol o'r gwaith i weithwyr ar wyliau banc, dylai fod hyn yn cael ei roi ar sail pro rata i chi hefyd, hyd yn oed os nad yw gŵyl y banc yn glanio ar eich diwrnod gwaith arferol.
Os nad ydych chi'n cael eich hawl gwyliau llawn, siaradwch â'ch cyflogwr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (er enghraifft, swyddog Undeb Llafur) fe allwch ofyn iddyn nhw am gymorth. Dilynwch y drefn a ddangosir yn yr erthygl am ddatrys problemau yn y gwaith. Os nad yw hyn yn helpu, efallai y gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth.