Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwyliau banc yn wyliau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, ac ar y dyddiau hyn bydd banciau a llawer o fusnesau eraill ar gau. Cewch wybod yma beth yw dyddiadau'r gwyliau banc mewn gwahanol rannau o'r DU, a chael gwybod pryd mae'r clociau'n cael eu troi yn ôl ac ymlaen ar gyfer Amser Haf Prydain.
Cymru a Lloegr | 2012 | 2013 | 2014 | 2015 |
---|---|---|---|---|
Dydd Calan | 2 Ionawr* | 1 Ionawr | 1 Ionawr | 1 Ionawr |
Dydd Gwener y Groglith | 6 Ebrill | 29 Mawrth | 18 Ebrill | 3 Ebrill |
Dydd Llun y Pasg | 9 Ebrill | 1 Ebrill | 21 Ebrill | 6 Ebrill |
Gŵyl Banc Cyntaf Mai | 7 Mai | 6 Mai | 5 Mai | 4 Mai |
Gŵyl Banc y Gwanwyn | 4 Mehefin* | 27 Mai | 26 Mai | 25 Mai |
Jiwbilî Diemwnt y Frenhines | 5 Mehefin | - | - | - |
Gŵyl Banc yr Haf | 27 Awst | 26 Awst | 25 Awst | 31 Awst |
Dydd Nadolig | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr |
Gŵyl San Steffan | 26 Rhagfyr | 26 Rhagfyr | 26 Rhagfyr | 28 Rhagfyr* |
* diwrnod yn ei le |
Ceir gwahanol wyliau banc a gwyliau cyhoeddus mewn gwahanol rannau o’r DU. Mae chwe gŵyl banc arferol ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr ac un ychwanegol yn 2012. Mae Dydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith yn wyliau cyhoeddus.
Mae rhestr o ddyddiadau disgwyliedig gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr yn y tabl uchod.
Gwyliau banc arbennig
Ceir deddfau sy'n caniatáu newid dyddiadau gwyliau banc, neu gyhoeddi gwyliau eraill, i ddathlu digwyddiadau arbennig, er enghraifft.
Bydd ŵyl banc arbennig yn 2012 i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Bydd Gŵyl Banc y Gwanwyn yn cael ei symud i Ddydd Llun 4 Mehefin 2012 a bydd gŵyl banc ychwanegol y Jiwbilî ar Ddydd Mawrth 5 Mehefin 2012.
Yr oedd hefyd ŵyl banc arbennig ar 29 Ebrill 2011 i ddathlu’r Briodas Frenhinol.
Diwrnodau yn eu lle
Pan fydd diwrnod arferol yr ŵyl banc neu’r ŵyl gyhoeddus ar ddydd Sadwrn neu Sul, bydd ‘diwrnod yn ei le’ yn cael ei rhoi, fel arfer y dydd Llun canlynol. Er enghraifft yn 2009, yr oedd Gŵyl San Steffan ar ddydd Sadwrn, 26 Rhagfyr, felly yr oedd ŵyl banc yn ei le ar ddydd Llun, 28 Rhagfyr.
Yr Alban | 2012 | 2013 | 2014 | 2015 |
---|---|---|---|---|
Dydd Calan | 2 Ionawr* | 1 Ionawr | 1 Ionawr | 1 Ionawr |
2 Ionawr | 3 Ionawr | 2 Ionawr | 2 Ionawr | 2 Ionawr |
Dydd Gwener y Groglith | 6 Ebrill | 29 Mawrth | 18 Ebrill | 3 Ebrill |
Gŵyl Banc Cyntaf Mai | 7 Mai | 6 Mai | 5 Mai | 4 Mai |
Gŵyl Banc y Gwanwyn | 4 Mehefin* | 27 Mai | 26 Mai | 25 Mai |
Jiwbilî Diemwnt y Frenhines | 5 Mehefin | - | - | - |
Gŵyl Banc yr Haf | 6 Awst | 5 Awst | 4 Awst | 3 Awst |
Gŵyl San Andreas | 30 Tachwedd | 2 Rhagfyr* | 1 Rhagfyr* | 30 Tachwedd |
Dydd Nadolig | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr | 25 Rhagfyr |
Gŵyl San Steffan | 26 Rhagfyr | 26 Rhagfyr | 26 Rhagfyr | 28 Rhagfyr* |
* diwrnod yn ei le |
Ceir saith gŵyl banc statudol ledled yr Alban. Mae Dydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith yn wyliau cyhoeddus. Ceir hefyd gwyliau cyhoeddus neu wyliau lleol sy’n cael eu pennu gan awdurdodau lleol, ar sail traddodiadau lleol. Ers 2007, mae Gŵyl San Andreas yn wyliau cyhoeddus statudol.
Nid yw busnesau ac ysgolion o reidrwydd yn cau ar wyliau banc yn yr Alban, ac mae banciau'r Alban yn dilyn gwyliau banc Cymru a Lloegr am resymau busnes.
Yng Ngogledd Iwerddon, ceir wyth gŵyl banc statudol - yr un chwech â Chymru a Lloegr, a hefyd Gŵyl San Padrig a diwrnod coffáu Brwydr y Boyne yn 1690. Mae Dydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith yn wyliau cyhoeddus.
Nid oes gennych hawl i wyliau â thâl ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus fel mater o drefn, er bod llawer o bobl yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith. Mae unrhyw hawl i gael gwyliau neu dâl ychwanegol am weithio ar ŵyl y banc yn dibynnu ar delerau eich contract cyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i wyliau â thâl, ewch i 'Hawl i wyliau'.
Mae Amser Haf Prydain yn dechrau ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth ac yn dod i ben ar y dydd Sul olaf ym mis Hydref, am 1.00 am Amser Safonol Greenwich:
Mae tymor yr haf yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau canlynol:
2012 | ||
---|---|---|
Troi'r clociau ymlaen | 25 Mawrth | |
Troi’r clociau yn ôl | 28 Hydref |