Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau undeb llafur

Os yw'ch cyflogwr yn cydnabod yr undeb llafur rydych yn aelod ohono, mae gennych hawl i gymryd amser rhesymol o’r gwaith ar gyfer gweithgareddau undeb llafur. Os ydych chi’n gynrychiolydd, mae'n bosib bod gennych hawl i gymryd amser rhesymol o'r gwaith i gyflawni rhai o'ch dyletswyddau.

Hawl i amser o’r gwaith

Cymorth rhyngweithiol

Defnyddiwch yr adnodd ar-lein hwn i gael help gyda cheisiadau am amser o’r gwaith

Mae gennych hawl i gael amser rhesymol o’r gwaith heb dâl er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur os ydych yn aelod o undeb llafur:

  • sy'n cael ei gydnabod yn eich gweithle gan eich cyflogwr
  • sy’n annibynnol

Mae hyn yn berthnasol i aelodau cyffredin yn ogystal â swyddogion undeb a chynrychiolwyr eraill y gweithle.

Os ydych chi’n stiward undeb neu’n swyddog undeb llafur cyfatebol ar gyfer undeb llafur annibynnol sy’n cael ei gydnabod, mae gennych hawl i gael amser rhesymol o’r gwaith â thâl i wneud y canlynol:

  • cyflawni'ch dyletswyddau fel swyddog
  • dilyn hyfforddiant perthnasol er mwyn cyflawni'r dyletswyddau hynny

Os ydych wedi cael eich penodi’n gynrychiolydd dysgu gan eich undeb llafur a'i fod yn undeb llafur annibynnol sy’n cael ei gydnabod, mae gennych hawl i gael amser rhesymol o’r gwaith â thâl i wneud y canlynol:

  • dilyn hyfforddiant i gyflawni dyletswyddau cynrychiolydd dysgu
  • cyflawni’r dyletswyddau hynny

Amser rhesymol o'r gwaith

Mae gennych hawl i gymryd cyfnod rhesymol i ffwrdd yn ystod eich oriau gwaith arferol. Ystyr oriau gwaith arferol yw'r oriau y mae'n rhaid i chi eu gweithio yn ôl eich contract cyflogaeth.

Nid oes diffiniad cyfreithiol o'r hyn a olygir wrth ‘amser rhesymol o'r gwaith’. Mae’n bwysig i aelodau, swyddogion a chynrychiolwyr dysgu undeb llafur fod yn rhesymol ac yn hyblyg wrth ofyn am amser o'r gwaith, a bod cyflogwyr yn rhesymol ac yn hyblyg wrth ymdrin â'r ceisiadau hyn.

Bydd angen i chi ystyried ffactorau megis:

  • natur busnes eich cyflogwr
  • yr angen i wneud eich gwaith
  • anghenion eich rheolwr llinell a’ch cydweithwyr
  • pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • faint o amser o'r gwaith rydych eisoes wedi’i gael ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau undeb llafur

Os oes angen i chi gymryd amser o’r gwaith ar gyfer dyletswyddau neu weithgareddau undeb llafur, dylech roi cymaint o rybudd ag y bo modd i'ch cyflogwr, gan roi manylion y rheswm dros gymryd amser o'r gwaith a faint o amser y bydd arnoch ei angen.

Mae Cod Ymarfer Acas yn argymell i undebau llafur a chyflogwyr unigol gael cytundebau ffurfiol ynghylch amser o'r gwaith ar gyfer gweithgareddau undeb llafur.

Gweithgareddau undeb llafur

Dyma enghreifftiau o’r gweithgareddau undeb llafur y mae gennych hawl i gymryd amser rhesymol o’r gwaith ar eu cyfer:

  • mynd i gyfarfodydd yn y gweithle i drafod negodiadau gyda’ch cyflogwr a phleidleisio arnynt, megis codiad cyflog neu newidiadau yn eich telerau ac amodau
  • mynd i gyfarfod gydag un o swyddogion amser llawn yr undeb llafur i drafod materion sy'n berthnasol i'ch gweithle
  • pleidleisio mewn etholiad undeb llafur, er enghraifft i ethol stiward undeb
  • ymgynghori â chynrychiolydd dysgu undeb llafur

Gan na chewch chi fel arfer eich talu am amser o'r gwaith ar gyfer y gweithgareddau hyn, yn aml iawn, fe gynhelir y cyfarfodydd a’r gweithgareddau eraill yn ystod amser egwyl, megis amser cinio.

Os ydych wedi cael eich penodi neu’ch ethol fel swyddog undeb llafur, efallai y byddwch am fynychu cynadleddau a chyfarfodydd undeb llafur, gan gynnwys pwyllgorau llunio polisïau undebau llafur. Er nad oes gennych hawl statudol i chi gael tâl am yr amser hwn, bydd rhai cyflogwyr yn dewis eich talu mewn rhai amgylchiadau. Dylai eich contract cyflogaeth egluro a oes gennych chi hawl i gael eich talu.

Er bod gweithredu diwydiannol yn weithgarwch undeb llafur, nid oes hawl gennych i gael amser o'r gwaith ar gyfer hyn. Fodd bynnag, mae gan swyddogion undeb llafur hawl i gael amser o'r gwaith i gymryd rhan mewn trafodaethau i osgoi gweithredu diwydiannol.

Dyletswyddau undeb llafur

Os ydych chi’n swyddog undeb llafur, er enghraifft stiward undeb neu’n un o gynrychiolwyr eraill y gweithle, dyma rai o’r dyletswyddau y mae gennych hawl i gael amser rhesymol o’r gwaith ar eu cyfer:

  • trafod telerau ac amodau cyflogaeth
  • helpu gyda’r drefn ddisgyblu neu gwyno ar ran aelodau undeb llafur (gan gynnwys mynd gyda gweithwyr i wrandawiadau disgyblu neu gwyno)
  • mynd gydag aelodau undeb llafur i gyfarfodydd i drafod ceisiadau am batrymau gweithio hyblyg a cheisiadau i beidio ag ymddeol
  • trafod materion sy’n ymwneud ag aelodaeth o undeb llafur
  • trafod materion sy'n effeithio ar aelodau o undeb llafur (e.e. dileu swyddi neu werthu'r busnes)

Amser o'r gwaith ar gyfer cynrychiolwyr dysgu undeb llafur

Os ydych chi’n gynrychiolydd dysgu ar gyfer undeb llafur a bod eich undeb llafur wedi rhoi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig eich bod yn gynrychiolydd dysgu, gallwch gymryd amser rhesymol o’r gwaith i wneud y canlynol:

  • dadansoddi anghenion dysgu neu hyfforddi aelodau undeb llafur
  • darparu gwybodaeth a chyngor am faterion dysgu neu hyfforddiant
  • trefnu neu hyrwyddo dysgu neu hyfforddiant
  • trafod eich gweithgarwch fel cynrychiolydd dysgu gyda’ch cyflogwr
  • hyfforddi i fod yn gynrychiolydd dysgu

Ceir rhestr fanwl o enghreifftiau o ddyletswyddau a gweithgareddau perthnasol undeb llafur yng Nghod Ymarfer Acas.

Beth i’w wneud os na chewch chi gymryd amser o'r gwaith

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod rhoi amser o'r gwaith i chi er eich bod chi'n credu bod gennych hawl i'w gael, neu os na fydd yn eich talu am yr amser o'r gwaith a'ch bod chi'n credu y dylech gael eich talu, gallwch godi'r mater gyda'ch undeb llafur ac mae'n bosib y gallwch gyflwyno cwyn, gan ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os byddwch yn anfodlon â chanlyniad hyn, efallai y gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU