Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynrychiolwyr undebau llafur

Mae’n bosib y cewch eich cynrychioli yn eich gweithle gan gydweithwyr sy’n gynrychiolwyr undeb llafur, neu efallai y byddwch am fod yn gynrychiolydd eich hun a thrafod â’ch cyflogwr ar ran eich cydweithwyr.

Beth yw cynrychiolydd undeb llafur?

Bydd cynrychiolydd undeb llafur yn aelod o undeb llafur a fydd yn cynrychioli’i gydweithwyr mewn trafodaethau â chyflogwr. Bydd yn aml yn rhoi cyngor ynghylch materion cyflogaeth yn uniongyrchol i gydweithwyr. Caiff cynrychiolwyr undebau llafur hefyd eu galw yn ‘gynrychiolwyr lleyg’ neu’n ‘swyddogion lleyg’, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt a swyddogion sy’n cael eu cyflogi gan yr undeb llafur.

Mae cynrychiolwyr undebau llafur yn wirfoddolwyr. Ni fyddant yn derbyn tâl ychwanegol am eu gwaith fel cynrychiolwyr, ond bydd gan nifer ohonynt yr hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl i wneud eu gwaith fel cynrychiolwyr.

Rôl cynrychiolwyr undebau llafur

Diben cynrychiolwyr undebau llafur yw:

  • trafod unrhyw bryderon a fydd gennych â’ch cyflogwr
  • mynd gyda chi i wrandawiadau disgyblu neu gwyno
  • eich cynrychioli wrth gydfargeinio dros eich cyflog a thelerau ac amodau eich cyflogaeth
  • trafod â’ch cyflogwr i geisio dod i gytundeb er mwyn datrys unrhyw broblemau yn y gweithle
  • trafod â’ch cyflogwr i ddatblygu arferion gorau mewn gwahanol agweddau ar y gweithle, megis iechyd a diogelwch

Dylai’ch cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwr undeb llafur:

  • os bydd busnes yn cael ei drosglwyddo neu ei drosfeddiannu
  • os bydd yn bwriadu dileu swyddi 20 neu ragor o gyflogeion o fewn cyfnod o 90 diwrnod

Eich hawl i gael rhywun gyda chi

Gallwch ofyn i gynrychiolydd undeb llafur fynd gyda chi i gyfarfod â’ch cyflogwr lle mae gennych yr hawl i gael rhywun gyda chi, er enghraifft, mewn cyfarfodydd lle:

  • bydd eich cyflogwr yn dymuno trafod cyhuddiad o gamymddwyn yn eich erbyn
  • byddwch yn dymuno trafod cwyn sydd gennych yn erbyn eich cyflogwr
  • bydd eich cyflogwr yn dymuno trafod eich cais i beidio ag ymddeol

Ni fydd yn rhaid i’ch undeb llafur ddod o hyd i gynrychiolydd i fynd gyda chi.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfarfod lle nad oes gennych yr hawl i gael rhywun gyda chi, neu efallai na fydd neb ar gael i fynd gyda chi. Yn y sefyllfaoedd hyn, cewch ofyn i’ch cyflogwr a gaiff rhywun arall fynd gyda chi.

Bod yn gynrychiolydd undeb llafur

Cymorth rhyngweithiol

Defnyddiwch ein hadnodd ar-lein i helpu gyda cheisiadau am amser o’r gwaith

Os hoffech fod yn gynrychiolydd undeb llafur, cewch ragor o wybodaeth ar wefan eich undeb llafur neu drwy ofyn i’r cynrychiolydd yn eich gweithle. Gallai eich undeb llafur eich penodi, neu mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gael eich ethol i gynrychioli’ch cydweithwyr.

Os byddwch yn dewis bod yn gynrychiolydd undeb, mae’n bosib y bydd eich undeb llafur yn gofyn i chi gymryd amser o’r gwaith i gael eich hyfforddi, neu i gyflawni dyletswyddau undeb llafur. Dylai’ch cyflogwr roi amser rhesymol i chi o’r gwaith ar gyfer y gweithgareddau hyn. Bydd gennych yr hawl i gael eich talu am amser rhesymol o’r gwaith os bydd eich undeb llafur wedi’i gydnabod gan eich cyflogwr.

Mathau eraill o gynrychiolwyr

Ceir rhai mathau o gynrychiolwyr yn y gweithle nad ydynt yn gynrychiolwyr undeb llafur, er enghraifft, lle na fydd undeb llafur wedi’i gydnabod yn y gweithle. Gallant gynnwys y canlynol:

  • cynrychiolwyr iechyd a diogelwch
  • cynrychiolwyr a etholir neu a benodir i ymgynghori â chyflogwyr yn ystod cyfnodau o ddileu swyddi a throsglwyddo busnes
  • cynrychiolwyr a etholir neu a benodir o dan gytundeb hysbysu ac ymgynghori

Allweddumynediad llywodraeth y DU