Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd gennych broblem yn y gwaith, efallai y bydd angen i chi gael gair â chynrychiolydd addas yn y gweithle. Os nad ydych yn siŵr pwy yw’r cynrychiolydd mwyaf addas, dylech siarad â’ch swyddog undeb neu gynrychiolydd eich cangen a fydd yn siŵr o wybod.
Defnyddiwch ein hadnodd ar-lein i helpu gyda cheisiadau am amser o’r gwaith
Bydd llawer o undebau llafur yn cyflogi staff cyflogedig i weithredu fel cynrychiolwyr ar gyfer cyflogeion yn y gweithle. Byddant yn aml yn cydweithio’n agos â chynrychiolwyr lleyg (e.e. swyddogion undeb a chynrychiolwyr eraill yn y gweithle) a gallant roi cyngor i’r rhain.
Bydd rhai o staff cyflogedig undebau llafur yn ymweld â chyflogwyr i fynychu cyfarfodydd megis gwrandawiadau disgyblu neu drafodaethau ynghylch cyflogau. Gelwir y rhain yn aml yn swyddogion llawn amser, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt a chynrychiolwyr yn y gweithle.
Bydd gan rai cynrychiolwyr undeb llafur yn y gweithle yr hawl cyfreithiol:
Bydd yr hawl ond yn berthnasol pan fydd cyflogwr yn cydnabod eu hundebau llafur yn y gweithle.
Bydd y cynrychiolwyr hyn yn cynnwys:
Ni fydd gan bob cynrychiolydd undeb llafur yr hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl, er enghraifft:
Efallai y bydd gan rai cyflogwyr drefniadau gwirfoddol gydag undebau llafur i ganiatáu amser o’r gwaith i’r cynrychiolwyr hyn.
Bydd pa gynrychiolydd y bydd angen i chi siarad ag ef ynghylch rhywbeth yn y gwaith yn dibynnu ar nifer y cynrychiolwyr yn eich gweithle. Weithiau, efallai mai dim ond un cynrychiolydd fydd yn y gweithle ac y bydd yn llenwi sawl rôl i’r undeb llafur.
Os bydd mwy nag un cynrychiolydd, bydd angen i chi ddod o hyd i’r un mwyaf addas. Er enghraifft, os byddwch yn poeni am eich iechyd a diogelwch, bydd angen i chi siarad â’r cynrychiolydd iechyd a diogelwch. Os na fyddwch yn siŵr pwy yw’r cynrychiolydd mwyaf addas, y peth gorau i’w wneud fydd cysylltu ag uwch gynrychiolydd yr undeb llafur yn eich gweithle, a dylai’r unigolyn hwnnw allu eich cyfeirio at y cynrychiolydd priodol.
Efallai na fydd cynrychiolydd undeb llafur o gwbl yn eich gweithle, er bod eich undeb llafur yn cael ei gydnabod gan y cyflogwr. Os felly, bydd angen i chi gael gair â chynrychiolydd lleyg mewn gweithle arall neu â swyddog llawn amser eich undeb llafur.