Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan bob undeb llafur systemau i gynnwys eu haelodau yn eu prosesau penderfynu. Gall y rhain gynnwys cynnal pleidleisiau ac etholiadau i ganfod barn eu haelodau. Mewn rhai achosion mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i undebau llafur gynnal pleidlais ar gyfer eu haelodau. Canlyniad y bleidlais honno fydd yn penderfynu beth sy’n digwydd.
Yn ôl y gyfraith rhaid i undeb llafur gynnal pleidlais ar gyfer ei holl aelodau mewn tair sefyllfa. Y rhain yw:
Hefyd, rhaid i undeb llafur sy’n dymuno galw gweithredu diwydiannol gynnal pleidlais ar gyfer yr holl aelodau y mae’n bwriadu gofyn iddynt gymryd rhan yn y weithred.
Gelwir y pleidleisiau hyn yn bleidleisiau statudol a rhaid iddynt gael eu cynnal drwy’r post bob amser. Mae hyn yn golygu y bydd ffurflen bleidleisio’n cael ei hanfon at aelodau’r undeb llafur, a chan ei bod yn bleidlais gudd, byddant yn ateb y cwestiynau drwy roi marc mewn un neu fwy o flychau ar y papur pleidleisio.
Cynhelir pleidleisiau ar uno pan fydd dau neu fwy o undebau llafur yn cyfuno i greu un undeb llafur newydd (cyfuniad) neu pan fo un undeb llafur yn trosglwyddo’i aelodau, ei asedau a’i rwymedigaethau cyfreithiol i undeb llafur arall. Mae hyn yn cael ei alw’n drosglwyddo ymrwymiadau.
Ni all cyfuniad ddigwydd heb bleidlais gan aelodau pob undeb llafur a rhaid i aelodau pob undeb llafur fod wedi pleidleisio o blaid cyfuno.
Ni all ymrwymiadau gael eu trosglwyddo heb fod aelodau’r undeb llafur sy’n trosglwyddo’i ymrwymiadau wedi pleidleisio o blaid y trosglwyddo.
Gydag ambell eithriad, rhaid cynnal etholiadau drwy bleidlais ar gyfer y swyddi canlynol mewn undeb llafur:
Mae gan rai undebau llafur gronfa wleidyddol, sy’n cael ei defnyddio gan yr undeb llafur i wneud rhoddion i bleidiau gwleidyddol neu i wario ar amcanion gwleidyddol. Mae cronfeydd gwleidyddol yn dod o fewn rheoliad arbennig.
Cynhelir pleidleisiau cronfeydd gwleidyddol i benderfynu a yw aelodau undeb llafur yn dymuno sefydlu cronfa wleidyddol. Rhaid i’r undeb llafur gynnal pleidlais cronfa wleidyddol arall o leiaf pob deng mlynedd i ofyn i’w aelodau a ydynt am i’r undeb llafur barhau i redeg cronfa wleidyddol. Gelwir hon weithiau’n ‘bleidlais adolygu’.
Cynhelir pleidleisiau ar weithredu diwydiannol i benderfynu a yw aelodau undeb llafur am weithredu’n ddiwydiannol o ganlyniad i anghydfod â’u cyflogwr (e.e. streic). Dim ond yr aelodau hynny y mae’r undeb yn bwriadu gofyn iddynt gymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol fydd yn cael pleidleisio.
Rhaid i’r datganiad canlynol ymddangos ar bob papur pleidleisio:
"Os ydych yn cymryd rhan mewn streic neu weithredu diwydiannol arall, mae’n bosibl y byddwch yn torri’ch contract cyflogaeth. Fodd bynnag, os cewch eich diswyddo am gymryd rhan mewn streic neu weithredu diwydiannol arall sydd wedi’i alw’n swyddogol ac sydd fel arall yn gyfreithlon, bydd y diswyddiad yn annheg os yw’n digwydd llai na deuddeg wythnos ar ôl i chi ddechrau cymryd rhan yn y gweithredu, ac yn ddibynnol ar yr amgylchiadau gall fod yn annheg os yw’n digwydd ar ôl hynny."
Os yw’r mwyafrif yn cefnogi gweithredu diwydiannol, rhaid i’r gweithredu ddechrau o fewn pedair wythnos ar ôl y bleidlais (neu wyth wythnos os yw’r undeb llafur a’r cyflogwr yn cytuno ar estyniad).
Mae pleidleisiau anstatudol yn unrhyw bleidlais a gynhelir lle mae undeb llafur yn gofyn i’w aelodau bleidleisio ar fater, heblaw’r pedwar math o bleidlais statudol. Efallai y bydd yn ofynnol o dan reolau’r undebau llafur, neu’n rhoi’r opsiwn iddo i’w galw, i benderfynu ar fater penodol drwy bleidlais. Rhaid cynnal pleidlais o’r fath yn unol â rheolau’r undeb llafur.