Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithredu diwydiannol ac undebau llafur

Bydd gweithredu diwydiannol fel arfer yn digwydd pan fydd aelodau o undeb llafur yn rhan o anghydfod gyda'u cyflogwr, na ellir ei ddatrys drwy negodi. Bydd yr undeb llafur yn gofyn i'w aelodau a fyddent yn dymuno gweithredu o ganlyniad i'r anghydfod.

Mathau o weithredu diwydiannol

Bydd gweithwyr fel arfer yn gweithredu’n ddiwydiannol drwy wrthod gweithio’n gyfan gwbl, neu wrthod gweithio yn y modd y mae’u contractau cyflogaeth yn pennu.

Ceir dau brif fath o weithredu diwydiannol:

  • streicio – lle bydd gweithwyr yn gwrthod gweithio i'r cyflogwr
  • gweithredu llai difrifol na streic – lle bydd gweithwyr yn cymryd camau megis ‘gweithio'n araf’, gwrthod gweithio goramser neu ateb galwadau-i-weithio

Dan rai amgylchiadau, sy’n brin iawn, mae’n bosib y bydd cyflogwr yn ‘cloi gweithwyr allan’ yn ystod anghydfod, sef atal gweithwyr rhag gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith.

Galw am weithredu diwydiannol

Os yw undeb llafur yn meddwl galw am weithredu diwydiannol o ganlyniad i anghydfod, yn gyntaf, bydd yn rhaid iddo benderfynu pa aelodau, yr effeithir arnynt gan yr anghydfod, y mae am ofyn iddynt fod yn rhan o’r gweithredu. Gallai ofyn i’r holl aelodau yr effeithir arnynt, neu ddim ond rhai ohonynt. Yna, bydd yn rhaid i’r undeb llafur ofyn i’r aelodau hynny y mae am iddynt gymryd rhan, a ydynt yn dymuno gweithredu’n ddiwydiannol. Bydd yn rhaid i’r undeb llafur wneud hyn drwy gynnal pleidlais bost.

Pan fyddwch yn pleidleisio ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol, dylai’r papur pleidleisio ofyn i chi a ydych yn barod i gymryd rhan mewn:

  • streic
  • weithredu diwydiannol llai difrifol na streic

Gall ofyn y ddau gwestiwn i chi.

Dim ond os yw’r mwyafrif o’r rheini sy’n pleidleisio yn ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn cyntaf y caiff yr undeb llafur alw am streic. Dim ond os yw’r mwyafrif o’r rheini sy’n pleidleisio yn ateb ‘ydw’ i’r ail gwestiwn y caiff alw am weithredu diwydiannol llai difrifol na streic. Os gofynnir y ddau gwestiwn, a bod y mwyafrif yn rhoi’r ateb ‘ydw' i'r ddau, gall yr undeb llafur benderfynu pa fath o weithredu y mae am alw amdano.

Bydd yn rhaid i’r undeb llafur roi’r ffigurau pleidleisio i’r holl aelodau a oedd â hawl i bleidleisio.

Bydd undeb llafur yn galw am weithredu diwydiannol drwy ddweud wrth ei aelodau bod arno eisiau cymryd rhan mewn unrhyw weithredu a fydd yn digwydd, pryd bynnag y bydd yn digwydd. Bydd yn rhaid i unigolyn neu bwyllgor sydd â’r awdurdod cywir wneud y penderfyniad, a bydd yn rhaid i’r papur pleidleisio ar gyfer y bleidlais fod wedi dweud pwy oedd yr unigolyn neu’r pwyllgor hwn.

Dylech gael pleidleisio'n gyfrinachol, heb ymyrraeth gan undeb llafur na’i swyddogion. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o undebau llafur, cyn y bleidlais, yn rhoi gwybod i’r aelodau yr effeithir arnynt am natur yr anghydfod ac am y rhesymau pam ei fod yn meddwl bod angen gweithredu’n ddiwydiannol er mwyn datrys yr anghydfod.

Gweithredu’n ddiwydiannol

Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, gallwch ddewis a ydych chi’n dymuno cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol y mae’ch undeb llafur wedi galw amdano neu beidio. Ni chaiff eich undeb llafur gymryd camau disgyblu yn eich erbyn am i chi ddewis peidio â chymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol.

Os cewch eich disgyblu gan eich undeb llafur am beidio â chymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol neu am groesi llinell biced, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Osgoi gweithredu diwydiannol

Dim ond os nad oes modd datrys anghydfod drwy unrhyw ddull arall y dylid gweithredu'n ddiwydiannol, gan y gall fod yn gostus ac yn niweidiol i'r ddwy ochr. Mae'n debygol y bydd trefniadau ffurfiol ar gael ar gyfer datrys anghydfodau, a'r rheini fel arfer yn cynnwys eich undeb llafur.

Mae fel arfer yn arfer da i fynd drwy'r holl gamau gydag unrhyw drefniadau datrys anghydfodau, tan nad oes dim arall i'w wneud oni bai am weithredu’n ddiwydiannol.

Weithiau, gall fod yn beth doeth dod â chymorth o'r tu allan. Gall cynghorwyr o Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) helpu cyflogwyr ac undebau llafur ddatrys anghydfodau mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU