Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithredu diwydiannol – eich hawl i atal aflonyddwch

Weithiau, pan fo aelodau undeb llafur yn gweithredu’n ddiwydiannol, amherir ar y nwyddau a’r gwasanaethau sydd ar gael. Dysgwch a oes gennych hawl i atal unrhyw aflonyddwch i ddarpariaeth y nwyddau a’r gwasanaethau yr ydych yn arfer eu derbyn.

Eich hawl i atal aflonyddwch

Mae gennych hawl i geisio rhwystro neu atal gweithredu diwydiannol os yw’r gweithredu diwydiannol yn, neu’n debygol, o fod yn anghyfreithlon ac un ai:

  • yn debygol o’ch rhwystro neu mae wedi’ch rhwystro rhag derbyn nwyddau neu wasanaethau
  • yn debygol o ostwng neu mae wedi gostwng ansawdd y nwyddau neu wasanaethau yr ydych yn eu derbyn

Gelwir hyn yn 'hawl y dinesydd i atal aflonyddwch'.

Mae gweithredu diwydiannol anghyfreithlon yn weithredu diwydiannol sydd wedi torri’r gyfraith. Gallai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, er enghraifft, os nad yw undeb llafur yn cynnal pleidlais cyn trefnu gweithredu diwydiannol.

Mae’r hawl i atal aflonyddwch yn weithredol yn achos unigolion preifat (‘dinasyddion’) yn unig ac nid i gyrff corfforaethol, fel cwmnïau. Mae’n gweithio drwy roi’r pŵer i unigolion wneud cais i’r llysoedd. Os yw’r llysoedd yn penderfynu bod eich cais yn ddilys, gallant:

  • orchymyn pwy bynnag sy’n trefnu’r gweithredu diwydiannol (ee yr undeb llafur) i roi’r gorau iddi
  • gorchymyn y sawl sy’n gweithredu’n ddiwydiannol i beidio dal ati

Gelwir gorchymyn o’r fath yn 'waharddeb'.

Sicrhau gwaharddeb

Os ydych am rwystro neu atal gweithredu diwydiannol, bydd yn rhaid i chi wneud cais i’r llys am waharddeb. Cyn gwneud hyn, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol.

Os byddwch yn gwneud cais i lys am waharddeb, bydd yn rhaid i chi allu dangos bod y gweithredu diwydiannol yn debygol o fod yn anghyfreithlon a bod un ai:

  • cyflenwad nwyddau neu wasanaethau i chi wedi, neu’n debygol o gael, ei atal neu oedi gan weithwyr sy’n gweithredu’n ddiwydiannol
  • bod ansawdd nwyddau neu wasanaethau a ddarperir i chi wedi dirywio, neu’n debygol o ddirywio, o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol

Ni fydd yn rhaid i chi ddangos i’r llysoedd:

  • bod gennych gontract i dderbyn y nwyddau neu wasanaethau
  • eich bod wedi ceisio lleihau’r aflonyddwch (ee drwy ddod o hyd i gwmni arall i’ch cyflenwi)
  • nad oes unrhyw ffordd o gael gafael ar y nwyddau neu wasanaethau
  • bod y sawl sydd wedi trefnu’r gweithredu diwydiannol wedi bwriadu’ch gadael heb nwyddau neu wasanaethau

Nid oes yn rhaid i chi aros nes byddwch wedi’ch gadael heb nwyddau neu wasanaethau. Os ydych yn disgwyl y bydd yn amharu arnoch, gallwch weithredu i geisio gwneud yn siŵr na fydd hynny’n digwydd.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU