Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Picedu a llinellau piced

Defnyddir picedu fel ffordd o gynyddu'r gefnogaeth ar gyfer gweithredu diwydiannol. Yma, cewch wybod pryd mae’n gyfreithlon gwneud hyn, ymhle a sut, a beth mae arnoch angen ei wybod os ydych chi’n meddwl ymuno â llinell biced neu os ydych chi am groesi un.

Picedu

Pan fydd gweithwyr sy’n rhan o weithredu diwydiannol yn cynnal protest mewn gweithle, neu’n agos i weithle, er mwyn cynyddu’r gefnogaeth ar gyfer eu hachos, gelwir hyn yn picedu. Gelwir y gweithwyr hynny sy’n rhan o’r picedu yn bicedwyr.

Mae’r picedwyr fel arfer yn rhoi gwybod i weithwyr eraill am yr anghydfod maent yn rhan ohono, ac am y gweithredu diwydiannol sy’n digwydd. Mae’n bosib y byddant hefyd yn ceisio perswadio gweithwyr eraill i beidio â gweithio o gwbl, neu i beidio â gwneud rhai o’u dyletswyddau arferol yn y gwaith.

Mae gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau God Ymarfer yn ymwneud â phicedu, sy’n egluro'r gyfraith yn fanwl, ac sy’n rhoi cyngor ynghylch sut dylid ei drefnu. Caiff y cyngor yn y Cod Ymarfer ei ystyried gan y llysoedd pan fyddant yn penderfynu achosion cyfreithiol yn ymwneud â phicedu.

Llinellau piced

Pobl sy'n hel y tu allan i fynedfa gweithle, neu’n agos ati, yw llinell biced. Gallai’r rhain gynnwys gweithwyr sydd ar streic, gweithwyr sydd wedi’u cloi allan gan eu cyflogwyr a chynrychiolwyr undebau llafur.

Fe all gweithgareddau llinell biced fod wedi’u targedu at y canlynol:

  • cydweithwyr sydd heb fod ar streic
  • gweithwyr i weithio’n lle’r rhai ar streic (ee gweithwyr sy’n gweithio i’r un cyflogwr, sy’n cael eu galw i mewn o weithle arall i weithio yn lle’r gweithwyr sydd ar streic)
  • gweithwyr sy’n gweithio i gyflogwyr eraill (ee gyrwyr lori sy’n dod a chyflenwadau i’r cyflogwr sy’n rhan o’r anghydfod)

Perswadio’r rheini sy’n gweithio i gyflogwyr eraill

Os byddwch yn ymuno â’r llinell biced sydd y tu allan i’ch gweithle, neu’n agos ato, cewch geisio perswadio’n heddychlon y rheini sy’n gweithio i gyflogwyr eraill nad ydynt yn rhan o’r anghydfod:

  • i’ch cefnogi
  • i beidio â chroesi’r llinell biced

Er enghraifft, efallai y byddwch am geisio perswadio gyrwyr lori cyflogwyr eraill i beidio â danfon cyflenwadau na chasglu nwyddau.

Fel arfer, byddai gwneud hyn yn anghyfreithlon, oherwydd byddai’n gofyn i’r gweithwyr eraill gymryd camau eilaidd (gweithredu gan unigolion sy’n gweithio i gyflogwr nad yw’n rhan o’r anghydfod), ond mae’n gyfreithiol gwneud hyn pan fyddwch yn picedu.

Y gyfraith a phicedu

Mae’r gyfraith droseddol yn berthnasol i bicedwyr, fel y mae i bawb arall. Felly, mae’n drosedd i bicedwyr wneud y canlynol:

  • defnyddio geiriau bygythiol neu sarhaus neu ymddwyn mewn modd bygythiol tuag at bobl eraill sy'n mynd heibio’r llinell biced
  • rhwystro pobl eraill neu gerbydau sy'n ceisio mynd i mewn neu allan o’r adeiladau lle mae'r piced, a hynny’n fwriadol
  • meddu ar arfau ymosodol
  • gwneud difrod i eiddo, boed hynny'n fwriadol neu'n ddi-hid
  • peri torheddwch, neu fygwth hynny
  • rhoi rhwystr ar briffordd gyhoeddus, megis ffordd gyfagos i’r adeiladau lle mae’r piced
  • atal, neu geisio atal, heddwas rhag cyflawni ei ddyletswyddau

Fe all yr heddlu fod yn bresennol wrth linell biced. Caiff yr heddlu gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol yn eu barn hwy i sicrhau bod y picedu'n heddychlon ac yn drefnus.

Chi sy'n atebol os byddwch yn torri unrhyw gyfraith droseddol neu sifil, neu'n annog eraill i dorri'r gyfraith, wrth i chi bicedu. Mae hyn yn cynnwys:

  • tresmasu
  • achosi niwsans sŵn
  • defnyddio bygythiadau, enllib neu athrod, a deunydd sarhaus mewn taflenni, ar faneri, ar hysbyslenni, mewn siantiau ac mewn areithiau

Os byddwch yn torri gorchymyn llys sy’n eich gwahardd chi neu’ch undeb llafur rhag cynnal piced, gellir eich cael yn euog o ddirmyg llys.

Picedu torfol

Pan fydd picedu torfol, mae mwy o siawns y bydd pobl yn torri’r gyfraith. Os bydd 20 neu ragor o bobl ar linell biced, caiff yr heddlu ddefnyddio pwerau arbennig er mwyn eu gwasgaru os yw'n debygol y byddant yn:

  • achosi anhrefn cyhoeddus difrifol
  • difrod difrifol i eiddo

Os yw'r heddlu'n bryderus bod bygythiad i ddiogelwch pobl eraill, fe gân nhw orchymyn y sawl sy'n picedu i roi'r gorau iddi, ac arestio unrhyw un sy'n gwrthod cydymffurfio.

Fel arfer, ni ddylai bod mwy na chwe unigolyn ar linell biced y tu allan i fynedfa. Dyma’r nifer uchaf y mae’r Cod Ymarfer sy’n ymwneud â phicedu yn ei argymell.

Picedu eilaidd

Mae’n anghyfreithlon i chi bicedu adeiladau cwmnïau eraill lle nad yw’r gweithwyr mewn anghydfod â’ch cyflogwr chi. Er enghraifft, os ydych chi ar streic, ni ddylech fynd i adeiladau cwsmeriaid eich cyflogwr, i annog eu gweithwyr i beidio â thrin nwyddau eich cyflogwr. Gelwir hyn yn picedu eilaidd.

Piced symudol

Mae grŵp o weithwyr sy’n symud rhwng gwahanol weithleoedd er mwyn picedu yn cynnal yr hyn a elwir yn ‘biced symudol’. Gellir defnyddio piced symudol er mwyn cyflawni picedu eilaidd, neu efallai y symudir y piced rhwng gwahanol weithleoedd sy'n berchen i'r un cyflogwr.

Fel arfer, mae piced symudol yn anghyfreithlon. Dim ond llinell biced yn eich gweithle arferol, neu yn agos ato, y cewch ymuno â hi. Fodd bynnag, mae gan rai gweithwyr yr hawl i bicedu mewn gwahanol safleoedd (er enghraifft, gweithwyr symudol nad oes ganddynt weithle arferol).

Os ydych chi’n un o swyddogion yr undeb llafur sy’n trefnu llinellau piced ar draws sawl safle, cewch symud rhwng gwahanol linellau piced cyn belled â bod y gweithwyr ar y llinellau piced hynny yn aelodau o'r undeb llafur y byddech fel arfer yn eu cynrychioli.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU