Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pleidleisio ar weithredu diwydiannol

Mae gan bob aelod o undeb llafur yr hawl i gael pleidleisio cyn y gall eu hundeb llafur ofyn iddynt gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol. Os ydych yn bryderus ynghylch y bleidlais sy’n cael ei chynnal gan eich undeb llafur, dylech gael gwybodaeth bellach am yr hyn y gallwch ei wneud.

Eich hawl i bleidleisio ar weithredu diwydiannol

Nid oes hawl gan eich undeb llafur i ofyn i unrhyw un o’i aelodau gymryd rhan, neu barhau i gymryd rhan, mewn gweithredu diwydiannol oni bai ei fod wedi cynnal ‘pleidlais gudd sydd wedi’i chynnal yn briodol’. Mae pleidlais neu etholiad yn cyfeirio at y broses o bleidleisio.

Ni all yr undeb llafur alw ar aelodau i weithredu’n ddiwydiannol oni bai bod mwyafrif y rhai sydd wedi pleidleisio wedi gwneud hynny o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.

Cynnal pleidleisiau ar weithredu diwydiannol

Rhaid cynnal etholiadau ar gyfer gweithredu diwydiannol yn gywir. Mae pleidlais ar weithredu diwydiannol wedi’i chynnal yn gywir os:

  • yw’n agored i gael ei harolygu gan berson annibynnol cymwys a benodir gan yr undeb llafur (nid oes angen hyn os yw nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio’n 50 neu lai)
  • os oedd wedi’i chynnal cyn i’r undeb llafur ofyn i’w aelodau gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol neu barhau i wneud hynny
  • bod pob aelod o’r undeb llafur y mae’r undeb yn bwriadu gofyn iddynt gymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol yn cael hawl i bleidleisio
  • yw’n cael ei chynnal drwy roi marc ar bapur pleidleisio
  • yw’n cynnwys pleidleisio drwy’r post
  • yw’r papur pleidleisio’n cynnwys gwybodaeth am y broses bleidleisio (ee yr hyn yr ydych yn pleidleisio arno a ble i anfon eich papur)
  • yw’r undeb llafur, cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal y bleidlais, yn dweud wrth bawb sydd â hawl i bleidleisio sawl pleidlais a fwriwyd a nifer y pleidleisiau o blaid, yn erbyn ac a ddifethwyd

Rhaid i’r papur pleidleisio hefyd ofyn i’r aelodau hynny sydd wedi pleidleisio o blaid neu yn erbyn a ydynt yn barod i gymryd rhan un ai mewn:

  • streic
  • gweithredu diwydiannol heblaw streic
  • y ddau ohonynt

Mae’r ‘Code of Practice on industrial action ballots and notice to employers’ yn amlinellu’r holl reolau ar bleidleisio ar weithredu diwydiannol.

Gweithredu diwydiannol a’ch hawliau cyflogaeth

Os cynhaliwyd pleidlais gywir ar y gweithredu diwydiannol yr ydych yn cymryd rhan ynddo a’i bod wedi’i threfnu’n gyfreithlon gan eich undeb llafur, byddwch fel arfer wedi’ch diogelu rhag cael eich diswyddo am gymryd rhan. Fel arfer ni fydd gennych hawl i gael eich talu, ac nid yw’ch cyflogwr yn debygol o’ch talu am y cyfnod pan fyddwch yn gweithredu’n ddiwydiannol.

Cwyno am bleidlais undeb llafur

Mae pleidlais sydd wedi’i chynnal yn gywir yn rhoi dewis i chi gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol neu barhau i wneud hynny. Mae gennych hawl i wneud cais am orchymyn llys os yw’ch undeb llafur yn gofyn i chi weithredu heb un. Fe’ch cynghorir i gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud cais i’r llys.

Gall y llys fod yn barod i ganiatáu gwaharddeb dros dro yn erbyn yr undeb llafur os na all y llys glywed eich achos ar unwaith. Mae gwaharddeb dros dro’n gwahardd yr undeb llafur rhag trefnu’r gweithredu diwydiannol yr ydych yn cwyno yn ei erbyn hyd nes bydd wedi clywed yr achos.

Os yw’r llys yn fodlon nad oedd pleidlais wedi’i chynnal, neu nad oedd wedi’i chynnal yn briodol, gall wneud gorchymyn yn erbyn yr undeb llafur. Gall y gorchymyn atal yr undeb llafur rhag trefnu gweithredu diwydiannol neu atal y gweithredu diwydiannol.

Os na fydd yr undeb llafur yn ufuddhau i’r gorchymyn, mae gennych hawl i wneud cais i’r llys i ofyn i’r llys ddatgan bod yr undeb llafur yn euog o ddirmyg llys.

Pleidleisiau eraill ar weithredu diwydiannol

Weithiau, bydd undebau llafur yn gofyn i’w haelodau bleidleisio ar ddirwyn gweithredu diwydiannol i ben ar ôl iddo ddechrau, neu ar gynigion a wnaethpwyd gan y cyflogwr i roi diwedd ar yr anghydfod dan sylw. Nid yw pleidleisiau o’r fath yn ofyniad statudol, a’r undebau llafur fydd yn penderfynu a ydynt am eu cynnal ai peidio, yn unol â’u rheolau.

Bydd undebau llafur weithiau’n cynnal pleidleisiau ‘ymgynghorol’ neu ‘ddangosol’ sy’n gofyn i aelodau a fyddent yn barod i weithredu’n ddiwydiannol yn erbyn rhyw fater neu’i gilydd. Mae gan undebau llafur bob rhyddid i gynnal y pleidleisiau hyn yn unol â’u rheolau. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r undeb llafur gynnal pleidlais arall gyfreithiol os ydynt yn bwriadu bwrw ymlaen ag unrhyw weithredu diwydiannol.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU