Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol

Dysgwch fwy am eich hawliau cyflogaeth os ydych yn meddwl cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol. Er enghraifft, os cewch eich diswyddo am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol, efallai y gallwch hawlio am ddiswyddo annheg.

Cael eich talu yn ystod gweithredu diwydiannol

Mae gennych hawl i dynnu’ch llafur yn ôl drwy weithredu diwydiannol ac ni all y llysoedd eich gorfodi i aros neu ddychwelyd i’r gwaith.

Os ydych yn gweithredu’n ddiwydiannol, mae’n bosibl y byddwch yn torri’ch contract cyflogaeth ac:

  • nid yw’ch cyflogwr yn debygol o’ch talu am y cyfnod pan ydych yn gweithredu’n ddiwydiannol
  • gall eich cyflogwr eich siwio am dorri amodau’ch contract cyflogaeth (nid yw hyn yn digwydd yn aml, ond mae’n bosibl)

Nid yw gweithredu diwydiannol fel arfer yn torri ar eich cyfnod o gyflogaeth ddi-dor. Fodd bynnag, ni fydd y dyddiau pan oeddech yn gweithredu’n ddiwydiannol fel arfer yn cyfrif tuag at hyd eich gwasanaeth.

Mae hyn yn golygu y bydd y cyfnodau pan oeddech yn cael eich cyflogi cyn ac ar ôl i chi weithredu’n ddiwydiannol fel arfer yn cyfrif tuag at hyd eich gwasanaeth. Mae hyn yn bwysig pan fyddwch yn edrych ar hawliau penodol o dan eich contract cyflogaeth (ee eich pensiwn) a rhai hawliau statudol (ee tâl diswyddo statudol).

Cael eich diswyddo am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol gwarchodedig

Byddwch fel arfer wedi’ch diogelu rhag cael eich diswyddo am gymryd rhan mewn ‘gweithredu diwydiannol gwarchodedig’.

Bydd gweithredu diwydiannol fel arfer yn weithredu diwydiannol gwarchodedig os yw’n weithredu swyddogol sydd wedi’i drefnu gan eich undeb llafur yn unol â’r gyfraith. Bydd wedi’i drefnu felly os:

  • yw’r anghydfod yn anghydfod llafur rhwng y gweithwyr a’u cyflogwr eu hunain
  • oes pleidlais bost gudd wedi’i chynnal a bod mwyafrif yr aelodau a bleidleisiodd wedi cefnogi’r gweithredu
  • oes hysbysiad manwl am y gweithredu wedi’i roi i’r cyflogwr o leiaf saith diwrnod cyn iddo ddechrau
  • yw wedi’i alw gan rywun yn yr undeb llafur sydd ag awdurdod i wneud hynny

Os cewch eich diswyddo am weithredu’n ddiwydiannol am 12 wythnos neu lai (gan gynnwys cyfnod o ychydig oriau neu ddyddiau’n unig), gallwch wneud hawliad yn erbyn diswyddiad annheg a bydd eich diswyddiad yn annheg. Bydd hyn yn weithredol os ydych yn cael eich diswyddo pan ydych yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol neu ar unrhyw adeg ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd rhan.

Wrth gyfrifo a ydych wedi cymryd rhan am 12 wythnos neu lai, nid yw dyddiau cau allan (pan fo’ch cyflogwr yn eich rhwystro rhag gweithio) yn cael eu cyfrif.

Os ydych yn parhau i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol gwarchodedig am fwy na 12 wythnos, bydd eich hawliau’n wahanol. Os cewch eich diswyddo am gymryd rhan ar ôl diwedd y 12 wythnos bydd eich diswyddiad yn annheg yn unig os nad yw’ch cyflogwr, ar adeg eich diswyddiad, wedi cymryd camau rhesymol i setlo’r anghydfod â’r undeb llafur.

Er enghraifft, gall fod yn annheg i’ch cyflogwr ddiswyddo streicwyr os yw’ch cyflogwr wedi bod yn afresymol drwy wrthod cais gan yr undeb llafur i gynnwys trydydd parti i gymrodeddu (helpu i gael cytundeb).

Diswyddo a gweithredu diwydiannol heb ei warchod

Mae gweithredu diwydiannol a drefnir gan undeb llafur yn weithredu diwydiannol ‘heb ei warchod’ os:

  • nad yw’r undeb llafur wedi cynnal pleidlais bost yn unol â’r gyfraith
  • nad yw’r undeb llafur wedi rhoi gwybod i’r cyflogwr, yn unol â’r gyfraith, am y gweithredu diwydiannol cyn y bleidlais neu cyn y gweithredu diwydiannol
  • yw’r undeb llafur wedi cefnu arno (e.e. oherwydd bod rhywun heb awdurdod wedi galw am y gweithredu, neu oherwydd bod yr undeb llafur o’r farn bod yr anghydfod wedi’i ddatrys), rhywbeth a elwir yn ‘weithredu a wrthodwyd’
  • yw’n weithredu diwydiannol eilaidd (i gefnogi gweithwyr cyflogwr arall), a elwir weithiau’n ‘weithredu mewn cydymdeimlad’
  • yw’n hyrwyddo arferion ‘llafur undeb yn unig’ (a adwaenir hefyd fel ‘siop gaeedig’)
  • yw’n cefnogi unrhyw weithwyr sydd wedi’i diswyddo am weithredu’n answyddogol
  • mai amodau eraill o’r gyfraith gweithredu diwydiannol a dorrwyd gan yr undeb llafur

Os ydych yn cael eich diswyddo tra ydych yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol heb ei warchod a alwyd gan eich undeb llafur, ni allwch fel arfer hawlio eich bod wedi’ch diswyddo’n annheg os yw pob cyflogai arall a oedd yn cymryd rhan wedi’u diswyddo hefyd.

Gallwch gwyno eich bod wedi’ch diswyddo’n annheg os ydych yn cael eich diswyddo am:

  • reswm annheg yn awtomatig (e.e. oherwydd eich dyletswyddau fel cynrychiolydd iechyd a diogelwch)
  • wrth gymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol ond nad yw pobl eraill sy’n cymryd rhan yn cael eu diswyddo
  • am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol heb ei warchod, ar ôl i chi rhoi’r gorau i gymryd rhan

Nid yw’r ffaith eich bod yn gallu hawlio diswyddiad annheg yn golygu y byddwch yn llwyddiannus.

Diswyddo am weithredu diwydiannol answyddogol

Mae gweithredu diwydiannol answyddogol yn weithredu diwydiannol nad yw’n cael ei drefnu gan unrhyw undeb llafur, ac nad yw’n gyfrifol amdano ychwaith. Fel arfer ni allwch hawlio yn erbyn diswyddiad annheg os ydych yn cael eich diswyddo am gymryd rhan mewn gweithredu o’r fath.

Gallwch hawlio o hyd os oedd y rheswm am eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig.

Gweithredu diwydiannol gan weithwyr nad ydynt yn aelodau o undeb llafur

Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol a chithau heb fod yn aelod o undeb llafur byddwch yn cael eich trin fel arfer fel pe baech yn cymryd rhan mewn gweithredu answyddogol. Mae hyn yn golygu os cewch eich diswyddo am gymryd rhan yn y gweithredu ni fydd gennych fel arfer hawl i gwyno eich bod wedi’ch diswyddo’n annheg.

Gallwch hawlio o hyd os oedd y rheswm am eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig.

Byddwch yn cael eich trin fel un sy’n cymryd rhan mewn gweithredu swyddogol os:

  • oes aelodau undeb llafur yn cymryd rhan ynddo; a
  • bod y gweithredu’n weithredu diwydiannol swyddogol a wneir gan eu hundeb llafur

Mae hyn yn golygu bod y gyfraith yn eich trin yn yr un ffordd ag y mae’n trin aelodau undebau llafur. Os cewch eich diswyddo bydd eich hawliau’n dibynnu ar a oedd y gweithredu diwydiannol yn warchodedig ynteu heb ei warchod a pha bryd y cawsoch eich diswyddo.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU