Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Eich hawl i ymuno ag undeb llafur (neu beidio)

Ni chaiff cyflogwyr nac asiantaethau cyflogi eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn perthyn i undeb llafur neu beidio, nac oherwydd eich bod yn gwrthod ymuno ag un neu'n penderfynu gadael un. Yn gyffredinol, chi piau'r dewis, ac mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr neu asiantaeth gyflogi eich trin yn annheg, beth bynnag y penderfynwch chi.

Yr hawl i berthyn i undeb llafur

Mae gennych yr hawl i ymuno ag undeb llafur neu aros yn aelod o undeb os dymunwch chi. Yng Ngogledd Iwerddon, fodd bynnag, efallai y ceir cyfyngiadau o ran pa undeb y cewch ymuno ag ef.

Ni ddylai eich cyflogwyr eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn perthyn i undeb llafur (er enghraifft, drwy wrthod cyfleoedd i chi gael dyrchafiad neu hyfforddiant). Ac ni ddylent geisio'ch perswadio i roi'r gorau i fod yn aelod o undeb drwy gynnig, er enghraifft, gwell amodau gwaith i chi am ildio'ch aelodaeth.

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich diswyddo, neu, os ydych chi'n gyflogai, i gael eich dewis ar gyfer dileu swydd am eich bod yn aelod o undeb neu am eich bod yn gwrthod gadael eich undeb.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, bydd gennych yr hawl, ar adeg briodol:

  • i gymryd rhan yng ngweithgareddau dilys yr undeb llafur, gan gynnwys cael amser o'r gwaith ar gyfer hynny
  • i ddefnyddio gwasanaethau'r undeb llafur, er enghraifft, cael cyngor cyfreithiol am faterion cyflogi

Ystyr 'adeg briodol' yw'r amser yn ystod oriau gweithio pan mae'ch cyflogwyr wedi cytuno y caiff aelodau undeb wneud y pethau hyn ac amser y tu allan i'ch oriau gweithio.

Os dewiswch chi ddefnyddio'r naill neu'r llall o'r hawliau hyn, ni ddylai eich cyflogwyr eich trin yn annheg, eich diswyddo na'ch dewis ar gyfer dileu swydd oherwydd hynny.

Yr hawl i beidio â pherthyn i undeb llafur

Mae gan bawb yr hawl i beidio ag ymuno ag undeb llafur, neu i adael undeb llafur y maent eisoes yn aelod ohono. Ni chaiff eich cyflogwyr eich trin yn annheg os dewiswch chi ddefnyddio'r hawl hon. Mae hefyd yn anghyfreithlon os bydd eich cyflogwyr:

  • yn ceisio'ch perswadio i ymuno ag undeb (ee drwy roi arian i chi)
  • yn eich gorfodi i dalu arian i undeb

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich diswyddo, neu, os ydych chi'n gyflogai, i gael eich dewis ar gyfer dileu swydd:

  • oherwydd nad ydych chi'n aelod o undeb
  • oherwydd i chi wrthod ymuno ag undeb
  • oherwydd i chi wrthod talu tâl aelodaeth undeb neu roi'r arian at elusen yn lle hynny

Nid yw'r gyfraith yn caniatáu 'siop gaeedig', lle bydd rhaid i bawb berthyn i undeb llafur penodol. Mae'n anghyfreithlon gwneud aelodaeth o undeb llafur yn amod ar gyfer cyflogi rhywun ac ni chaiff asiantaethau cyflogi wrthod eich cynnig ar gyfer swydd oherwydd nad ydych chi'n aelod o undeb.

A gaiff undeb eich cau allan neu'ch diarddel?

Caiff undeb llafur eich cau allan neu'ch diarddel am nifer penodol o resymau, er enghraifft:

  • os cyfyngir yr aelodaeth i bobl mewn crefft, diwydiant neu broffesiwn arbennig
  • os nad oes gennych y cymwysterau na'r profiad perthnasol
  • os nad ydych chi'n byw yn yr ardal lle mae'r undeb ar waith
  • os taw cymdeithas staff yw'r undeb ac nad ydych chi'n gweithio i'r cyflogwyr hynny
  • os yw'ch ymddygiad, o fewn terfynau, yn annerbyniol i'r undeb

Yng Ngogledd Iwerddon, dim ond i wahardd y mae'r rhesymau hyn yn berthnasol; nid yw deddfwriaeth yn edrych ar enghreifftiau o gau allan.

Unwaith i chi ymuno ag undeb, mae gennych hawl gyffredinol i barhau'n aelod cyn hired ag y dymunwch chi.

Mae gan y rhan fwyaf o undebau drefn gwyno. Os ydych chi'n teimlo bod eich undeb wedi'ch trin yn annheg, dylech ddefnyddio trefn gwyno'r undeb. Dylai swyddfa eich undeb allu rhoi manylion y drefn i chi. Os mai eich cwyn yw eich bod wedi'ch cau allan neu'ch diarddel ar gam, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth (neu Dribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon). Os yw eich undeb wedi torri ei reolau, bydd gennych hefyd yr hawl i ddefnyddio'r llysoedd sifil. Dylech geisio cyngor

Beth i'w wneud os cewch chi broblemau gyda'ch cyflogwr

Os gwedir eich hawliau i chi, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i ddechrau. Os byddwch chi'n dal i fod yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth:

  • os bydd eich cyflogwyr yn eich gorfodi i ymuno ag undeb llafur neu ei adael
  • os bydd eich cyflogwyr yn eich gorfodi i dalu tâl aelodaeth i undeb llafur
  • os bydd eich cyflogwyr yn eich trin yn annheg neu'n eich diswyddo am fod neu am beidio â bod yn aelod o undeb llafur
  • os bydd eich cyflogwyr yn eich trin yn annheg neu'n eich diswyddo am ymuno neu am beidio ag ymuno ag undeb llafur
  • os bydd rhywun wedi gwrthod swydd i chi neu fod asiantaeth cyflogi wedi gwrthod gwasanaeth i chi am fod neu am beidio â bod yn aelod o undeb llafur

Ble i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU