Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau, bydd gweithwyr am godi pryderon, problemau neu gwynion â'u cyflogwr. Nid oes proses y mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwr ei dilyn sy'n eich rhwymo'n gyfreithiol wrth wneud cwyn neu ddelio â chwyn yn y gwaith. Fodd bynnag, dylech chi a'ch cyflogwr ddilyn rhai egwyddorion. Dyma beth ydyn nhw.
Mae gan Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) God Ymarfer ar drefniadau disgyblu a chwyno (y Cod). Mae’n pennu’r egwyddorion y dylech chi a’ch cyflogwr eu dilyn er mwyn cyrraedd safon ymddygiad sy’n rhesymol ar gyfer ymdrin â chwynion.
Ceisiwch gael sgwrs anffurfiol â'ch cyflogwr cyn gwneud cwyn ffurfiol i weld os gwnaiff hynny helpu.
Efallai y byddwch am sôn wrth eich cyflogwr am broblemau sy'n ymwneud â'r canlynol:
Os gwnaethoch chi geisio datrys y gŵyn yn anffurfiol ond na fu hyn yn llwyddiant, dylech godi'r mater yn ffurfiol. Dylech wneud hyn drwy ddefnyddio trefniadau cwyno ffurfiol eich cyflogwr.
Dylai’ch cyflogwr rhoi ei drefniadau cwyno’n ysgrifenedig. Dylech ddod o hyd i'r rhain yn un o'r canlynol:
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr, fan leiaf, nodi ar bapur enw'r unigolyn y gallwch gysylltu ag ef i ddatrys y mater.
Er mwyn cydymffurfio â'r Cod, mae trefn gwyno eich cyflogwr yn debygol o gynnwys y camau canlynol:
Gellir cael rhagor o gyngor yn 'Disgyblu a chwyno yn y gwaith. Arweiniad Acas'. Mae arweiniad Acas yn helpu cyflogwyr a gweithwyr:
Nid yw'n rhan o'r Cod.
Mor gynted ag yr ydych yn teimlo bod gennych gŵyn, dylech ysgrifennu at eich cyflogwr gyda manylion eich cwyn. Efallai y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol i chi gynnwys sut yr hoffech i'ch cyflogwr ddatrys y broblem. Dylech nodi'r dyddiad ar eich llythyr a chadw copi i chi'ch hun.
Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod cychwynnol ar adeg ac mewn lleoliad rhesymol er mwyn trafod eich cwyn. Dylech wneud pob ymdrech i fod yn bresennol yn y cyfarfod.
Rhowch drefn ar eich meddyliau cyn y cyfarfod. Peidiwch â bod ofn ysgrifennu'r hyn yr ydych am ei ddweud, does dim o'i le ar ei ddarllen yn uchel yn y cyfarfod.
Eich cyflogwr sydd i benderfynu ar fformat y cyfarfod. Bydd fel rheol yn trafod y materion yr ydych chi wedi'u codi ac yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau. Dylai'r cyfarfod fynd ati'n fwy na dim i geisio:
Os daw'n amlwg bod angen ymchwilio mwy i'r mater, dylai eich cyflogwr ystyried dirwyn y cyfarfod i ben am y tro a threfnu i'w orffen yn nes ymlaen ar ddyddiad arall.
Mae gennych hawl statudol (cyfreithiol) i fynd â rhywun gyda chi i’r cyfarfod. I arfer yr hawl hon, yn gyntaf oll mae’n rhaid i chi ofyn i’ch cyflogwr gewch chi ddod â rhywun gyda chi. Efallai eu bod:
Os nad oes un o’ch cydweithwyr yn gallu dod gyda chi, ac nad ydych yn aelod o undeb llafur, gofynnwch a gaiff aelod o'ch teulu neu weithiwr o'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth fod yn bresennol. Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn oni bai fod eich contract cyflogaeth yn mynnu ei bod yn rhaid iddo. Fodd bynnag, mae'n werth holi ac esbonio pam y byddai'n ddefnyddiol yn eich barn chi.
Gall y person sy'n dod gyda chi wneud y canlynol:
Fodd bynnag, ni chaiff yr unigolyn hwnnw ateb cwestiynau ar eich rhan. Maent wedi'u diogelu rhag cael eu diswyddo'n annheg neu’u trin yn anffafriol am eich cefnogi chi.
Ar ôl y cyfarfod, dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth yw ei benderfyniad.
Mae gan Ogledd Iwerddon ei drefniadau ei hun ar gyfer datrys anghydfodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan nidirect.
Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol ddarparu cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallwch gael help, cyngor a chefnogaeth ganddo.