Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cwyn yn y gwaith

Os ydych chi wedi gwneud cwyn yn y gwaith a bod eich cyflogwr wedi dod i benderfyniad, nad ydych chi’n hapus gyda, cael gwybod ynghylch gwneud apêl. Mae’n bosib y bydd ffyrdd eraill o ddatrys y broblem.

Apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr

Os nad ydych chi’n fodlon â phenderfyniad eich cyflogwr ynglŷn â'ch cwyn, neu os ydych chi’n meddwl bod diffyg yn y weithdrefn, dylid bod modd i chi apelio’r penderfyniad.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch apêl yn ysgrifenedig heb oedi afresymol. Dylai eich cyflogwr roi digon o amser i chi apelio - dylai’r dyddiad cwblhau ar gyfer yr apêl fod wedi’i osod allan yn nhrefniadau ysgrifenedig eich cyflogwr. Os na fyddant yn rhoi unrhyw wybodaeth ar hyn, apeliwch beth bynnag, a dywedwch y byddwch chi’n darparu mwy o wybodaeth maes o law.

Gwnewch ymdrech i ddilyn gweithdrefnau eich cyflogwr. Os byddwch chi’n gwneud hawliad tribiwnlys cyflogaeth, bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried hyn wrth benderfynu ar ei ddyfarniad.

Ysgrifennwch at eich cyflogwr i ddweud eich bod chi’n apelio yn erbyn ei benderfyniad, gan esbonio pam nad ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad. Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod arall i drafod eich apêl. Lle bo modd, dylai rheolwr gwahanol ac ar lefel uwch ddelio â’r apêl.

Bydd y gwrandawiad apêl yn debyg i'r cyfarfod gwreiddiol, ac mae gennych chi hawl eto i gael cydymaith. Yn dilyn y cyfarfod apelio hwn, rhaid i’r cyflogwr ddweud wrthych chi beth yw ei benderfyniad. Dyma benderfyniad terfynol eich cyflogwr.

Ystyried opsiynau eraill

Os byddwch chi’n dal yn anfodlon â phenderfyniad eich cyflogwr, efallai y byddwch am ystyried ffyrdd eraill o ddatrys eich cwyn.

Gellir cael rhagor o arweiniad am weithdrefnau cwyno yn 'Disgyblu a chwyno yn y gwaith. Arweiniad Acas'. Paratowyd yr arweiniad hwn gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) i helpu cyflogwyr a gweithwyr i wneud y canlynol:

  • deall Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu a chwyno
  • adlewyrchu hynny yn eu gweithdrefnau a'u hymddygiad

Ble nad yw cynnigion i ddatrys y broblem gan eraill yn gweithio, neu ddim yn briodol, gallech chi ystyried gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Dylech fod yn ymwybodol y bydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ystyried Cod Acas wrth ystyried achosion o gwyno.

Peidio â dilyn egwyddorion cwyno

Os na fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn dilyn yr egwyddorion hyn, ni wnaiff y Tribiwnlys Cyflogaeth eich gwneud chi na’ch cyflogwr yn atebol (yn gyfreithiol gyfrifol) yn awtomatig am fethu gwneud hynny. Fodd bynnag, os bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn cyfiawnhau eich hawliad, efallai y bydd y swm a ddyfernir i chi yn cael ei addasu hyd at 25 y cant i adlewyrchu unrhyw fethiant afresymol i ddilyn y Cod, naill ai gennych chi neu gan eich cyflogwr.

Diogelwch wrth wneud cwyn

Ddylech chi ddim cael eich diswyddo na’ch rhoi dan anfantais am wneud cwyn dilys am un o'ch hawliau cyflogaeth statudol, megis gwahaniaethu. Er enghraifft, ni ddylai eich rhagolygon gyrfa cael eu heffeithio’n negyddol.

Mae'r gyfraith hefyd yn eich gwarchod rhag cael eich trin yn annheg/colli eich swydd os byddwch chi’n datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd neu'n 'chwythu'r chwiban'.

Gogledd Iwerddon

Mae gan Ogledd Iwerddon ei gweithdrefnau datrys anghydfod ei hun. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain o wefan nidirect.

Ble i gael cymorth

Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddo.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU