Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pleidleisio mewn etholiadau undebau llafur

Mae pob undeb llafur yn cynnwys eu haelodau yn y gwaith o redeg materion undebau llafur, yn aml drwy ddewis unigolion sy’n ymgymryd â swyddi swyddogol o fewn yr undeb llafur. Gall y rhain fod yn lleol (ee swyddog undeb neu ysgrifenyddion canghennau), yn rhanbarthol neu’n genedlaethol (ee aelodau o weithrediadau rhanbarthol neu genedlaethol yr undeb llafur).

Cynnal balot ymysg aelodau undeb llafur

Wrth benderfynu ar y dull o ddewis unigolion i lenwi’r swyddi uchaf mewn undebau llafur, mae’n ofyniad cyfreithiol i etholiad bost gael ei chynnal.

Gyda rhai eithriadau, mae’n rhaid cynnal etholiadau post ar gyfer y swyddi uchel canlynol mewn undeb llafur:

  • aelod o’r weithrediaeth
  • swyddi eraill pan fydd deiliad y swydd yn dod yn aelod awtomatig o’r weithrediaeth
  • llywydd
  • ysgrifennydd cyffredinol

Cynnal etholiad

Cynhelir etholiadau undebau llafur drwy bleidlais drwy’r post. Os ydych yn gymwys i bleidleisio, bydd eich undeb llafur yn anfon papur pleidleisio atoch (i’ch cyfeiriad cartref fel arfer) ynghyd â datganiad gan bob ymgeisydd (a elwir yn ‘anerchiad etholiad’).

Dylai eich undeb llafur eich galluogi i bleidleisio drwy’r post heb unrhyw gost bersonol i chi. Fel arfer caiff ei anfon atoch mewn amlen barod i’w defnyddio i ddychwelyd eich papur pleidleisio. Os ydych yn aelod tramor, yn fasnachlongwr neu’n weithiwr ar y môr, efallai y bydd angen i chi dalu’r costau postio.

Mae angen i’r trefniadau ar gyfer yr etholiadau wneud yn siŵr:

  • y byddwch yn dychwelyd eich papur pleidleisio at berson annibynnol a benodwyd gan eich undeb llafur ac nid i’r undeb llafur ei hun
  • eich bod yn cael pleidleisio heb ymyrraeth na chyfyngiad yr undeb llafur, ei swyddogion nac aelodau eraill yr undeb llafur

Prif waith y person annibynnol yw gwneud yn siŵr bod y pleidleisiau’n cael eu cyfrif yn gywir.

Pwy all bleidleisio?

Mae’n rhaid i’r undeb llafur ganiatáu i’w holl aelodau bleidleisio ar wahân i’r rhai sydd, yn ôl rheolau’r undeb llafur, yn anghymwys i bleidleisio ac sy’n perthyn i un o’r grwpiau canlynol:

  • aelodau di-waith
  • aelodau sydd ag arian yn ddyledus ar gyfer eu tanysgrifiad â’r undeb llafur
  • aelodau sy’n brentisiaid, yn hyfforddeion neu’n fyfyrwyr
  • aelodau newydd

Rheolau’r undeb llafur sy’n pennu a yw aelodau yn y grwpiau hyn yn anghymwys i bleidleisio. Gallai’r rheolau ddweud bod rhan o grŵp yn anghymwys, er enghraifft, aelodau sydd wedi ymuno yn y tri mis diwethaf neu aelodau sydd â thanysgrifiad o fwy na chwe mis yn ddyledus.

Etholaethau

Gall undeb llafur rannu ei aelodaeth i grwpiau a elwir yn ‘etholaethau’. Efallai y bydd etholaeth benodol ond yn gymwys i bleidleisio ar gyfer rhai swyddi neu ymgeiswyr.

Gall undeb llafur ddiffinio etholaeth fel:

  • ardal ddaearyddol (Manceinion neu Gymru, er enghraifft)
  • crefft neu broffesiwn arbennig
  • rhan o’r undeb llafur, os oes ganddo ddwy adran ar wahân neu fwy

Gellir diffinio etholaeth drwy gyfeirio at fwy na’r uchod, ee gosodwyr pibellau yn Ucheldiroedd yr Alban, neu aelodau yn ardal Teesside sy’n rhan o adran benodol.

Aelodau tramor

Gall eich undeb llafur ddewis a yw’n caniatáu i aelodau tramor bleidleisio ai peidio.

Mae aelod yn aelod tramor os yw y tu allan i Brydain Fawr (hynny yw Cymru, Lloegr a’r Alban) ar gyfer y cyfnod cyfan y caniateir pleidleisio yn yr etholiad sy’n cael ei gynnal. Mae ‘tramor’ yn cynnwys aelodau sydd yng Ngogledd Iwerddon, ond nid aelodau sy’n fasnachlongwyr neu’n weithwyr ar y môr.

Os ydych yn aelod tramor a bod eich undeb llafur yn dewis caniatáu i chi bleidleisio, mae’n rhaid iddo eich trin yn yr un ffordd ag unrhyw aelod arall.

Cofrestr o aelodau

Mae’n rhaid i’ch undeb llafur gadw cofrestr o enwau a chyfeiriadau aelodau. Wrth gynnal etholiad y mae gennych hawl i bleidleisio ynddo, mae’n rhaid i’ch undeb llafur anfon y papur pleidleisio atoch i’ch cyfeiriad cartref. Os ydych wedi gofyn i’r undeb llafur yn ysgrifenedig i drin cyfeiriad arall fel eich cyfeiriad cartref, dylai anfon y papur pleidleisio yno.

Os byddwch yn newid eich cyfeiriad (ee os byddwch yn symud tŷ), dylech ysgrifennu at eich undeb llafur i ddweud wrthynt. Mae’n bwysig sicrhau bod eich manylion yn gyfredol, oherwydd bydd eich undeb llafur fel arfer yn anfon papurau pleidleisio a deunydd pwysig arall i’r cyfeiriad a ddangosir ar ei gofrestr.

Mynediad i’r gofrestr

Mae gennych hawl i edrych ar y gofrestr aelodau, am ddim, i weld a ydych wedi’ch cynnwys arni. Mae’n rhaid i chi roi rhybudd rhesymol i’ch undeb llafur eich bod am ei darllen.

Beth i’w wneud os oes gennych broblem

Gall unrhyw aelod o undeb llafur, yn cynnwys rhywun a oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad, wneud cwyn. Gallwch gwyno am etholiadau sydd wedi digwydd, sydd yn digwydd neu sydd ar fin digwydd. Mae’n rhaid i chi fod yn aelod o’r undeb llafur pan gynhelir yr etholiad er mwyn gwneud cwyn.

Os oes gennych broblem gydag etholiad undeb llafur, gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio neu i’r llysoedd, ond ni allwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio a’r llysoedd am yr un broblem. Os hoffech wneud cwyn i’r llysoedd, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol. Ceir terfynau amser ar gyfer gwneud cwyn.

Gallwch wneud cwyn hefyd i Dribiwnlys Cyflogaeth os byddwch yn credu bod eich cyflogwr yn didynnu treth wleidyddol o’ch cyflog heb eich caniatâd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU