Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rheolau undebau llafur a’r gofrestr aelodau

Yma cewch wybodaeth am ddyletswyddau undebau llafur o ran eu rheolau a’u cofrestr aelodau. Er enghraifft, mae’n rhaid iddynt roi copi o’u rheolau i bawb a fydd yn gofyn am gopi. Rhaid iddynt hefyd gadw cofrestr aelodau gyfredol.

Rheolau undeb llafur a chontract aelodaeth

Os byddwch yn ymuno ag undeb llafur, rydych yn rhwym i gontract â’r undeb. Y contract hwnnw yw rheolau’r undeb llafur, ac mae’n nodi telerau ac amodau eich aelodaeth.

Fel aelod o undeb llafur, rydych yn cytuno i gadw at y contract yn y rheolau ac mae’ch undeb llafur yn cytuno i’ch trin yn unol â’r rheolau.

Gweld rheolau undeb llafur

Mae’n rhaid i’ch undeb llafur ddarparu copi o’i reolau i chi, neu i unrhyw un arall a fydd yn gofyn am gopi. Dylai’r copi fod ar gael am ddim neu am bris rhesymol. Mae’n bosib bod y rheolau wedi’u cynnwys mewn llawlyfr aelodau, er cânt eu cyhoeddi’n aml ar wefan yr undeb llafur.

Rhaid i undebau llafur roi copi o’u rheolau i’r Swyddog Ardystio fel rhan o’u cyfrifon blynyddol.

Os ydych chi’n credu bod eich undeb llafur wedi torri’r rheolau, efallai y gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio. Fodd bynnag, cyn gwneud hyn, dylech geisio datrys y mater drwy drefniadau mewnol eich undeb llafur.

Mae’n bosib mai hyn a hyn o amser sydd gennych i wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio. I wneud cwyn, mae’n rhaid eich bod yn aelod o’r undeb llafur pan rydych chi’n credu i’r undeb dorri’r rheolau. Gall y Swyddog Ardystio roi mwy o wybodaeth i chi.

Mae hefyd yn bosib dwyn achos llys yn erbyn eich undeb llafur am dorri amodau contract os bydd yn torri’r rheolau. Ond, dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn. Ni chewch gwyno wrth y Swyddog Ardystio a’r llysoedd am yr un tor-amod.

Y gofrestr aelodau

Mae’n rhaid i undebau llafur gadw cofrestr gywir a chyfredol o enwau a chyfeiriadau eu haelodau. Mae gennych hawl i’r canlynol:

  • chwilio drwy’r gofrestr, am ddim, i weld a oes cofnod amdanoch chi
  • cael copi o unrhyw gofnod amdanoch chi ar y gofrestr, a hynny am ddim neu am bris rhesymol

Gwahardd rhag dal swydd

Mae’n drosedd i undeb llafur beidio â darparu copïau o reolau’r undeb llafur ar gais.

Os na fydd undeb llafur yn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr na fydd y sawl sy’n gyfrifol yn dal unrhyw swydd etholedig bwysig yn yr undeb llafur am bum mlynedd (e.e. aelod o’r tîm gweithredol).

Sut mae gwneud cwyn

Gallwch wneud cwyn i naill ai’r llys neu i’r Swyddog Ardystio (ond nid i’r ddau), os ydych yn credu bod eich undeb llafur wedi gwneud y canlynol:

  • eich atal rhag archwilio ei gofrestr aelodau neu gofnodion ariannol
  • caniatáu i unigolyn a waharddwyd ddal swydd etholedig bwysig

Additional links

Chwiliad swyddi a sgiliau

Chwilio am swydd, hyfforddiant, gwybodaeth gyrfaoedd neu waith gwirfoddol

Allweddumynediad llywodraeth y DU