Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n ystyried cwyno am undeb llafur, mae’n bosib y gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio. Yma cewch wybod am y Swyddog Ardystio a’i rôl wrth ddelio â chwynion.
Mae’r Swyddog Ardystio yn berson annibynnol sydd â sawl rôl statudol (cyfreithiol) yng nghyswllt undebau llafur. Mae eu rôl yn cynnwys ymchwilio i broblemau a’u datrys gydag undebau llafur.
Gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio os yw’ch undeb llafur wedi gwneud y canlynol:
Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio os yw undeb llafur wedi bygwth, neu wedi torri’r rheolau ynghylch:
Os ydych yn poeni am y modd y mae’ch undeb llafur yn delio â materion ariannol, rhowch wybod i’r Swyddog Ardystio cyn gynted â phosib. Ond, fe ddelir â hyn dan bwerau eraill.
Gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio os oeddech yn aelod o’r undeb llafur adeg y digwyddiad rydych chi’n gwneud cwyn amdano.
Os nad oeddech yn aelod bryd hynny, mae’n bosib y bydd gennych ddal hawl i wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio. Er enghraifft, os oeddech yn ymgeisydd mewn etholiad cenedlaethol a bod y gŵyn yn berthnasol i’r etholiad hwnnw.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd y Swyddog Ardystio yn derbyn eich cwyn oni bai i chi geisio defnyddio trefn gwyno fewnol yr undeb llafur.
Dylai unrhyw gwyn gael ei chyflwyno o fewn terfyn amser penodol. Gall y terfyn amser ddibynnu ar a ydych wedi defnyddio trefn gwyno fewnol yr undeb llafur yn gyntaf. Gallwch gysylltu â’r Swyddog Ardystio i gael gwybodaeth am y terfyniadau amser ar gyfer eich cwyn.