Camau disgyblu eich undeb llafur
Pan fyddwch yn ymuno ag undeb llafur, rydych yn ddarostyngedig i’w reolau ac i unrhyw gosbau a bennir gan yr undeb llafur os byddwch yn torri’r rheolau hynny. Gallai hyn gynnwys eich diarddel, eich atal rhag manteisio ar gyfleusterau neu fuddion yr undeb llafur, neu ddirwy. Fel rheol, fe elwir y gosb hon yn ddisgyblu.
Camau disgyblu undebau llafur
Gallai undeb llafur eich disgyblu drwy:
- eich diarddel o’r undeb llafur
- dweud wrthych am dalu dirwy
- eich atal (naill ai dros dro neu’n barhaol) rhag manteisio ar gyfleusterau, buddion neu wasanaethau’r undeb llafur
- annog neu gynghori undeb llafur arall i beidio â’ch derbyn yn aelod
Os cewch eich disgyblu gan undeb llafur, mae’n rhaid bod eu rheolau yn caniatáu iddynt eich disgyblu. Mae rhai camau disgyblu yn anghyfreithlon p’un ai a yw’r rheolau yn eu caniatáu ai peidio.
Cael eich eithrio neu’ch diarddel gan undeb llafur
Yn gyffredinol, ar ôl i chi ymuno ag undeb llafur mae gennych hawl i barhau’n aelod cyn hired ag y dymunwch, ar yr amod wrth gwrs eich bod yn parhau i dalu tâl aelodaeth yn unol â rheolau’r undeb llafur. Yn fras, mae’n bosib i’ch undeb llafur eich diarddel mewn dwy fath o sefyllfa:
- rheswm yn ymwneud â’ch dosbarth aelodaeth: os ydych yn aelod o ddosbarth aelodaeth (e.e. adeiladwr) a nodir yn rheolau’r undeb llafur, nad yw’r undeb yn dymuno ei gynrychioli mwyach
- rheswm yn ymwneud â’ch ymddygiad: lle bu’ch ymddygiad yn annerbyniol ym marn yr undeb llafur
Yn y ddau achos, mae’r gyfraith yn cyfyngu’r amgylchiadau lle gall eich undeb llafur eich diarddel.
Gwahardd am reswm yn ymwneud â dosbarth aelodaeth
Gall undeb llafur gyfyngu ei aelodaeth i gynnwys dim ond:
- pobl mewn diwydiant, crefft, proffesiwn neu alwedigaeth benodol
- pobl sy’n gweithio ar raddfa neu lefel benodol
- pobl sy’n gweithio i gyflogwr penodol
- pobl sy’n meddu ar gymwysterau neu brofiadau penodol
- pobl sy’n byw yn yr ardal lle mae’r undeb llafur yn gweithredu
Gall undeb llafur eich eithrio neu’ch diarddel os yw wedi cyfyngu ei aelodaeth ac nad ydych chi (yn achos gwaharddiad) yn un o’r bobl hynny.
Diarddel am reswm yn ymwneud ag ymddygiad
Gall undebau llafur eich diarddel am ymddygiad sy’n annerbyniol yn eu barn hwy. Yn benodol, mae hyn yn berthnasol yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
- rydych wedi cael eich diarddel o’r undeb llafur yn y gorffennol
- rydych yn aelod o blaid wleidyddol y mae ei nodau a’i hamcanion yn gwrthdaro â nodau ac amcanion eich undeb llafur, neu mae rheolau’ch undeb llafur yn eich gwahardd rhag bod yn aelod o’r blaid wleidyddol honno
Ond ni chaiff undeb llafur eich gwahardd am yr ymddygiad canlynol:
- bod yn aelod o undeb llafur arall
- rhoi’r gorau i fod yn aelod o undeb llafur arall
- gweithio i gyflogwr penodol neu mewn man penodol
- rhoi’r gorau i weithio i gyflogwr penodol neu mewn man penodol
- ymddygiad lle byddai’r camau disgyblu yn ‘ddisgyblu anghyfiawn’
Fodd bynnag, rhaid i unrhyw benderfyniad i’ch eithrio neu’ch gwahardd o undeb llafur gael ei wneud yn unol â’u rheolau.
Disgyblu anghyfiawn
Ni chaiff eich undeb llafur eich disgyblu am rai gweithredoedd. Os bydd eich undeb llafur yn eich disgyblu mewn cysylltiad â’r gweithredoedd hyn, caiff ei ystyried yn ddisgyblu anghyfiawn yn awtomatig a gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae’r gweithredoedd wedi’u hamlinellu isod.
Streiciau a math arall o weithredu diwydiannol
Ni chaiff undeb llafur eich disgyblu am y canlynol:
- mynd i’r gwaith er gwaethaf galwad i gymryd rhan mewn streic neu fath arall o weithredu diwydiannol
- croesi llinell biced yn ystod streic
- peidio â chefnogi neu gymryd rhan mewn streic neu fath arall o weithredu diwydiannol
- dangos diffyg cefnogaeth neu wrthwynebu streic neu fath arall o weithredu diwydiannol (e.e. pleidleisio yn erbyn gweithredu diwydiannol)
- gwrthod cyfrannu arian i gefnogi streic neu weithwyr sydd ar streic
- gwrthod torri rhwymedigaeth a bennwyd gan eich contract cyflogaeth neu gytundeb arall gyda’ch cyflogwr am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â streic neu fath arall o weithredu diwydiannol
- annog neu helpu rhywun arall i gadw at eu contract cyflogaeth neu gytundeb arall gyda’u cyflogwr
Datganiadau yn erbyn undeb llafur
Ni chaiff undeb llafur eich disgyblu am y canlynol:
- datgan a chredu’n ddidwyll bod undeb llafur, neu un o’i gynrychiolwyr, naill ai wedi torri’r gyfraith, cytundeb rhwng yr undeb llafur a rhywun arall, neu un o reolau’r undeb llafur
- annog neu gefnogi aelod arall o undeb llafur i wneud datganiad o’r fath neu ddarparu prawf bod datganiad o’r fath yn wir
- siarad â’r Swyddog Ardystio neu rywun arall ynghylch rheolau’r undeb llafur neu’r gyfraith
Ymddygiad arall lle na ellir eich disgyblu
Ni chaiff undeb llafur eich disgyblu am y canlynol:
- gwrthod talu neu dderbyn cosb a bennwyd at ddibenion disgyblu a oedd yn anghyfiawn yn awtomatig
- peidio â thalu eich tâl aelodaeth i undeb llafur erbyn y dyddiad cau
- penderfynu gadael eich undeb llafur, bod yn aelod o undeb llafur gwahanol, ymuno neu adael undeb llafur gwahanol, neu wrthod ymuno neu adael undeb llafur gwahanol
- gweithio gydag aelodau o undebau llafur eraill neu bobl nad ydynt yn aelodau o undeb llafur, neu weithio i gyflogwr sy’n cyflogi aelodau o undeb llafur gwahanol neu bobl nad ydynt yn aelodau o undebau llafur
- Gofyn i’ch undeb llafur wneud rhywbeth y mae’n ofynnol iddo’i wneud yn ôl y gyfraith (e.e. caniatáu i chi roi’r gorau i gyfrannu arian at gronfa wleidyddol)
Beth i'w wneud os oes gennych chi broblem
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich eithrio ar gam rhag bod yn aelod o undeb llafur, gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Os ydych yn credu bod eich undeb llafur wedi’ch gwahardd ar gam neu iddo eich disgyblu ar gam, er enghraifft, oherwydd bod y camau disgyblu yn anghyfiawn yn awtomatig, dylech ddefnyddio trefniadau cwyno’r undeb llafur. Dylai’ch swyddog undeb llafur allu rhoi manylion y drefn gwyno i chi.
Os ydych yn anfodlon â chanlyniadau’r drefn, mae’n bosib y gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Os hoffech gael rhagor o help, gallwch gysylltu ag Acas (Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) i gael cyngor, neu ewch i’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth i weld mwy o gysylltiadau defnyddiol.