Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Eich undeb llafur sy’n penderfynu ar swm eich tâl aelodaeth. Gall fod yn swm sefydlog, neu’n seiliedig ar eich cyflog, ac fe’i defnyddir i dalu am gostau gweinyddol yr undeb llafur.
Gellid defnyddio tâl aelodaeth undebau llafur ar gyfer:
Fe allai’ch tâl aelodaeth hefyd gynnwys cyfraniad at gronfa wleidyddol yr undeb llafur. Fe gewch chi ddewis a ydych am dalu’r cyfraniad hwn ai peidio.
Pan fyddwch yn ymuno â’r undeb llafur, bydd yr undeb yn dweud wrthych sut mae talu eich tâl aelodaeth. Mae’r mwyafrif o aelodau undebau llafur yn talu wrth i'w cyflogwr ddidynnu tâl aelodaeth undeb llafur o'u cyflog (yn Saesneg, fe elwir hyn yn ‘check-off’). Ceir sawl dull cyffredin arall o dalu, gan gynnwys debyd uniongyrchol, arian parod a siec.
Os bydd eich cyflogwr yn didynnu eich tâl aelodaeth undeb llafur o'ch cyflog, bydd yn talu'r arian hwn yn uniongyrchol i'r undeb llafur ar eich rhan. Nid oes gofyniad cyfreithiol i’ch cyflogwr wneud hyn.
Gall eich cyflogwr ddewis rhoi’r gorau i ddidynnu tâl aelodaeth undeb llafur o gyflog ei gyflogeion a’u hanfon i’r undeb llafur ar unrhyw adeg, oni bai y byddai hynny’n torri amodau eich contract cyflogaeth.
Yn ôl y gyfraith, ni chaiff eich cyflogwr ddidynnu tâl aelodaeth undeb llafur o'ch cyflog heb eich caniatâd ysgrifenedig. Bydd amryw o undebau llafur yn cael eich caniatâd i wneud hyn pan fyddwch yn ymuno â'r undeb, ac yn anfon eich caniatâd i'ch cyflogwr. Felly, mae'n bosib na fydd angen i chi wneud dim byd. Neu, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi lofnodi ffurflen awdurdodi.
Gallwch hefyd ofyn i’ch cyflogwr roi’r gorau i gymryd arian o’ch cyflog i dalu eich tâl aelodaeth ar unrhyw adeg. Os ydych yn dymuno gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogwr yn gofyn iddo roi’r gorau i wneud didyniadau ar gyfer tâl aelodaeth undeb llafur. Yn dilyn hynny, bydd yn rhaid iddynt roi’r gorau i wneud didyniadau o'ch cyflog cyn gynted ag sy'n rhesymol bosib.
Eich cyflogwr sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr ei fod yn glynu wrth y gyfraith wrth wneud didyniadau fel hyn. Os didynnir arian o’ch cyflog ar gyfer tâl aelodaeth undeb llafur heb i chi roi caniatâd ysgrifenedig, neu ar ôl i chi dynnu’ch caniatâd ysgrifenedig yn ôl, mae’r cyfrifoldeb yn nwylo eich cyflogwr yn hytrach na'ch undeb llafur.
Mae rhai undebau llafur yn gweithredu cronfeydd gwleidyddol. Gofynnir i aelodau’r undebau llafur hyn wneud cyfraniad i gronfa wleidyddol yr undeb llafur fel rhan o’u tâl aelodaeth rheolaidd. Fe elwir hyn weithiau’n ‘ardoll wleidyddol’.
Dan y gyfraith, mae aelodau’r undeb llafur yn rhydd i ddewis peidio â thalu’r ardoll wleidyddol ar unrhyw adeg. Os byddwch yn penderfynu gwneud hynny ac os yw’ch cyflogwr yn gwneud didyniadau o'ch cyflog er mwyn talu’ch tâl aelodaeth undeb llafur, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr. Yna bydd yn rhaid i’ch cyflogwr addasu’r swm y mae’n ei ddidynnu o'ch cyflog.
Os oes gennych broblem gyda’ch didyniadau tâl aelodaeth, ceisiwch ddatrys y mater gyda'ch cyflogwr a'ch undeb llafur yn gyntaf.
Os caiff tâl aelodaeth eich undeb llafur ei ddidynnu o'ch cyflog heb eich caniatâd, gallech wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth yn erbyn eich cyflogwr. Os bydd eich cwyn yn llwyddiannus, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth orchymyn i'ch cyflogwr dalu gwerth y didyniadau nas awdurdodwyd i chi.