Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan undebau llafur reolau penodol y mae’n rhaid iddynt gadw atynt yng nghyswllt eu materion ariannol a’u cyfrifon. Yma cewch wybodaeth am hawl aelodau undebau llafur i gael gweld rhai o gofnodion ariannol a chyfrifon undebau llafur.
Mae’n rhaid i undeb llafur gadw cyfrifon priodol o’i faterion ariannol. Rhaid iddynt gael system ar gyfer rheoli eu cofnodion, daliadau ariannol, derbyniadau a thaliadau. Mae’n rhaid i undeb llafur gyflwyno’u cofnodion ariannol wedi’u harchwilio fel rhan o’u cyfrifon blynyddol i’r Swyddog Ardystio.
Mae’n rhaid i undeb llafur sicrhau bod y cyfrifon hyn ar gael i’w harchwilio am chwe blynedd, gan ddechrau ar 1 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifo berthnasol.
O fewn wyth wythnos i anfon ei gyfrifon blynyddol at y Swyddog Ardystio, mae’n rhaid i undeb llafur ddarparu datganiad am ei faterion ariannol yn ystod cyfnod y cyfrifon blynyddol i’r holl aelodau.
Rhaid i’r undeb llafur ddarparu’r datganiad naill ai:
Rhaid i’r datganiad roi’r wybodaeth ganlynol am faterion ariannol yr undeb llafur yn ystod y cyfnod sy’n berthnasol i’r datganiad blynyddol:
Hefyd, rhaid i’r datganiad gynnwys adroddiad yr archwilwyr ar gyfrifon yr undeb llafur ar gyfer y cyfnod a rhoi enw a chyfeiriad yr archwilwyr.
Rhaid i’r undeb llafur ddarparu copi o’r datganiad hwn, yn rhad ac am ddim, i unrhyw aelod a fydd yn gofyn am gopi o fewn dwy flynedd i’r dyddiad yr anfonodd ei gyfrifon blynyddol at y Swyddog Ardystio.
Mae gan aelodau undebau llafur hawl i archwilio’r cofnodion sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod cyfrifo pan oeddent yn aelod o’r undeb llafur. Os byddwch yn gofyn am gael gweld cyfrifon eich undeb llafur, bydd yr undeb yn trefnu apwyntiad er mwyn i chi eu harchwilio. Fel arfer, fe gynhelir yr apwyntiad yn y swyddfa lle cedwir y cofnodion.
Os byddwch yn gofyn am gopïau o unrhyw un o’r cofnodion pan fyddwch yn eu harchwilio, bydd yn rhaid i’ch undeb llafur ddarparu’r rhain i chi fynd â nhw gyda chi. Mae’n bosib y bydd yr undeb llafur yn codi ffi resymol arnoch i dalu am y costau gweinyddol. Bydd yn rhaid iddynt ddweud wrthynt faint fydd y ffi neu sut y cyfrifir y swm.
Mae’n bosib y gellid cael rhywun sy’n dal swydd swyddogol mewn undeb llafur yn euog o droseddau penodol yn ymwneud â’r ddyletswydd i gadw cyfrifon priodol. Os digwydd hynny, ni chânt ddal unrhyw swydd etholedig bwysig yn yr undeb llafur (e.e. aelod o’r pwyllgor gwaith) am naill ai pum neu ddeng mlynedd. Mae hyd y gwaharddiad yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd.
Gallai’r canlynol fod yn drosedd:
Mae gan y Swyddog Ardystio bwerau cyffredinol i ymchwilio i faterion ariannol undeb llafur. Gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio os ydych chi’n credu:
Yna bydd y Swyddog Ardystio yn penderfynu a fydd yn ymchwilio i’r gŵyn. Dylech gyflwyno’ch cwyn cyn gynted â phosib.