Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan rai undebau llafur gronfa wleidyddol. Mae’r gronfa hon yn gyfrif ar wahân y gall yr undeb llafur ei ddefnyddio i roi cymorth ariannol i blaid wleidyddol. Er enghraifft, gallent roi cyfraniad i blaid neu i wleidydd penodol, cynhyrchu taflenni cefnogi mewn etholiad neu helpu gyda chostau cynhadledd y blaid.
Gall undebau llafur fod â diddordeb ym mholisïau’r llywodraeth neu ym materion eraill y dydd. Nid yw’n anghyffredin i undebau llafur ymgyrchu o blaid rhai polisïau cyhoeddus (gelwir hyn yn ‘lobïo’). Fel arfer, does dim angen i undeb llafur sefydlu neu ddefnyddio cronfa wleidyddol i dalu am gostau lobïo.
Os yw undeb llafur yn dymuno sefydlu cronfa wleidyddol, mae’n rhaid i’r aelodau bleidleisio o blaid hynny. Rhaid cynnal y bleidlais hon fel pleidlais gudd, a gynhelir dan reolau a gymeradwywyd gan y Swyddog Ardystio. Mae’n rhaid i’r undeb llafur ganiatáu i’w holl aelodau bleidleisio.
Os bydd aelodau undeb llafur yn pleidleisio o blaid creu cronfa wleidyddol, gall yr undeb llafur gynnal y gronfa am gyfnod o ddeng mlynedd.
Os yw undeb llafur yn dymuno parhau i gynnal y gronfa wleidyddol ar ôl i’r cyfnod deng mlynedd ddod i ben, bydd yn rhaid iddo gynnal pleidlais arall i’w holl aelodau gan ofyn a ydynt am i’r undeb llafur barhau i gynnal cronfa wleidyddol. Fe elwir hyn weithiau yn ‘bleidlais adolygu’. Rhaid i’r Swyddog Ardystio gymeradwyo’r rheolau ar gyfer y bleidlais.
Os bydd eich undeb llafur yn cynnal pleidlais i sefydlu cronfa wleidyddol neu i gynnal pleidlais adolygu a’ch bod yn credu iddynt dorri’r rheolau ar gyfer y bleidlais, gallwch wneud cwyn i naill ai’r Swyddog Ardystio neu’r llysoedd.
Rhaid i undeb llafur sy’n cynnal cronfa wleidyddol gael rheolau ar gyfer y gronfa wleidyddol. Mae’n rhaid i’r Swyddog Ardystio gymeradwyo’r rhain hefyd. Bydd rheolau cronfa wleidyddol undeb llafur yn nodi sut y cesglir arian ar gyfer y gronfa wleidyddol, a faint a delir i’r gronfa gan yr aelodau sy’n cyfrannu.
Rhaid i’r undeb llafur ddefnyddio’r gronfa wleidyddol i dalu am weithgarwch gwleidyddol, ac ni chaiff ddefnyddio arian o’i gyfrifon eraill i wneud hyn.
Ar ôl sefydlu cronfa wleidyddol, yr undeb llafur fydd yn penderfynu, a hynny’n unol â’i reolau, sut y caiff yr arian ei wario.
Os ydych yn cyfrannu at gronfa wleidyddol eich undeb llafur, fel arfer bydd eich cyfraniad yn rhan o dâl aelodaeth eich undeb llafur. Weithiau fe elwir y cyfraniad hwn yn ‘ardoll wleidyddol’.
Os yw eich cyflogwr yn didynnu arian o’ch cyflog i dalu am eich tâl aelodaeth undeb llafur, fel arfer bydd yr arian hwn yn cynnwys cyfraniad at gronfa wleidyddol, os ydych yn cyfrannu ati.
Mae’n rhaid i’ch undeb llafur gael trefniadau ar waith i’ch galluogi i ganfod faint o’ch tâl aelodaeth undeb llafur sy’n mynd i’r gronfa wleidyddol.
Does dim rhaid i chi gyfrannu at gronfa wleidyddol eich undeb llafur ac mae gennych hawl i roi’r gorau i dalu ar unrhyw adeg.
Os ydych yn dymuno gwneud hyn, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hynny yn ysgrifenedig. Os byddwch yn gofyn i swyddfa leol neu brif swyddfa eich undeb llafur am ffurflen i roi’r gorau i wneud taliadau i gronfa wleidyddol, bydd yn rhaid iddynt roi’r ffurflen i chi. Gallwch hefyd ofyn i’r Swyddog Ardystio am ffurflen.
Os ydych wedi rhoi’r gorau i gyfrannu at y gronfa wleidyddol, gallwch hefyd roi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig eich bod wedi gwneud hynny. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr wneud yn siŵr na fydd cyfraniad at y gronfa wleidyddol yn cael ei dynnu o’ch cyflog.
Gallwch wneud cwyn i’r Swyddog Ardystio os ydych yn credu bod eich undeb llafur: