Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Etholiadau undebau llafur

Yn ôl y gyfraith, rhaid i undebau llafur gynnal etholiadau ar gyfer rhai swyddi uwch. Mae llawer o undebau llafur hefyd yn cynnal etholiadau ar gyfer swyddi eraill. Mynnwch wybod sut y cynhelir etholiadau, beth yw cyfrifoldebau eich undeb llafur a pha swyddi y mae'n rhaid eu llenwi drwy etholiad.

Etholiadau statudol

Rhaid i undebau llafur gynnal etholiadau er mwyn llenwi'r swyddi canlynol:

  • llywydd (neu gyfwerth)
  • ysgrifennydd cyffredinol (neu gyfwerth)
  • aelodau'r tîm gweithredol
  • swyddi sy'n golygu bod y deiliad yn aelod o'r tîm gweithredol yn awtomatig
  • unrhyw swydd sy'n rhoi'r hawl i unigolyn fynd i gyfarfodydd y tîm gweithredol a siarad yn y cyfarfodydd hynny (oni bai mai dim ond darparu gwybodaeth neu gyngor arbenigol i helpu'r tîm gweithredol gynnal ei fusnes y mae'r unigolyn yn ei wneud)

Gellir disgrifio'r swyddi hyn fel swyddi etholedig statudol, gan fod cyfraith statud yn ei gwneud yn ofynnol cynnal etholiadau i'w llenwi.

Gall rheolau undebau llafur ei gwneud yn ofynnol llenwi swyddi eraill (ee dirprwy ysgrifennydd cyffredinol neu is-lywydd) drwy etholiad ond nid yw'n ofynnol yn ôl cyfraith statud.

'Swyddogion gweithredol' undebau llafur

Y 'tîm gweithredol' yw'r pwyllgor uchaf mewn undeb llafur, sy'n ymwneud â'r gwaith o'i redeg. Yn aml, caiff ei alw'n Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol neu'n Gyngor Gweithredol Cenedlaethol, ond mae'n bosibl bod enwau eraill arno.

Achosion lle nad oes angen etholiad

Mewn rhai sefyllfaoedd nid oes rhaid i undebau llafur gynnal etholiadau, er enghraifft pan fydd undeb llafur naill ai:

  • yn llai na blwydd oed
  • yn ffederasiwn undebau llafur, sef math arbennig o undeb fel y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur), y mae ei haelodaeth yn cynnwys undebau llafur eraill

Nid oes angen etholiad os yw swyddi'r llywydd neu'r ysgrifennydd cyffredinol:

  • yn gwbl anrhydeddus
  • ddim yn pleidleisio
  • yn swyddi y gellir ond eu gwneud gan un unigolyn am hyd at 13 mis

Pe byddai angen etholiad statudol fel arfer i lenwi swydd ond bod y deiliad wedi'i gyflogi gan yr undeb llafur a'i fod yn nesáu at ymddeol, gall y deiliad barhau yn ei swydd hyd nes y bydd yn ymddeol heb gynnal etholiad.

Cynnal etholiadau

Mae'n ofynnol i undeb llafur gynnal etholiadau drwy bleidlais ar gyfer swyddi etholedig statudol bob pum mlynedd. Gall benderfynu eu cynnal yn amlach. Rhaid i bob aelod o dîm gweithredol undeb llafur fod wedi'i ethol o fewn y pum mlynedd diwethaf. Nid oes rhaid iddynt fod wedi'u hethol ar yr un pryd.

Nid oes angen pleidlais os na chaiff etholiad ei herio am mai dim ond un ymgeisydd neu ddim ond digon o ymgeiswyr i lenwi nifer y swyddi sydd.

Trefnu etholiadau

Pan fydd eich undeb llafur yn trefnu etholiad statudol, rhaid iddo:

  • benodi unigolyn annibynnol, sef archwiliwr, i reoli rhannau o'r bleidlais a llunio adroddiad ar yr etholiad
  • penodi unigolyn annibynnol cymwysedig i gyfrif y papurau pleidleisio (gall yr archwiliwr gyflawni'r dasg hon)
  • dim ond cyhoeddi canlyniad yr etholiad ar ôl iddo gael adroddiad yr archwiliwr

Rhaid i'ch undeb llafur hefyd, o fewn tri mis i gael adroddiad yr archwiliwr, naill ai:

  • anfon copi o'r adroddiad at bob aelod; neu
  • cyfleu cynnwys yr adroddiad i'r aelodau yn y ffordd y mae fel arfer yn rhannu gwybodaeth am fater o ddiddordeb (ee drwy gyhoeddi'r cynnwys neu'r adroddiad yng nghyfnodolyn yr undeb llafur)

Rhaid i'r copi neu'r hysbysiad gynnwys datganiad y bydd eich undeb llafur yn darparu copi o'r adroddiad i unrhyw aelod sy'n gofyn am gopi. Gall ofyn i chi dalu tâl rhesymol am y copi os bydd yn dweud beth yw'r tâl yn y datganiad.

Mae archwilwyr fel arfer yn sefydliadau sy'n arbenigo mewn cynnal pleidleisiau o ryw fath. Gallant hefyd fod yn gyfrifwyr siartredig neu'n gyfreithwyr.

Sefyll mewn etholiad

Gall unrhyw aelod o undeb llafur sefyll mewn etholiad ar gyfer swydd etholedig statudol ar yr amod bod rheolau'r undeb llafur yn caniatáu iddo wneud hynny.

Ni ddylai undeb llafur ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod yn aelod o blaid wleidyddol benodol. Bydd rheolau eich undeb llafur yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i sefyll a sut i gyflwyno eich enw fel ymgeisydd.

Caiff rhai pobl eu heithrio'n awtomatig rhag sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau undebau llafur. Os ydych wedi cael eich gwahardd am drosedd sy'n ymwneud â materion ariannol undeb llafur, ni chewch sefyll fel ymgeisydd yn ystod cyfnod eich gwaharddiad. Bydd hyn naill ai'n bump neu'n ddeng mlynedd, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd y drosedd.

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich eithrio'n afresymol rhag sefyll fel ymgeisydd. Os ydych o'r farn eich bod wedi cael eich eithrio'n afresymol, dylech ofyn y canlynol i'ch hun:

  • a wyf yn perthyn i grŵp o aelodau sydd i gyd wedi'u heithrio rhag sefyll fel ymgeiswyr yn ôl rheolau'r undeb llafur (ee aelodau y mae eu tanysgrifiadau mewn ôl-ddyledion)?
  • a oes gan fy undeb llafur sail resymol dros fy eithrio, fel unigolyn, rhag sefyll fel ymgeisydd?

Os ydych o'r farn mai 'na' yw'r ateb i'r ddau gwestiwn hyn, yna efallai y gallwch gwyno.

Beth i'w wneud os oes gennych broblem

Gall unrhyw aelod o undeb llafur sydd o'r farn nad yw'r undeb llafur wedi bodloni gofynion etholiadau ar gyfer swyddi etholedig statudol gwyno i'r Swyddog Ardystio neu'r llysoedd (ond nid y ddau). Mae hyn yn cynnwys rhywun a oedd yn ymgeisydd mewn etholiad.

Cyn cwyno i'r llysoedd, argymhellir eich bod yn cael cyngor cyfreithiol.

Gallwch gwyno am etholiadau sydd wedi digwydd, sydd wrthi'n digwydd neu sydd ar fin digwydd, ond mae terfynau amser yn gymwys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU