Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cydgytundebau a chydfargeinio

Un o brif nodau undeb llafur yw negodi â chyflogwyr ar faterion sy’n effeithio ar eu haelodau a chyflogeion eraill. Gelwir y negodiadau hyn yn ‘gydfargeinio’. Dysgwch sut y mae cydfargeinio’n gweithio a pha effeithiau y gallai cydgytundebau eu cael arnoch.

Cydfargeinio

Pan fo undeb llafur a chyflogai’n cytuno i fargeinio ynghylch telerau ac amodau, dywedir fod y cyflogwr yn ‘cydnabod’ yr undeb llafur. Pan fo undeb llafur yn cael ei gydnabod yn y gweithle, mae’r negodiadau y bydd yn eu cael â chyflogwr ar delerau ac amodau’n cael eu galw’n ‘gydfargeinio’.

Gall undeb llafur nad yw’n cael ei gydnabod, ond sydd â chefnogaeth gref, wneud cais o dan weithdrefn statudol i’r Comisiwn Cymrodeddu Canolog am ddatganiad bod yn rhaid iddo gael ei gydnabod. Pan fo undeb llafur yn derbyn cydnabyddiaeth statudol yn y modd hwn, mae ganddo hawl gyfreithiol i fargeinio â’r cyflogwr ar gyflog, oriau a gwyliau.

Er mai rhywbeth gwirfoddol yw cydnabyddiaeth, yr undeb llafur a’r cyflogwr fydd yn penderfynu’r hyn y byddant yn bargeinio drosto. Gallant benderfynu bargeinio dros amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys cyflog, oriau a gwyliau.

Sut mae cydfargeinio’n gweithio

Os yw cydfargeinio am weithio, bydd yn rhaid i’ch undeb llafur a’r cyflogwr gytuno ar sut y bydd y broses yn gweithredu, er enghraifft:

  • pwy fydd yn cynrychioli’r gweithwyr, neu grŵp penodol o weithwyr (a adwaenir fel yr ‘uned fargeinio’) mewn negodiadau
  • pa weithwyr fydd yn cael eu cynnwys yn yr uned fargeinio
  • pa mor aml fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal
  • pa faterion, gan gynnwys pa delerau ac amodau, y byddant yn eu trafod
  • sut y bydd unrhyw fethiant i gytuno’n cael ei ddatrys
  • sut y bydd trafodaethau’n gweithio os oes mwy nag un undeb llafur yn cael ei gydnabod

Cydgytundebau

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cydfargeinio’n arwain at gytundeb, codiad cyflog, er enghraifft. Gelwir y cytundebau hyn yn ‘gydgytundebau’ a byddant yn aml yn arwain at newid yn nhelerau ac amodau’ch cyflogaeth.

Byddwch yn cael eich cynnwys mewn cydgytundeb yn eich gweithle hyd yn oed os nad ydych yn aelod o undeb llafur, gan fod undebau llafur yn negodi ar ran yr holl weithwyr a gyflogir mewn grŵp penodol. Mae’r grŵp hwn yn cael ei adnabod fel ‘uned fargeinio’.

Os yw’ch cyflogwr yn cydnabod mwy nag un undeb llafur, neu fod un undeb llafur yn cael ei gydnabod i negodi ar ran mwy nag un uned fargeinio, gall eich contract cyflogaeth amlinellu pa gydgytundebau sy’n effeithio arnoch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU