Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cydnabod undebau llafur

Pan fydd undeb llafur a chyflogwr yn cytuno i fargeinio ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth, dywedir bod y cyflogwr yn ‘cydnabod’ yr undeb llafur. Yma, cewch wybod beth mae’n ei olygu os oes gan eich gweithle undeb llafur cydnabyddedig.

Rôl undebau llafur cydnabyddedig

Bydd undeb llafur cydnabyddedig yn cynrychioli gweithwyr mewn trafodaethau â’u cyflogwr. Bydd y trafodaethau hyn fel arfer yn canolbwyntio ar delerau ac amodau’r gweithwyr.

Pan fydd cyflogwr yn cydnabod undeb llafur, bydd yr undeb llafur yn bargeinio ar ran grŵp penodol o weithwyr. Yn aml, gelwir y grŵp hwn yn ‘uned fargeinio’.

Hawliau undebau llafur cydnabyddedig

Cymorth rhyngweithiol

Defnyddiwch ein hadnodd ar-lein i helpu gyda cheisiadau am amser o’r gwaith ar gyfer dyletswyddau undeb.

Mae hawliau cyfreithiol penodol gan undeb llafur annibynnol sy’n cael ei gydnabod gan gyflogwr. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i’r canlynol:

  • i swyddogion gael amser o’r gwaith gan y cyflogwr i ymgymryd â dyletswyddau undeb llafur
  • i aelodau gael amser o’r gwaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur
  • i swyddogion gael gwybodaeth gan y cyflogwr y gallant ei defnyddio wrth gydfargeinio â’r cyflogwr
  • i gynrychiolwyr dysgu gael amser o’r gwaith i gyflawni eu dyletswyddau sy’n gysylltiedig â dysgu a hyfforddi cyflogeion, ac i dderbyn hyfforddiant i ymgymryd â’r dyletswyddau hynny

Mae gan undeb llafur annibynnol sydd wedi’i gydnabod gan gyflogwr hefyd yr hawl i fynnu bod y cyflogwr yn ymgynghori ag ef ynghylch rhai materion. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • materion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch
  • pan fydd cyflogwr yn ystyried dileu swyddi grŵp o weithwyr, sy’n cynnwys aelodau undeb llafur
  • pan fydd cyflogwr yn ystyried trosglwyddo’i fusnes

Sicrhau cydnabyddiaeth i undeb llafur

Gall undeb llafur gael ei gydnabod drwy wneud cytundeb gwirfoddol neu drwy ddilyn gweithdrefn statudol sy’n cynnwys y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog.

Cydnabyddiaeth wirfoddol

Os na fydd eich cyflogwr yn cydnabod undeb llafur yn eich gweithle, gall undeb llafur gael ei gydnabod drwy wneud cytundeb gwirfoddol gyda’ch cyflogwr. Dyma sut y gwneir y rhan fwyaf o drefniadau cydnabod yn y DU.

Cydnabyddiaeth statudol

Os na fydd eich cyflogwr yn fodlon dod i gytundeb gwirfoddol gydag undeb llafur, gall yr undeb llafur ddilyn gweithdrefn statudol i gael ei gydnabod. Bydd y weithdrefn statudol yn berthnasol i gyflogwyr ag 21 neu ragor o weithwyr.

I ddilyn y weithdrefn statudol, bydd yn rhaid i’r undeb llafur ysgrifennu at eich cyflogwr yn gyntaf, yn gofyn am gael ei gydnabod.

Rôl y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog

Os na fydd eich cyflogwr yn cytuno i gydnabod undeb llafur, gall yr undeb llafur wneud cais i’r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog i gael ei gydnabod ar gyfer uned fargeinio (grŵp o weithwyr) benodol.

Pan fydd yr undeb llafur yn gwneud cais i’r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog, bydd yn dweud beth ddylai’r uned fargeinio fod, yn ei farn ef. Os bydd y cyflogwr yn anghytuno ac os na ellir dod i gytundeb, bydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn penderfynu beth ddylai fod.

Cefnogaeth i geisiadau i’r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog

Bydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn edrych ar bob cais yn erbyn nifer o feini prawf, a bydd llawer ohonynt yn ymwneud â chryfder cefnogaeth y gweithwyr yn yr uned fargeinio tuag at gydnabyddiaeth. Er enghraifft, ni fydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn gallu bwrw ymlaen â chais os bydd llai na 10 y cant o’r gweithwyr hynny’n aelodau o’r undeb llafur.

Os byddwch chi yn yr uned fargeinio, gall yr undeb llafur ysgrifennu atoch i ofyn i chi gefnogo ei gais, ni waeth a ydych yn aelod o’r undeb llafur ai peidio.

Os bydd 50 y cant neu lai o’r gweithwyr mewn uned fargeinio yn aelodau undeb llafur, bydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn cynnal pleidlais gudd i weld faint o gefnogaeth sydd gan yr undeb llafur. Ni all y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog roi cydnabyddiaeth oni bai bod:

  • 40 y cant o holl weithwyr yr uned fargeinio’n cymryd rhan yn y bleidlais
  • y mwyafrif yn pleidleisio o blaid

Os cynhelir pleidlais, bydd gan yr undeb llafur yr hawl i gynnal cyfarfodydd â’r gweithwyr yn yr uned fargeinio cyn y bleidlais. Byddwch yn cael cyfle i bleidleisio, hyd yn oed os nad ydych yn aelod o’r undeb llafur. Gall y bleidlais gael ei chynnal yn y gweithle neu drwy’r post.

Cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog

Os bydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn rhoi cydnabyddiaeth i undeb llafur, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr fargeinio â’r undeb llafur ynghylch eich cyflog, eich oriau a’ch gwyliau am o leiaf dair blynedd. Ar ôl y cyfnod hwn o dair blynedd, gall y cyflogwr neu’r gweithwyr yn yr uned fargeinio wneud cais i’r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog i ddad-gydnabod yr undeb llafur (dileu’r angen i fargeinio â’r undeb llafur).

Caiff y gydnabyddiaeth statudol a’r gweithdrefnau dad-gydnabod eu hegluro’n llawn mewn arweiniad a gynhyrchir gan y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog.

Dad-gydnabod undebau llafur

Bydd gweithdrefn debyg ar waith o ran ceisiadau ar gyfer dad-gydnabod undeb llafur. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog yn trefnu pleidlais gudd ymysg y gweithlu yr effeithir arno, er mwyn asesu cryfder y gefnogaeth am ddad-gydnabod.

Amddiffyn eich hawliau cyflogaeth

Ni fydd eich cyflogwr yn cael eich diswyddo oherwydd eich cysylltiad neu’ch agwedd at gais undeb llafur i gael ei gydnabod neu’i ddad-gydnabod. Byddwch chi hefyd yn cael eich amddiffyn rhag mathau eraill o niwed, er enghraifft os na fydd eich cyflogwr yn rhoi codiad cyflog i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU