Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogi cynrychiolwyr undebol: arweiniad i reolwyr

Defnyddiwch yr arweiniad hwn os oes angen cymorth arnoch i reoli cynrychiolwyr undebol sy’n gofyn am amser i ffwrdd ar gyfer gwaith undebol. Darllenwch y sefyllfaoedd enghreifftiol i gael cyngor ar yr arferion gorau ar beth i’w wneud.

Delio â cheisiadau am amser i ffwrdd

Os yw rhywun yr ydych yn rheolwr arno yn gynrychiolydd undebol ac yn gofyn i chi am amser i ffwrdd i wneud gwaith undebol, mae’n bwysig eich bod yn delio â’i gais yn gywir. Os na fyddwch, gall effeithio ar eich perthynas waith ac ar forâl y tîm.

Darllenwch eich llawlyfr staff neu’ch mewnrwyd i weld pwy ddylai ddelio â’r cais. Os chi, eu rheolwr llinell, ddylai ddelio â’r mater, dylech wybod beth yw’r rheolau ar ddelio â cheisiadau o’r fath. Bydd yr arweiniad hwn yn rhoi enghreifftiau cam wrth gam i chi o geisiadau am amser i ffwrdd i wneud gwaith undebol, ac yn egluro’r ffordd orau o ystyried a delio â’r cais.

Cyn cychwyn

Cyn cychwyn defnyddio’r arweiniad hwn, byddai efallai’n syniad da i chi ddarllen y canllawiau sy’n egluro hawliau staff i gael amser i ffwrdd ar gyfer gwaith a gweithgareddau undebol – gweler ‘Mwy o ddolenni defnyddiol’ isod.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU