Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw'r cwmni yr ydych chi'n gweithio iddo yn cael ei drosglwyddo neu ei feddiannu, mae cyfrifoldeb ar y cyflogwr trosglwyddo a'r cyflogwr newydd i hysbysu cyflogeion y bydd y trosglwyddo'n effeithio arnynt ac i ymgynghori â nhw.
Mae gan unrhyw gyflogai yr effeithir arno gan broses o drosglwyddo neu feddiannu busnes hawl disgwyl i'w gyflogwr ymgynghori ag ef a'i hysbysu. Gallai hyn gynnwys:
Dylai'ch cyflogwr ddweud wrthych:
Os ydych yn cael eich trosglwyddo i gyflogwr newydd, dylai'ch cyflogwr presennol hefyd ymgynghori â chi ynghylch unrhyw gamau y mae'ch cyflogwr newydd yn meddwl y bydd yn eu cymryd a fydd yn effeithio arnoch chi. Rhaid cynnal yr ymgynghoriad gyda'r nod o ddod i gytundeb.
Os yw'ch cyflogwr presennol neu'ch darpar gyflogwr yn meddwl y byddant efallai'n cymryd camau a fydd yn effeithio arnoch chi, bydd yn rhaid iddynt ymgynghori â'ch cynrychiolwyr cyflogeion i geisio eich cael chi i gytuno â'r camau gweithredu. Bydd yn rhaid iddynt roi'r wybodaeth i chi mewn da bryd.
Os bwriedir ad-drefnu, gall eich cynrychiolydd gyflwyno'ch safbwyntiau chi. Bydd yn rhaid i'ch cyflogwr ymateb i'r rhain. Os bydd yn gwrthwynebu'r safbwyntiau, bydd yn rhaid iddo roi'r rheswm dros hynny.
Fel arfer, bydd y cyflogwyr yn rhannu gwybodaeth â chyflogeion ac yn ymgynghori â hwy drwy gynrychiolwyr cyflogeion a enwebwyd.
Cynrychiolwyr undebau llafur
Os oes gennych undeb llafur annibynnol a gydnabyddir at ddibenion cydfargeinio yn eich gweithle, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr hysbysu ac ymgynghori ag un o swyddogion awdurdodedig yr undeb honno. Gall y swyddog hwn fod yn swyddog undeb neu'n swyddog undeb rhanbarth, os bydd yn briodol, neu'n swyddog rhanbarthol neu genedlaethol. Nid oes rhaid i'r cyflogwr hysbysu ac ymgynghori ag unrhyw gynrychiolwyr cyflogeion eraill, ond gall benderfynu gwneud hynny os yw'r undeb llafur yn cael ei chydnabod ar gyfer un grŵp o gyflogeion ond nid ar gyfer grŵp arall.
Cynrychiolwyr cyflogeion
Os nad ydych yn cael eich cynrychioli gan undeb llafur, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr hysbysu ac ymgynghori â chynrychiolwyr cyflogeion priodol eraill. Gall y rhain fod yn gynrychiolwyr presennol neu'n gynrychiolwyr newydd a etholwyd yn arbennig.
Mae'ch cyflogwr yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod cynrychiolwyr priodol yn cael cyfle i fod yn rhan o'r ymgynghoriad.
Er enghraifft, ni ddylai eich cyflogwr hysbysu ac ymgynghori â phwyllgor a sefydlwyd yn arbennig i ystyried sut mae gweithredu ffreutur y staff os yw'r broses drosglwyddo'n mynd i effeithio ar y staff gwerthu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn briodol i'ch cyflogwr hysbysu ac ymgynghori â phwyllgor cyflogeion a etholwyd neu a benodwyd yn deg, megis cyngor gwaith, sy'n bwyllgor sy'n cael ei hysbysu neu yr ymgynghorir ag ef yn rheolaidd ar faterion mwy cyffredinol ynghylch materion personél a sefyllfa ariannol y busnes.
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Neu gallech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol i ofyn am help.
Os na allwch ddatrys y broblem gyda'r cyflogwr yn anffurfiol, efallai y bydd modd i chi wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth os ydych:
Gallwch benderfynu wneud hawliad yn erbyn eich cyflogwr trosglwyddo, eich cyflogwr newydd neu'r ddau. Os byddwch yn gwneud cwyn yn erbyn dim ond un cyflogwr, gallai'r cyflogwr benderfynu ymuno â'r cyflogwr arall yn yr achos.
Pan fydd y ddau gyflogwr wedi uno yn yr achos, byddant yn rhannu unrhyw daliad iawndal. Y Tribiwnlys Cyflogaeth fydd yn penderfynu pa gyfran y bydd pob cyflogwr yn ei thalu.